Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 95:1-7

95 Deuwch, canwn i’r Arglwydd: ymlawenhawn yn nerth ein hiechyd. Deuwn ger ei fron ef â diolch: canwn yn llafar iddo â salmau. Canys yr Arglwydd sydd Dduw mawr, a Brenin mawr goruwch yr holl dduwiau. Yr hwn y mae gorddyfnderau y ddaear yn ei law, ac uchelderau y mynyddoedd yn eiddo. Y môr sydd eiddo, ac efe a’i gwnaeth: a’i ddwylo a luniasant y sychdir. Deuwch, addolwn, ac ymgrymwn: gostyngwn ar ein gliniau gerbron yr Arglwydd ein Gwneuthurwr. Canys efe yw ein Duw ni; a ninnau ŷm bobl ei borfa, a defaid ei law. Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd,

1 Cronicl 17:1-15

17 A phan oedd Dafydd yn trigo yn ei dŷ, Dafydd a ddywedodd wrth Nathan y proffwyd, Wele fi yn trigo mewn tŷ o gedrwydd, ac arch cyfamod yr Arglwydd dan gortynnau. Yna Nathan a ddywedodd wrth Dafydd, Gwna yr hyn oll sydd yn dy galon; canys y mae Duw gyda thi.

A’r noson honno y daeth gair Duw at Nathan, gan ddywedyd, Dos, a dywed wrth Dafydd fy ngwas, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Nid adeiledi di i mi dŷ i breswylio ynddo. Canys ni phreswyliais i mewn tŷ er y dydd y dygais i fyny Israel hyd y dydd hwn, ond bûm o babell i babell, ac o dabernacl bwygilydd. Ym mha le bynnag y rhodiais gyda holl Israel, a yngenais i air wrth un o farnwyr Israel, i’r rhai y gorchmynaswn borthi fy mhobl, gan ddywedyd, Paham nad adeiladasoch i mi dŷ o gedrwydd? Ac yr awr hon fel hyn y dywedi wrth Dafydd fy ngwas, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Myfi a’th gymerais di o’r gorlan, oddi ar ôl y praidd, i fod yn dywysog ar fy mhobl Israel. A bûm gyda thi, i ba le bynnag y rhodiaist, torrais ymaith hefyd dy holl elynion o’th flaen, a gwneuthum enw i ti megis enw y gwŷr mawr sydd ar y ddaear. Gosodaf hefyd i’m pobl Israel le, ac a’u plannaf, a hwy a drigant yn eu lle, ac ni symudir hwynt mwyach; a meibion anwiredd ni chwanegant eu cystuddio, megis yn y cyntaf, 10 Ac er y dyddiau y gorchmynnais i farnwyr fod ar fy mhobl Israel; darostyngaf hefyd dy holl elynion di, a mynegaf i ti yr adeilada yr Arglwydd i ti dŷ.

11 A bydd pan gyflawner dy ddyddiau di i fyned at dy dadau, y cyfodaf dy had ar dy ôl di, yr hwn a fydd o’th feibion di, a mi a sicrhaf ei deyrnas ef. 12 Efe a adeilada i mi dŷ, a minnau a sicrhaf ei deyrngadair ef byth. 13 Myfi a fyddaf iddo ef yn dad, ac yntau fydd i mi yn fab, a’m trugaredd ni thynnaf oddi wrtho ef, megis y tynnais oddi wrth yr hwn a fu o’th flaen di. 14 Ond mi a’i gosodaf ef yn fy nhŷ, ac yn fy nheyrnas byth; a’i deyrngadair ef a sicrheir byth. 15 Yn ôl yr holl eiriau hyn, ac yn ôl yr holl weledigaeth hon, felly y llefarodd Nathan wrth Dafydd.

Datguddiad 22:1-9

22 Ac efe a ddangosodd imi afon bur o ddwfr y bywyd, disglair fel grisial, yn dyfod allan o orseddfainc Duw a’r Oen. Yng nghanol ei heol hi, ac o ddau tu’r afon, yr oedd pren y bywyd, yn dwyn deuddeg rhyw ffrwyth, bob mis yn rhoddi ei ffrwyth: a dail y pren oedd i iacháu’r cenhedloedd: A phob melltith ni bydd mwyach: ond gorseddfainc Duw a’r Oen a fydd ynddi hi; a’i weision ef a’i gwasanaethant ef, A hwy a gânt weled ei wyneb ef; a’i enw ef a fydd yn eu talcennau hwynt. Ac ni bydd nos yno: ac nid rhaid iddynt wrth gannwyll, na goleuni haul; oblegid y mae’r Arglwydd Dduw yn goleuo iddynt: a hwy a deyrnasant yn oes oesoedd. Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Y geiriau hyn sydd ffyddlon a chywir: ac Arglwydd Dduw’r proffwydi sanctaidd a ddanfonodd ei angel i ddangos i’w wasanaethwyr y pethau sydd raid iddynt fod ar frys. Wele, yr wyf yn dyfod ar frys: gwyn ei fyd yr hwn sydd yn cadw geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn. A myfi Ioan a welais y pethau hyn, ac a’u clywais. A phan ddarfu i mi glywed a gweled, mi a syrthiais i lawr i addoli gerbron traed yr angel oedd yn dangos i mi’r pethau hyn. Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Gwêl na wnelych: canys cyd-was ydwyf i ti, ac i’th frodyr y proffwydi, ac i’r rhai sydd yn cadw geiriau’r llyfr hwn. Addola Dduw.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.