Revised Common Lectionary (Complementary)
95 Deuwch, canwn i’r Arglwydd: ymlawenhawn yn nerth ein hiechyd. 2 Deuwn ger ei fron ef â diolch: canwn yn llafar iddo â salmau. 3 Canys yr Arglwydd sydd Dduw mawr, a Brenin mawr goruwch yr holl dduwiau. 4 Yr hwn y mae gorddyfnderau y ddaear yn ei law, ac uchelderau y mynyddoedd yn eiddo. 5 Y môr sydd eiddo, ac efe a’i gwnaeth: a’i ddwylo a luniasant y sychdir. 6 Deuwch, addolwn, ac ymgrymwn: gostyngwn ar ein gliniau gerbron yr Arglwydd ein Gwneuthurwr. 7 Canys efe yw ein Duw ni; a ninnau ŷm bobl ei borfa, a defaid ei law. Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd,
21 Meddwl hyn, Jacob ac Israel; canys fy ngwas ydwyt ti; lluniais di, gwas i mi ydwyt; Israel, ni’th anghofir gennyf. 22 Dileais dy gamweddau fel cwmwl, a’th bechodau fel niwl: dychwel ataf fi; canys myfi a’th waredais di. 23 Cenwch, nefoedd: canys yr Arglwydd a wnaeth hyn: bloeddiwch, gwaelodion y ddaear; bloeddiwch ganu, fynyddoedd, y coed a phob pren ynddo: canys gwaredodd yr Arglwydd Jacob, ac yn Israel yr ymogonedda efe. 24 Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd dy Waredydd, a’r hwn a’th luniodd o’r groth, Myfi yw yr Arglwydd sydd yn gwneuthur pob peth, yn estyn y nefoedd fy hunan, yn lledu y ddaear ohonof fy hun: 25 Yn diddymu arwyddion y rhai celwyddog, ac yn ynfydu dewiniaid; yn troi y doethion yn eu hôl, ac yn gwneuthur eu gwybodaeth yn ynfyd: 26 Yr hwn a gyflawna air ei was, ac a gwblha gyngor ei genhadon; yr hwn a ddywed wrth Jerwsalem, Ti a breswylir; ac wrth ddinasoedd Jwda, Chwi a adeiledir, a chyfodaf ei hadwyau: 27 Yr hwn wyf yn dywedyd wrth y dyfnder, Bydd sych; a mi a sychaf dy afonydd: 28 Yr hwn wyf yn dywedyd wrth Cyrus, Fy mugail yw, ac efe a gyflawna fy holl ewyllys: gan ddywedyd wrth Jerwsalem, Ti a adeiledir; ac wrth y deml, Ti a sylfaenir.
46 Tra ydoedd efe yn llefaru wrth y torfeydd, wele, ei fam a’i frodyr oedd yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan ag ef. 47 A dywedodd un wrtho, Wele, y mae dy fam di a’th frodyr yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan â thi. 48 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrth yr hwn a ddywedasai wrtho, Pwy yw fy mam i? a phwy yw fy mrodyr i? 49 Ac efe a estynnodd ei law tuag at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd, Wele fy mam i, a’m brodyr i: 50 Canys pwy bynnag a wna ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd, efe yw fy mrawd i, a’m chwaer, a’m mam.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.