Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd ar Muth‐labben, Salm Dafydd.
9 Clodforaf di, O Arglwydd, â’m holl galon: mynegaf dy holl ryfeddodau. 2 Llawenychaf a gorfoleddaf ynot: canaf i’th enw di, y Goruchaf. 3 Pan ddychweler fy ngelynion yn eu hôl, hwy a gwympant ac a ddifethir o’th flaen di. 4 Canys gwnaethost fy marn a’m mater yn dda: eisteddaist ar orseddfainc, gan farnu yn gyfiawn. 5 Ceryddaist y cenhedloedd, distrywiaist yr annuwiol; eu henw hwynt a ddileaist byth bythol. 6 Ha elyn, darfu am ddinistr yn dragywydd: a diwreiddiaist y dinasoedd; darfu eu coffadwriaeth gyda hwynt. 7 Ond yr Arglwydd a bery yn dragywydd: efe a baratôdd ei orseddfainc i farn. 8 Ac efe a farn y byd mewn cyfiawnder: efe a farn y bobloedd mewn uniondeb. 9 Yr Arglwydd hefyd fydd noddfa i’r gorthrymedig, noddfa yn amser trallod. 10 A’r rhai a adwaenant dy enw, a ymddiriedant ynot: canys ni adewaist, O Arglwydd, y rhai a’th geisient. 11 Canmolwch yr Arglwydd, yr hwn sydd yn preswylio yn Seion: mynegwch ymysg y bobloedd ei weithredoedd ef. 12 Pan ymofynno efe am waed, efe a’u cofia hwynt: nid anghofia waedd y cystuddiol. 13 Trugarha wrthyf, Arglwydd; gwêl fy mlinder gan fy nghaseion, fy nyrchafydd o byrth angau: 14 Fel y mynegwyf dy holl foliant ym mhyrth merch Seion: llawenychaf yn dy iachawdwriaeth.
16 Ajob a atebodd ac a ddywedodd, 2 Clywais lawer o’r fath hyn: cysurwyr gofidus ydych chwi oll. 3 Oni cheir diwedd ar eiriau ofer? neu pa beth sydd yn dy gryfhau di i ateb? 4 Mi a fedrwn ddywedyd fel chwithau: pe byddai eich enaid chwi yn lle fy enaid i, medrwn bentyrru geiriau i’ch erbyn, ac ysgwyd fy mhen arnoch. 5 Ond mi a’ch cryfhawn chwi â’m genau; a symudiad fy ngwefusau a esmwythâi eich gofid. 6 Os llefaraf fi, nid esmwytha fy nolur; ac os peidiaf, ai llai fy ngofid? 7 Ond yn awr efe a’m blinodd i; anrheithiaist fy holl gynulleidfa: 8 A chroengrychaist fi, a hynny sydd dystiolaeth: a’m culni yn codi ynof, a dystiolaetha yn fy wyneb. 9 Yn ei ddicllondeb y’m rhwyga yr hwn a’m casâ: efe a ysgyrnyga ddannedd arnaf; fy ngwrthwynebwr a flaenllymodd ei lygaid yn fy erbyn. 10 Hwy a ledasant eu safnau arnaf; trawsant fy nghernau yn ddirmygus; ymgasglasant ynghyd yn fy erbyn. 11 Duw a’m rhoddes i’r anwir; ac a’m trodd i ddwylo yr annuwiolion. 12 Yr oeddwn yn esmwyth; ond efe a’m drylliodd, ac a ymaflodd yn fy ngwddf, ac a’m drylliodd yn chwilfriw, ac a’m cododd yn nod iddo ei hun. 13 Ei saethyddion ef sydd yn fy amgylchu; y mae efe yn hollti fy arennau, ac nid ydyw yn arbed; y mae yn tywallt fy mustl ar y ddaear. 14 Y mae yn fy rhwygo â rhwygiad ar rwygiad: y mae efe yn rhedeg arnaf fel cawr. 15 Gwnïais sachlen ar fy nghroen, a halogais fy nghorn yn y llwch. 16 Fy wyneb sydd fudr gan wylo, a chysgod marwolaeth sydd ar fy amrantau: 17 Er nad oes gamwedd yn fy nwylo; a bod fy ngweddi yn bur. 18 O ddaearen, na orchuddia fy ngwaed, ac na fydded lle i’m gwaedd. 19 Wele hefyd yn awr fy nhyst yn y nefoedd; a’m tystiolaeth yn yr uchelder. 20 Fy nghyfeillion sydd yn fy ngwawdio: fy llygad a ddiferodd ddagrau wrth Dduw. 21 O na châi un ymddadlau â Duw dros ddyn, fel mab dyn dros ei gymydog!
45 Pwy gan hynny sydd was ffyddlon a doeth, yr hwn a osododd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi bwyd iddynt mewn pryd? 46 Gwyn ei fyd y gwas hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddelo, yn gwneuthur felly. 47 Yn wir meddaf i chwi, Ar ei holl dda y gesyd efe ef. 48 Ond os dywed y gwas drwg hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod; 49 A dechrau curo ei gyd‐weision, a bwyta ac yfed gyda’r meddwon; 50 Arglwydd y gwas hwnnw a ddaw yn y dydd nid yw efe yn disgwyl amdano, ac mewn awr nis gŵyr efe; 51 Ac efe a’i gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyda’r rhagrithwyr: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.