Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd ar Muth‐labben, Salm Dafydd.
9 Clodforaf di, O Arglwydd, â’m holl galon: mynegaf dy holl ryfeddodau. 2 Llawenychaf a gorfoleddaf ynot: canaf i’th enw di, y Goruchaf. 3 Pan ddychweler fy ngelynion yn eu hôl, hwy a gwympant ac a ddifethir o’th flaen di. 4 Canys gwnaethost fy marn a’m mater yn dda: eisteddaist ar orseddfainc, gan farnu yn gyfiawn. 5 Ceryddaist y cenhedloedd, distrywiaist yr annuwiol; eu henw hwynt a ddileaist byth bythol. 6 Ha elyn, darfu am ddinistr yn dragywydd: a diwreiddiaist y dinasoedd; darfu eu coffadwriaeth gyda hwynt. 7 Ond yr Arglwydd a bery yn dragywydd: efe a baratôdd ei orseddfainc i farn. 8 Ac efe a farn y byd mewn cyfiawnder: efe a farn y bobloedd mewn uniondeb. 9 Yr Arglwydd hefyd fydd noddfa i’r gorthrymedig, noddfa yn amser trallod. 10 A’r rhai a adwaenant dy enw, a ymddiriedant ynot: canys ni adewaist, O Arglwydd, y rhai a’th geisient. 11 Canmolwch yr Arglwydd, yr hwn sydd yn preswylio yn Seion: mynegwch ymysg y bobloedd ei weithredoedd ef. 12 Pan ymofynno efe am waed, efe a’u cofia hwynt: nid anghofia waedd y cystuddiol. 13 Trugarha wrthyf, Arglwydd; gwêl fy mlinder gan fy nghaseion, fy nyrchafydd o byrth angau: 14 Fel y mynegwyf dy holl foliant ym mhyrth merch Seion: llawenychaf yn dy iachawdwriaeth.
7 Ar y pedwerydd dydd ar hugain o’r unfed mis ar ddeg, hwnnw yw mis Sebat, o’r ail flwyddyn i Dareius, y daeth gair yr Arglwydd at Sechareia, mab Baracheia, mab Ido y proffwyd, gan ddywedyd, 8 Gwelais noswaith; ac wele ŵr yn marchogaeth ar farch coch, ac yr oedd efe yn sefyll rhwng y myrtwydd y rhai oedd yn y pant; ac o’i ôl ef feirch cochion, brithion, a gwynion. 9 Yna y dywedais, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd? A dywedodd yr angel oedd yn ymddiddan â mi wrthyf, Mi a ddangosaf i ti beth yw y rhai hyn. 10 A’r gŵr, yr hwn oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd, a atebodd ac a ddywedodd, Dyma y rhai a hebryngodd yr Arglwydd i ymrodio trwy y ddaear. 11 A hwythau a atebasant angel yr Arglwydd, yr hwn oedd yn sefyll rhwng y coed myrt, ac a ddywedasant, Rhodiasom trwy y ddaear; ac wele yr holl ddaear yn eistedd, ac yn llonydd.
12 Ac angel yr Arglwydd a atebodd ac a ddywedodd, O Arglwydd y lluoedd, pa hyd na thrugarhei wrth Jerwsalem, a dinasoedd Jwda, wrth y rhai y digiaist y deng mlynedd a thrigain hyn? 13 A’r Arglwydd a atebodd yr angel oedd yn ymddiddan â mi, â geiriau daionus, a geiriau comfforddus. 14 A’r angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi a ddywedodd wrthyf, Gwaedda, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Deliais eiddigedd mawr dros Jerwsalem a thros Seion: 15 A digiais yn ddirfawr wrth y cenhedloedd difraw; y rhai pan ddigiais ychydig, hwythau a gynorthwyasant y niwed. 16 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd; Dychwelais at Jerwsalem â thrugareddau: fy nhŷ a adeiledir ynddi, medd Arglwydd y lluoedd, a llinyn a estynnir ar Jerwsalem. 17 Gwaedda eto, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Fy ninasoedd a ymehangant gan ddaioni, a’r Arglwydd a rydd gysur i Seion eto, ac a ddewis Jerwsalem eto.
2 Oherwydd paham, diesgus wyt ti, O ddyn, pwy bynnag wyt yn barnu: canys yn yr hyn yr wyt yn barnu arall, yr wyt yn dy gondemnio dy hun: canys ti yr hwn wyt yn barnu, wyt yn gwneuthur yr un pethau. 2 Eithr ni a wyddom fod barn Duw yn ôl gwirionedd, yn erbyn y rhai a wnânt gyfryw bethau. 3 Ac a wyt ti’n tybied hyn, O ddyn, yr hwn wyt yn barnu’r rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau, a thithau yn gwneuthur yr un pethau, y dihengi di rhag barn Duw? 4 Neu a wyt ti’n diystyru golud ei ddaioni ef, a’i ddioddefgarwch, a’i ymaros, heb wybod fod daioni Duw yn dy dywys di i edifeirwch? 5 Eithr yn ôl dy galedrwydd, a’th galon ddiedifeiriol, wyt yn trysori i ti dy hun ddigofaint erbyn dydd y digofaint, a datguddiad cyfiawn farn Duw, 6 Yr hwn a dâl i bob un yn ôl ei weithredoedd: 7 Sef i’r rhai trwy barhau yn gwneuthur da, a geisiant ogoniant, ac anrhydedd, ac anllygredigaeth, bywyd tragwyddol: 8 Eithr i’r rhai sydd gynhennus, ac anufudd i’r gwirionedd, eithr yn ufudd i anghyfiawnder, y bydd llid a digofaint; 9 Trallod ac ing ar bob enaid dyn sydd yn gwneuthur drwg; yr Iddew yn gyntaf, a’r Groegwr hefyd: 10 Eithr gogoniant, ac anrhydedd, a thangnefedd, i bob un sydd yn gwneuthur daioni; i’r Iddew yn gyntaf, ac i’r Groegwr hefyd. 11 Canys nid oes derbyn wyneb gerbron Duw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.