Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Error: Book name not found: Wis for the version: Beibl William Morgan
Amos 5:18-24

18 Gwae y neb sydd yn dymuno dydd yr Arglwydd! beth yw hwnnw i chwi? tywyllwch, ac nid goleuni yw dydd yr Arglwydd. 19 Megis pe ffoai gŵr rhag llew, ac arth yn cyfarfod ag ef; a myned i’r tŷ, a phwyso ei law ar y pared, a’i frathu o sarff. 20 Oni bydd dydd yr Arglwydd yn dywyllwch, ac nid yn oleuni? yn dywyll iawn, ac heb lewyrch ynddo?

21 Caseais a ffieiddiais eich gwyliau, ac nid aroglaf yn eich cymanfaoedd. 22 Canys er i chwi offrymu i mi boethoffrymau, a’ch offrymau bwyd, ni fyddaf fodlon iddynt; ac nid edrychaf ar hedd‐offrwm eich pasgedigion. 23 Symud oddi wrthyf drwst dy ganiadau: canys ni wrandawaf beroriaeth dy nablau. 24 Ond rheded barn fel dyfroedd, a chyfiawnder fel ffrwd gref.

Error: Book name not found: Wis for the version: Beibl William Morgan
Salmau 70

I’r Pencerdd, Salm Dafydd i goffa.

70 O Dduw, prysura i’m gwaredu; brysia, Arglwydd, i’m cymorth. Cywilyddier a gwarthrudder y rhai a geisiant fy enaid: troer yn eu hôl a gwaradwydder y rhai a ewyllysiant ddrwg i mi. Datroer yn lle gwobr am eu cywilydd, y rhai a ddywedant, Ha, ha. Llawenyched, a gorfoledded ynot ti y rhai oll a’th geisiant; a dyweded y rhai a garant dy iachawdwriaeth yn wastad, Mawryger Duw. Minnau ydwyf dlawd ac anghenus; O Dduw, brysia ataf: fy nghymorth a’m gwaredydd ydwyt ti, O Arglwydd; na hir drig.

1 Thesaloniaid 4:13-18

13 Ond ni ewyllysiwn, frodyr, i chwi fod heb wybod am y rhai a hunasant, na thristaoch, megis eraill y rhai nid oes ganddynt obaith. 14 Canys os ydym yn credu farw Iesu, a’i atgyfodi; felly y rhai a hunasant yn yr Iesu, a ddwg Duw hefyd gydag ef. 15 Canys hyn yr ydym yn ei ddywedyd wrthych yng ngair yr Arglwydd, na bydd i ni’r rhai byw, y rhai a adewir hyd ddyfodiad yr Arglwydd, ragflaenu’r rhai a hunasant. 16 Oblegid yr Arglwydd ei hun a ddisgyn o’r nef gyda bloedd, â llef yr archangel, ac ag utgorn Duw: a’r meirw yng Nghrist a gyfodant yn gyntaf: 17 Yna ninnau’r rhai byw, y rhai a adawyd, a gipir i fyny gyda hwynt yn y cymylau, i gyfarfod â’r Arglwydd yn yr awyr: ac felly y byddwn yn wastadol gyda’r Arglwydd. 18 Am hynny diddenwch eich gilydd â’r ymadroddion hyn.

Mathew 25:1-13

25 Yna tebyg fydd teyrnas nefoedd i ddeg o forynion, y rhai a gymerasant eu lampau, ac a aethant allan i gyfarfod â’r priodfab. A phump ohonynt oedd gall, a phump yn ffôl. Y rhai oedd ffôl a gymerasant eu lampau, ac ni chymerasant olew gyda hwynt: A’r rhai call a gymerasant olew yn eu llestri gyda’u lampau. A thra oedd y priodfab yn aros yn hir, yr hepiasant oll ac yr hunasant. Ac ar hanner nos y bu gwaedd, Wele, y mae’r priodfab yn dyfod; ewch allan i gyfarfod ag ef. Yna y cyfododd yr holl forynion hynny, ac a drwsiasant eu lampau. A’r rhai ffôl a ddywedasant wrth y rhai call, Rhoddwch i ni o’ch olew chwi: canys y mae ein lampau yn diffoddi. A’r rhai call a atebasant, gan ddywedyd, Nid felly; rhag na byddo digon i ni ac i chwithau: ond ewch yn hytrach at y rhai sydd yn gwerthu, a phrynwch i chwi eich hunain. 10 A thra oeddynt yn myned ymaith i brynu, daeth y priodfab; a’r rhai oedd barod, a aethant i mewn gydag ef i’r briodas: a chaewyd y drws. 11 Wedi hynny y daeth y morynion eraill hefyd, gan ddywedyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni. 12 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nid adwaen chwi. 13 Gwyliwch gan hynny; am na wyddoch na’r dydd na’r awr y daw Mab y dyn.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.