Revised Common Lectionary (Complementary)
7 Distawa gerbron yr Arglwydd Dduw; canys agos yw dydd yr Arglwydd: oherwydd arlwyodd yr Arglwydd aberth, gwahoddodd ei wahoddedigion.
12 A’r amser hwnnw y chwiliaf Jerwsalem â llusernau, ac yr ymwelaf â’r dynion sydd yn ceulo ar eu sorod; y rhai a ddywedant yn eu calon, Ni wna yr Arglwydd dda, ac ni wna ddrwg. 13 Am hynny eu cyfoeth a â yn ysbail, a’u teiau yn anghyfannedd: adeiladant hefyd dai, ond ni phreswyliant ynddynt; a phlannant winllannoedd, ond nid yfant o’r gwin. 14 Agos yw mawr ddydd yr Arglwydd, agos a phrysur iawn, sef llais dydd yr Arglwydd: yno y bloeddia y dewr yn chwerw. 15 Diwrnod llidiog yw y diwrnod hwnnw, diwrnod trallod a chyfyngdra, diwrnod dinistr ac anghyfanhedd-dra, diwrnod tywyll a du, diwrnod cymylau a thywyllni. 16 Diwrnod utgorn a larwm yn erbyn y dinasoedd caerog, ac yn erbyn y tyrau uchel. 17 A mi a gyfyngaf ar ddynion, a hwy a rodiant megis deillion, am bechu ohonynt yn erbyn yr Arglwydd; a’u gwaed a dywelltir fel llwch, a’u cnawd fel tom. 18 Nid eu harian na’u haur chwaith a ddichon eu hachub hwynt ar ddiwrnod llid yr Arglwydd; ond â thân ei eiddigedd ef yr ysir yr holl dir: canys gwna yr Arglwydd ddiben prysur ar holl breswylwyr y ddaear.
Gweddi Moses gŵr Duw.
90 Ti, Arglwydd, fuost yn breswylfa i ni ym mhob cenhedlaeth. 2 Cyn gwneuthur y mynyddoedd, a llunio ohonot y ddaear, a’r byd; ti hefyd wyt Dduw, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. 3 Troi ddyn i ddinistr; a dywedi, Dychwelwch, feibion dynion. 4 Canys mil o flynyddoedd ydynt yn dy olwg di fel doe, wedi yr êl heibio, ac fel gwyliadwriaeth nos. 5 Dygi hwynt ymaith megis â llifeiriant; y maent fel hun: y bore y maent fel llysieuyn a newidir. 6 Y bore y blodeua, ac y tyf; prynhawn y torrir ef ymaith, ac y gwywa. 7 Canys yn dy ddig y difethwyd ni, ac yn dy lidiowgrwydd y’n brawychwyd. 8 Gosodaist ein hanwiredd ger dy fron, ein dirgel bechodau yng ngoleuni dy wyneb.
9 Canys ein holl ddyddiau ni a ddarfuant gan dy ddigofaint di: treuliasom ein blynyddoedd fel chwedl. 10 Yn nyddiau ein blynyddoedd y mae deng mlynedd a thrigain: ac os o gryfder y cyrhaeddir pedwar ugain mlynedd, eto eu nerth sydd boen a blinder; canys ebrwydd y derfydd, a ni a ehedwn ymaith. 11 Pwy a edwyn nerth dy soriant? canys fel y mae dy ofn, y mae dy ddicter.
12 Dysg i ni felly gyfrif ein dyddiau, fel y dygom ein calon i ddoethineb.
5 Eithr am yr amserau a’r prydiau, frodyr, nid rhaid i chwi ysgrifennu ohonof atoch. 2 Oblegid chwi a wyddoch eich hunain yn hysbys, mai felly y daw dydd yr Arglwydd fel lleidr yn y nos. 3 Canys pan ddywedant, Tangnefedd a diogelwch; yna y mae dinistr disymwth yn dyfod ar eu gwarthaf, megis gwewyr esgor ar un a fo beichiog; ac ni ddihangant hwy ddim. 4 Ond chwychwi, frodyr, nid ydych mewn tywyllwch, fel y goddiweddo’r dydd hwnnw chwi megis lleidr. 5 Chwychwi oll, plant y goleuni ydych, a phlant y dydd: nid ydym ni o’r nos, nac o’r tywyllwch. 6 Am hynny na chysgwn, fel rhai eraill; eithr gwyliwn, a byddwn sobr. 7 Canys y rhai a gysgant, y nos y cysgant; a’r rhai a feddwant, y nos y meddwant. 8 Eithr nyni, gan ein bod o’r dydd, byddwn sobr, wedi ymwisgo â dwyfronneg ffydd a chariad, ac â gobaith iachawdwriaeth yn lle helm. 9 Canys nid apwyntiodd Duw nyni i ddigofaint, ond i gaffael iachawdwriaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist, 10 Yr hwn a fu farw drosom; fel pa un bynnag a wnelom ai gwylied ai cysgu, y byddom fyw gydag ef. 11 Oherwydd paham cynghorwch eich gilydd, ac adeiledwch bob un eich gilydd, megis ag yr ydych yn gwneuthur.
14 Canys y mae teyrnas nefoedd fel dyn yn myned i wlad ddieithr, yr hwn a alwodd ei weision, ac a roddes ei dda atynt. 15 Ac i un y rhoddodd efe bum talent, ac i arall ddwy, ac i arall un, i bob un yn ôl ei allu ei hun; ac yn y fan efe a aeth oddi cartref. 16 A’r hwn a dderbyniasai’r pum talent a aeth, ac a farchnataodd â hwynt, ac a wnaeth bum talent eraill. 17 A’r un modd yr hwn a dderbyniasai’r ddwy, a enillodd yntau ddwy eraill. 18 Ond yr hwn a dderbyniasai un, a aeth, ac a gloddiodd yn y ddaear, ac a guddiodd arian ei arglwydd. 19 Ac wedi llawer o amser, y mae arglwydd y gweision hynny yn dyfod, ac yn cyfrif â hwynt. 20 A daeth yr hwn a dderbyniasai bum talent, ac a ddug bum talent eraill, gan ddywedyd, Arglwydd, pum talent a roddaist ataf: wele, mi a enillais bum talent eraill atynt. 21 A dywedodd ei arglwydd wrtho, Da, was da a ffyddlon: buost ffyddlon ar ychydig, mi a’th osodaf ar lawer: dos i mewn i lawenydd dy arglwydd. 22 A’r hwn a dderbyniasai ddwy dalent a ddaeth, ac a ddywedodd, Arglwydd, dwy dalent a roddaist ataf: wele, dwy eraill a enillais atynt. 23 Ei arglwydd a ddywedodd wrtho, Da, was da a ffyddlon: buost ffyddlon ar ychydig, mi a’th osodaf ar lawer: dos i mewn i lawenydd dy arglwydd. 24 A’r hwn a dderbyniasai’r un dalent a ddaeth, ac a ddywedodd, Arglwydd, mi a’th adwaenwn di, mai gŵr caled ydwyt, yn medi lle nis heuaist, ac yn casglu lle ni wasgeraist: 25 A mi a ofnais, ac a euthum, ac a guddiais dy dalent yn y ddaear: wele, yr wyt yn cael yr eiddot dy hun. 26 A’i arglwydd a atebodd ac a ddywedodd wrtho, O was drwg a diog, ti a wyddit fy mod yn medi lle nis heuais, ac yn casglu lle nis gwasgerais: 27 Am hynny y dylesit ti roddi fy arian at y cyfnewidwyr; a mi, pan ddaethwn, a gawswn dderbyn yr eiddof fy hun gyda llog. 28 Cymerwch gan hynny y dalent oddi wrtho, a rhoddwch i’r hwn sydd ganddo ddeg talent. 29 Canys i bob un y mae ganddo y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd; ac oddi ar yr hwn nid oes ganddo y dygir oddi arno, ie, yr hyn sydd ganddo. 30 A bwriwch allan y gwas anfuddiol i’r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.