Revised Common Lectionary (Complementary)
Maschil Ethan yr Esrahiad.
89 Trugareddau yr Arglwydd a ddatganaf byth: â’m genau y mynegaf dy wirionedd o genhedlaeth hyd genhedlaeth. 2 Canys dywedais, Adeiledir trugaredd yn dragywydd: yn y nefoedd y sicrhei dy wirionedd. 3 Gwneuthum amod â’m hetholedig, tyngais i’m gwas Dafydd. 4 Yn dragywydd y sicrhaf dy had di; ac o genhedlaeth i genhedlaeth yr adeiladaf dy orseddfainc di. Sela.
19 Yna yr ymddiddenaist mewn gweledigaeth â’th Sanct, ac a ddywedaist, Gosodais gymorth ar un cadarn: dyrchefais un etholedig o’r bobl. 20 Cefais Dafydd fy ngwasanaethwr: eneiniais ef â’m holew sanctaidd: 21 Yr hwn y sicrheir fy llaw gydag ef: a’m braich a’i nertha ef. 22 Ni orthryma y gelyn ef; a’r mab anwir nis cystuddia ef. 23 Ac mi a goethaf ei elynion o’i flaen; a’i gaseion a drawaf. 24 Fy ngwirionedd hefyd a’m trugaredd fydd gydag ef; ac yn fy enw y dyrchefir ei gorn ef. 25 A gosodaf ei law yn y môr, a’i ddeheulaw yn yr afonydd. 26 Efe a lefa arnaf, Ti yw fy Nhad, fy Nuw, a Chraig fy iachawdwriaeth.
2 Ac yr oedd rhyw ŵr yn Sora, o dylwyth y Daniaid, a’i enw ef oedd Manoa; a’i wraig ef oedd amhlantadwy, heb esgor. 3 Ac angel yr Arglwydd a ymddangosodd i’r wraig, ac a ddywedodd wrthi, Wele, yn awr amhlantadwy ydwyt ti, ac heb esgor: ond ti a feichiogi, ac a esgori ar fab. 4 Ac yn awr, atolwg, ymochel, ac nac yf win na diod gadarn, ac na fwyta ddim aflan. 5 Canys wele, ti a feichiogi, ac a esgori ar fab; ac ni ddaw ellyn ar ei ben ef: canys Nasaread i Dduw fydd y bachgen o’r groth: ac efe a ddechrau waredu Israel o law y Philistiaid.
6 Yna y daeth y wraig ac a fynegodd i’w gŵr, gan ddywedyd, Gŵr Duw a ddaeth ataf fi; a’i bryd ef oedd fel pryd angel Duw, yn ofnadwy iawn: ond ni ofynnais iddo o ba le yr oedd, ac ni fynegodd yntau i mi ei enw. 7 Ond efe a ddywedodd wrthyf, Wele, ti a feichiogi, ac a esgori ar fab. Ac yn awr nac yf win na diod gadarn, ac na fwyta ddim aflan: canys Nasaread i Dduw fydd y bachgen, o’r groth hyd ddydd ei farwolaeth.
8 Yna Manoa a weddïodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Atolwg, fy Arglwydd, gad i ŵr Duw yr hwn a anfonaist, ddyfod eilwaith atom ni, a dysgu i ni beth a wnelom i’r bachgen a enir. 9 A Duw a wrandawodd ar lef Manoa: ac angel Duw a ddaeth eilwaith at y wraig, a hi yn eistedd yn y maes; ond Manoa ei gŵr nid oedd gyda hi. 10 A’r wraig a frysiodd, ac a redodd, ac a fynegodd i’w gŵr, ac a ddywedodd wrtho, Wele, ymddangosodd y gŵr i mi, yr hwn a ddaeth ataf fi y dydd arall. 11 A Manoa a gyfododd, ac a aeth ar ôl ei wraig, ac a ddaeth at y gŵr, ac a ddywedodd wrtho, Ai ti yw y gŵr a leferaist wrth y wraig? Dywedodd yntau, Ie, myfi. 12 A dywedodd Manoa, Deled yn awr dy eiriau i ben. Pa fodd y trinwn y bachgen, ac y gwnawn iddo ef? 13 Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrth Manoa, Rhag yr hyn oll a ddywedais wrth y wraig, ymocheled hi. 14 Na fwytaed o ddim a ddêl allan o’r winwydden, nac yfed win na diod gadarn, ac na fwytaed ddim aflan: cadwed yr hyn oll a orchmynnais iddi.
15 A dywedodd Manoa wrth angel yr Arglwydd, Gad, atolwg, i ni dy atal, tra y paratôm fyn gafr ger dy fron di. 16 Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrth Manoa, Ped atelit fi, ni fwytawn o’th fara di: os gwnei boethoffrwm, gwna ef i’r Arglwydd. Canys ni wyddai Manoa mai angel yr Arglwydd oedd efe. 17 A Manoa a ddywedodd wrth angel yr Arglwydd, Beth yw dy enw, fel y’th anrhydeddom di pan ddelo dy eiriau i ben? 18 Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrtho, Paham yr ymofynni am fy enw, gan ei fod yn rhyfeddol? 19 Felly Manoa a gymerth fyn gafr, a bwyd‐offrwm, ac a’i hoffrymodd ar y graig i’r Arglwydd. A’r angel a wnaeth yn rhyfedd: a Manoa a’i wraig oedd yn edrych. 20 Canys, pan ddyrchafodd y fflam oddi ar yr allor tua’r nefoedd, yna angel yr Arglwydd a ddyrchafodd yn fflam yr allor: a Manoa a’i wraig oedd yn edrych ar hynny, ac a syrthiasant i lawr ar eu hwynebau. 21 (Ond ni chwanegodd angel yr Arglwydd ymddangos mwyach i Manoa, nac i’w wraig.) Yna y gwybu Manoa mai angel yr Arglwydd oedd efe. 22 A Manoa a ddywedodd wrth ei wraig, Gan farw y byddwn feirw; canys gwelsom Dduw. 23 Ond ei wraig a ddywedodd wrtho ef, Pe mynasai yr Arglwydd ein lladd ni, ni dderbyniasai efe boethoffrwm a bwyd‐offrwm o’n llaw ni, ac ni ddangosasai efe i ni yr holl bethau hyn, ac ni pharasai efe i ni y pryd hyn glywed y fath bethau.
24 A’r wraig a ymddûg fab, ac a alwodd ei enw ef Samson. A’r bachgen a gynyddodd; a’r Arglwydd a’i bendithiodd ef.
40 Am hynny llawer o’r bobl, wedi clywed yr ymadrodd hwn, a ddywedasant, Yn wir hwn yw’r Proffwyd. 41 Eraill a ddywedasant, Hwn yw Crist. Eraill a ddywedasant, Ai o Galilea y daw Crist? 42 Oni ddywedodd yr ysgrythur, Mai o had Dafydd, ac o Fethlehem, y dref lle y bu Dafydd, y mae Crist yn dyfod? 43 Felly yr aeth ymrafael ymysg y bobl o’i blegid ef. 44 A rhai ohonynt a fynasent ei ddal ef; ond ni osododd neb ddwylo arno.
45 Yna y daeth y swyddogion at yr archoffeiriaid a’r Phariseaid; a hwy a ddywedasant wrthynt hwy, Paham na ddygasoch chwi ef? 46 A’r swyddogion a atebasant, Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn. 47 Yna y Phariseaid a atebasant iddynt, A hudwyd chwithau hefyd? 48 A gredodd neb o’r penaethiaid ynddo ef, neu o’r Phariseaid? 49 Eithr y bobl hyn, y rhai ni wyddant y gyfraith, melltigedig ydynt. 50 Nicodemus (yr hwn a ddaethai at yr Iesu o hyd nos, ac oedd un ohonynt) a ddywedodd wrthynt, 51 A ydyw ein cyfraith ni yn barnu dyn, oddieithr clywed ganddo ef yn gyntaf, a gwybod beth a wnaeth efe? 52 Hwythau a atebasant ac a ddywedasant wrtho, A ydwyt tithau o Galilea? Chwilia a gwêl, na chododd proffwyd o Galilea.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.