Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd ar Muth‐labben, Salm Dafydd.
9 Clodforaf di, O Arglwydd, â’m holl galon: mynegaf dy holl ryfeddodau. 2 Llawenychaf a gorfoleddaf ynot: canaf i’th enw di, y Goruchaf. 3 Pan ddychweler fy ngelynion yn eu hôl, hwy a gwympant ac a ddifethir o’th flaen di. 4 Canys gwnaethost fy marn a’m mater yn dda: eisteddaist ar orseddfainc, gan farnu yn gyfiawn. 5 Ceryddaist y cenhedloedd, distrywiaist yr annuwiol; eu henw hwynt a ddileaist byth bythol. 6 Ha elyn, darfu am ddinistr yn dragywydd: a diwreiddiaist y dinasoedd; darfu eu coffadwriaeth gyda hwynt. 7 Ond yr Arglwydd a bery yn dragywydd: efe a baratôdd ei orseddfainc i farn. 8 Ac efe a farn y byd mewn cyfiawnder: efe a farn y bobloedd mewn uniondeb. 9 Yr Arglwydd hefyd fydd noddfa i’r gorthrymedig, noddfa yn amser trallod. 10 A’r rhai a adwaenant dy enw, a ymddiriedant ynot: canys ni adewaist, O Arglwydd, y rhai a’th geisient. 11 Canmolwch yr Arglwydd, yr hwn sydd yn preswylio yn Seion: mynegwch ymysg y bobloedd ei weithredoedd ef. 12 Pan ymofynno efe am waed, efe a’u cofia hwynt: nid anghofia waedd y cystuddiol. 13 Trugarha wrthyf, Arglwydd; gwêl fy mlinder gan fy nghaseion, fy nyrchafydd o byrth angau: 14 Fel y mynegwyf dy holl foliant ym mhyrth merch Seion: llawenychaf yn dy iachawdwriaeth.
2 Dyrchefais fy llygaid drachefn, ac edrychais; ac wele ŵr, ac yn ei law linyn mesur. 2 A dywedais, I ba le yr ei di? Ac efe a ddywedodd wrthyf, I fesuro Jerwsalem, i weled beth yw ei lled hi, a pheth yw ei hyd hi. 3 Ac wele yr angel a oedd yn ymddiddan â mi yn myned allan, ac angel arall yn myned allan i’w gyfarfod ef. 4 Ac efe a ddywedodd wrtho, Rhed, llefara wrth y llanc hwn, gan ddywedyd, Jerwsalem a gyfanheddir fel maestrefi, rhag amled dyn ac anifail o’i mewn. 5 Canys byddaf iddi yn fur o dân o amgylch, medd yr Arglwydd, a byddaf yn ogoniant yn ei chanol.
5 Yna y troais, a chodais fy llygaid, ac edrychais; ac wele blyg llyfr yn ehedeg. 2 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di? A dywedais, Mi a welaf blyg llyfr yn ehedeg, a’i hyd yn ugain cufydd, a’i led yn ddeg cufydd. 3 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma y felltith sydd yn myned allan ar wyneb yr holl ddaear: canys pob un a ladrato, a dorrir ymaith fel o’r tu yma, yn ei hôl hi; a phob un a dyngo, a dorrir ymaith fel o’r tu acw, yn ei hôl hi. 4 Dygaf hi allan, medd Arglwydd y lluoedd, a hi a ddaw i dŷ y lleidr, ac i dŷ y neb a dyngo i’m henw i ar gam: a hi a erys yng nghanol ei dŷ ef, ac a’i difa ef, a’i goed, a’i gerrig.
12 Ac yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, adnabod y rhai sydd yn llafurio yn eich mysg, ac yn eich llywodraethu chwi yn yr Arglwydd, ac yn eich rhybuddio; 13 A gwneuthur cyfrif mawr ohonynt mewn cariad, er mwyn eu gwaith. Byddwch dangnefeddus yn eich plith eich hunain. 14 Ond yr ydym yn deisyf arnoch, frodyr, rhybuddiwch y rhai afreolus, diddenwch y gwan eu meddwl, cynheliwch y gweiniaid, byddwch ymarhous wrth bawb. 15 Gwelwch na thalo neb ddrwg dros ddrwg i neb: eithr yn wastadol dilynwch yr hyn sydd dda, tuag at eich gilydd, a thuag at bawb. 16 Byddwch lawen yn wastadol. 17 Gweddïwch yn ddi-baid. 18 Ym mhob dim diolchwch: canys hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu tuag atoch chwi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.