Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 90:1-8

Gweddi Moses gŵr Duw.

90 Ti, Arglwydd, fuost yn breswylfa i ni ym mhob cenhedlaeth. Cyn gwneuthur y mynyddoedd, a llunio ohonot y ddaear, a’r byd; ti hefyd wyt Dduw, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. Troi ddyn i ddinistr; a dywedi, Dychwelwch, feibion dynion. Canys mil o flynyddoedd ydynt yn dy olwg di fel doe, wedi yr êl heibio, ac fel gwyliadwriaeth nos. Dygi hwynt ymaith megis â llifeiriant; y maent fel hun: y bore y maent fel llysieuyn a newidir. Y bore y blodeua, ac y tyf; prynhawn y torrir ef ymaith, ac y gwywa. Canys yn dy ddig y difethwyd ni, ac yn dy lidiowgrwydd y’n brawychwyd. Gosodaist ein hanwiredd ger dy fron, ein dirgel bechodau yng ngoleuni dy wyneb.

Salmau 90:9-11

Canys ein holl ddyddiau ni a ddarfuant gan dy ddigofaint di: treuliasom ein blynyddoedd fel chwedl. 10 Yn nyddiau ein blynyddoedd y mae deng mlynedd a thrigain: ac os o gryfder y cyrhaeddir pedwar ugain mlynedd, eto eu nerth sydd boen a blinder; canys ebrwydd y derfydd, a ni a ehedwn ymaith. 11 Pwy a edwyn nerth dy soriant? canys fel y mae dy ofn, y mae dy ddicter.

Salmau 90:12

12 Dysg i ni felly gyfrif ein dyddiau, fel y dygom ein calon i ddoethineb.

Eseciel 6

A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, Mab dyn, gosod dy wyneb tua mynyddoedd Israel, a phroffwyda yn eu herbyn; A dywed, Mynyddoedd Israel, gwrandewch air yr Arglwydd Dduw: Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth y mynyddoedd ac wrth y bryniau, wrth y nentydd ac wrth y dyffrynnoedd; Wele fi, ie, myfi yn dwyn cleddyf arnoch, a mi a ddinistriaf eich uchel leoedd. Eich allorau hefyd a ddifwynir, a’ch haul‐ddelwau a ddryllir: a chwympaf eich archolledigion o flaen eich eilunod. A rhoddaf gelanedd meibion Israel gerbron eu heilunod, a thaenaf eich esgyrn o amgylch eich allorau. Yn eich holl drigfeydd y dinasoedd a anrheithir, a’r uchelfeydd a ddifwynir; fel yr anrheithier ac y difwyner eich allorau, ac y torrer ac y peidio eich eilunod, ac y torrer ymaith eich haul‐ddelwau, ac y dileer eich gweithredoedd. Yr archolledig hefyd a syrth yn eich canol; a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd.

Eto gadawaf weddill, fel y byddo i chwi rai wedi dianc gan y cleddyf ymysg y cenhedloedd, pan wasgarer chwi trwy y gwledydd. A’ch rhai dihangol a’m cofiant i ymysg y cenhedloedd y rhai y caethgludir hwynt atynt, am fy nryllio â’u calon buteinllyd, yr hon a giliodd oddi wrthyf; ac â’u llygaid, y rhai a buteiniasant ar ôl eu heilunod: yna yr ymffieiddiant ynddynt eu hun am y drygioni a wnaethant yn eu holl ffieidd‐dra. 10 A chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, ac na leferais yn ofer am wneuthur iddynt y drwg hwn.

11 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Taro â’th law, a chur â’th droed, a dywed, O, rhag holl ffieidd‐dra drygioni tŷ Israel! canys trwy gleddyf, trwy newyn, a thrwy haint, y syrthiant. 12 Y pellennig a fydd farw o’r haint, a’r cyfagos a syrth gan y cleddyf; y gweddilledig hefyd a’r gwarchaeëdig a fydd farw o newyn: fel hyn y gorffennaf fy llidiowgrwydd arnynt. 13 A chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan fyddo eu harcholledigion hwynt ymysg eu heilunod o amgylch eu hallorau, ar bob bryn uchel, ar holl bennau y mynyddoedd, a than bob pren ir, a than bob derwen gaeadfrig, lle y rhoddasant arogl peraidd i’w holl eilunod. 14 Felly yr estynnaf fy llaw arnynt, a gwnaf y tir yn anrhaith; ie, yn fwy anrheithiol na’r anialwch tua Diblath, trwy eu holl drigfeydd: a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd.

Datguddiad 16:1-7

16 Ac mi a glywais lef uchel allan o’r deml, yn dywedyd wrth y saith angel, Ewch ymaith, a thywelltwch ffiolau digofaint Duw ar y ddaear. A’r cyntaf a aeth, ac a dywalltodd ei ffiol ar y ddaear; a bu cornwyd drwg a blin ar y dynion oedd â nod y bwystfil arnynt, a’r rhai a addolasent ei ddelw ef. A’r ail angel a dywalltodd ei ffiol ar y môr; ac efe a aeth fel gwaed dyn marw: a phob enaid byw a fu farw yn y môr. A’r trydydd angel a dywalltodd ei ffiol ar yr afonydd ac ar y ffynhonnau dyfroedd; a hwy a aethant yn waed. Ac mi a glywais angel y dyfroedd yn dywedyd, Cyfiawn, O Arglwydd, ydwyt ti, yr hwn wyt, a’r hwn oeddit, a’r hwn a fyddi; oblegid barnu ohonot y pethau hyn. Oblegid gwaed saint a phroffwydi a dywalltasant hwy, a gwaed a roddaist iddynt i’w yfed; canys y maent yn ei haeddu. Ac mi a glywais un arall allan o’r allor yn dywedyd, Ie, Arglwydd Dduw Hollalluog, cywir a chyfiawn yw dy farnau di.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.