Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd, pan oedd efe yn niffeithwch Jwda.
63 Ti, O Dduw, yw fy Nuw i; yn fore y’th geisiaf: sychedodd fy enaid amdanat, hiraethodd fy nghnawd amdanat, mewn tir cras a sychedig heb ddwfr; 2 I weled dy nerth a’th ogoniant, fel y’th welais yn y cysegr. 3 Canys gwell yw dy drugaredd di na’r bywyd: fy ngwefusau a’th foliannant. 4 Fel hyn y’th glodforaf yn fy mywyd: dyrchafaf fy nwylo yn dy enw. 5 Megis â mer ac â braster y digonir fy enaid; a’m genau a’th fawl â gwefusau llafar: 6 Pan y’th gofiwyf ar fy ngwely, myfyriaf amdanat yng ngwyliadwriaethau y nos. 7 Canys buost gynhorthwy i mi; am hynny yng nghysgod dy adenydd y gorfoleddaf. 8 Fy enaid a lŷn wrthyt: dy ddeheulaw a’m cynnal. 9 Ond y rhai a geisiant fy enaid i ddistryw, a ânt i iselderau y ddaear. 10 Syrthiant ar fin y cleddyf: rhan llwynogod fyddant. 11 Ond y Brenin a lawenycha yn Nuw: gorfoledda pob un a dyngo iddo ef: eithr caeir genau y rhai a ddywedant gelwydd.
9 Cyhoeddwch hyn ymysg y cenhedloedd, gosodwch ryfel, deffrowch y gwŷr cryfion, nesaed y gwŷr o ryfel, deuant i fyny. 10 Gyrrwch eich sychau yn gleddyfau, a’ch pladuriau yn waywffyn: dyweded y llesg, Cryf ydwyf. 11 Ymgesglwch, a deuwch, y cenhedloedd o amgylch ogylch, ac ymgynullwch: yno disgyn, O Arglwydd, dy gedyrn. 12 Deffroed y cenhedloedd, a deuant i fyny i ddyffryn Jehosaffat: oherwydd yno yr eisteddaf i farnu yr holl genhedloedd o amgylch. 13 Rhowch i mewn y cryman; canys aeddfedodd y cynhaeaf: deuwch, ewch i waered; oherwydd y gwryf a lanwodd, a’r gwasg-gafnau a aethant trosodd, am amlhau eu drygioni hwynt. 14 Torfeydd, torfeydd a fydd yng nglyn terfyniad: canys agos yw dydd yr Arglwydd yng nglyn terfyniad. 15 Yr haul a’r lloer a dywyllant, a’r sêr a ataliant eu llewyrch. 16 A’r Arglwydd a rua o Seion, ac a rydd ei lef o Jerwsalem; y nefoedd hefyd a’r ddaear a grynant: ond yr Arglwydd fydd gobaith ei bobl, a chadernid meibion Israel. 17 Felly y cewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw, yn trigo yn Seion, fy mynydd sanctaidd: yna y bydd Jerwsalem yn sanctaidd, ac nid â dieithriaid trwyddi mwyach.
18 A’r dydd hwnnw y bydd i’r mynyddoedd ddefnynnu melyswin, a’r bryniau a lifeiriant o laeth, a holl ffrydiau Jwda a redant gan ddwfr, a ffynnon a ddaw allan o dŷ yr Arglwydd, ac a ddyfrha ddyffryn Sittim. 19 Yr Aifft a fydd anghyfannedd, ac Edom fydd anialwch anghyfanheddol, am y traha yn erbyn meibion Jwda, am iddynt dywallt gwaed gwirion yn eu tir hwynt. 20 Eto Jwda a drig byth, a Jerwsalem o genhedlaeth i genhedlaeth. 21 Canys glanhaf waed y rhai nis glanheais: canys yr Arglwydd sydd yn trigo yn Seion.
29 Ac yn y fan wedi gorthrymder y dyddiau hynny, y tywyllir yr haul, a’r lleuad ni rydd ei goleuni, a’r sêr a syrth o’r nef, a nerthoedd y nefoedd a ysgydwir. 30 Ac yna yr ymddengys arwydd Mab y dyn yn y nef: ac yna y galara holl lwythau y ddaear; a hwy a welant Fab y dyn yn dyfod ar gymylau y nef, gyda nerth a gogoniant mawr. 31 Ac efe a ddenfyn ei angylion â mawr sain utgorn; a hwy a gasglant ei etholedigion ef ynghyd o’r pedwar gwynt, o eithafoedd y nefoedd hyd eu heithafoedd hwynt. 32 Ond dysgwch ddameg oddi wrth y ffigysbren; Pan yw ei gangen eisoes yn dyner, a’i ddail yn torri allan, chwi a wyddoch fod yr haf yn agos: 33 Ac felly chwithau, pan weloch hyn oll, gwybyddwch ei fod yn agos wrth y drysau. 34 Yn wir meddaf i chwi, Nid â’r genhedlaeth hon heibio, hyd oni wneler hyn oll. 35 Nef a daear a ânt heibio, eithr fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.