Revised Common Lectionary (Complementary)
Maschil Ethan yr Esrahiad.
89 Trugareddau yr Arglwydd a ddatganaf byth: â’m genau y mynegaf dy wirionedd o genhedlaeth hyd genhedlaeth. 2 Canys dywedais, Adeiledir trugaredd yn dragywydd: yn y nefoedd y sicrhei dy wirionedd. 3 Gwneuthum amod â’m hetholedig, tyngais i’m gwas Dafydd. 4 Yn dragywydd y sicrhaf dy had di; ac o genhedlaeth i genhedlaeth yr adeiladaf dy orseddfainc di. Sela.
19 Yna yr ymddiddenaist mewn gweledigaeth â’th Sanct, ac a ddywedaist, Gosodais gymorth ar un cadarn: dyrchefais un etholedig o’r bobl. 20 Cefais Dafydd fy ngwasanaethwr: eneiniais ef â’m holew sanctaidd: 21 Yr hwn y sicrheir fy llaw gydag ef: a’m braich a’i nertha ef. 22 Ni orthryma y gelyn ef; a’r mab anwir nis cystuddia ef. 23 Ac mi a goethaf ei elynion o’i flaen; a’i gaseion a drawaf. 24 Fy ngwirionedd hefyd a’m trugaredd fydd gydag ef; ac yn fy enw y dyrchefir ei gorn ef. 25 A gosodaf ei law yn y môr, a’i ddeheulaw yn yr afonydd. 26 Efe a lefa arnaf, Ti yw fy Nhad, fy Nuw, a Chraig fy iachawdwriaeth.
12 A mynegwyd i’r brenin Dafydd, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a fendithiodd dŷ Obed‐Edom, a’r hyn oll oedd ganddo, er mwyn arch Duw. Yna Dafydd a aeth, ac a ddug i fyny arch Duw o dŷ Obed‐Edom, i ddinas Dafydd, mewn llawenydd. 13 A phan gychwynnodd y rhai oedd yn dwyn arch yr Arglwydd chwech o gamau, yna efe a offrymodd ychen a phasgedigion. 14 A Dafydd a ddawnsiodd â’i holl egni gerbron yr Arglwydd; a Dafydd oedd wedi ymwregysu ag effod liain. 15 Felly Dafydd a holl dŷ Israel a ddygasant i fyny arch yr Arglwydd, trwy floddest, a sain utgorn. 16 Ac fel yr oedd arch yr Arglwydd yn dyfod i mewn i ddinas Dafydd, yna Michal merch Saul a edrychodd trwy ffenestr, ac a ganfu’r brenin Dafydd yn neidio, ac yn llemain o flaen yr Arglwydd; a hi a’i dirmygodd ef yn ei chalon.
17 A hwy a ddygasant i mewn arch yr Arglwydd, ac a’i gosodasant yn ei lle, yng nghanol y babell, yr hon a osodasai Dafydd iddi. A Dafydd a offrymodd boethoffrymau ac offrymau hedd gerbron yr Arglwydd. 18 Ac wedi gorffen o Dafydd offrymu poethoffrwm ac offrymau hedd, efe a fendithiodd y bobl yn enw Arglwydd y lluoedd. 19 Ac efe a rannodd i’r holl bobl, sef i holl dyrfa Israel, yn ŵr ac yn wraig, i bob un deisen o fara, ac un dryll o gig, ac un gostrelaid o win. Felly yr aeth yr holl bobl bawb i’w dŷ ei hun.
5 Canys wrth bwy o’r angylion y dywedodd efe un amser, Fy mab ydwyt ti; myfi heddiw a’th genhedlais di? A thrachefn, Myfi a fyddaf iddo ef yn Dad, ac efe a fydd i mi yn Fab? 6 A thrachefn, pan yw yn dwyn y Cyntaf‐anedig i’r byd, y mae yn dywedyd, Ac addoled holl angylion Duw ef. 7 Ac am yr angylion y mae yn dywedyd, Yr hwn sydd yn gwneuthur ei angylion yn ysbrydion, a’i weinidogion yn fflam dân. 8 Ond wrth y Mab, Dy orseddfainc di, O Dduw, sydd yn oes oesoedd: teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy deyrnas di. 9 Ti a geraist gyfiawnder, ac a gaseaist anwiredd: am hynny y’th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di, ag olew gorfoledd tu hwnt i’th gyfeillion. 10 Ac, Tydi yn y dechreuad, Arglwydd, a sylfaenaist y ddaear; a gwaith dy ddwylo di yw y nefoedd: 11 Hwynt‐hwy a ddarfyddant; ond tydi sydd yn parhau; a hwynt‐hwy oll fel dilledyn a heneiddiant; 12 Ac megis gwisg y plygi di hwynt, a hwy a newidir: ond tydi yr un ydwyt, a’th flynyddoedd ni phallant. 13 Ond wrth ba un o’r angylion y dywedodd efe un amser, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed? 14 Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt hwy oll, wedi eu danfon i wasanaethu er mwyn y rhai a gânt etifeddu iachawdwriaeth?
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.