Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 70

I’r Pencerdd, Salm Dafydd i goffa.

70 O Dduw, prysura i’m gwaredu; brysia, Arglwydd, i’m cymorth. Cywilyddier a gwarthrudder y rhai a geisiant fy enaid: troer yn eu hôl a gwaradwydder y rhai a ewyllysiant ddrwg i mi. Datroer yn lle gwobr am eu cywilydd, y rhai a ddywedant, Ha, ha. Llawenyched, a gorfoledded ynot ti y rhai oll a’th geisiant; a dyweded y rhai a garant dy iachawdwriaeth yn wastad, Mawryger Duw. Minnau ydwyf dlawd ac anghenus; O Dduw, brysia ataf: fy nghymorth a’m gwaredydd ydwyt ti, O Arglwydd; na hir drig.

Amos 1:1-2:5

Geiriau Amos, (yr hwn oedd ymysg bugeiliaid Tecoa,) y rhai a welodd efe am Israel, yn nyddiau Usseia brenin Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam mab Joas brenin Israel, ddwy flynedd o flaen y ddaeargryn. Ac efe a ddywedodd, Yr Arglwydd a rua o Seion, ac a rydd ei lef o Jerwsalem; a chyfanheddau y bugeiliaid a alarant, a phen Carmel a wywa. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Oherwydd tair o anwireddau Damascus, ac oherwydd pedair, ni throaf ymaith ei chosb hi: am iddynt ddyrnu Gilead ag offer dyrnu o heyrn. Ond anfonaf dân i dŷ Hasael, ac efe a ddifa balasau Benhadad. Drylliaf drosol Damascus, a thorraf ymaith y preswylwyr o ddyffryn Afen, a’r hwn sydd yn dal teyrnwialen o dŷ Eden; a phobl Syria a ânt yn gaeth i Cir, medd yr Arglwydd.

Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Gasa, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt gaethgludo y gaethiwed gyflawn, i’w rhoddi i fyny i Edom. Eithr anfonaf dân ar fur Gasa, ac efe a ddifa ei phalasau hi. A mi a dorraf y preswylwyr o Asdod, a’r hwn a ddeil deyrnwialen o Ascalon; a throaf fy llaw yn erbyn Ecron, a derfydd am weddill y Philistiaid, medd yr Arglwydd Dduw.

Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Tyrus, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; oherwydd iddynt hwy roddi i fyny gwbl o’r gaethiwed i Edom, ac na chofiasant y cyfamod brawdol. 10 Eithr anfonaf dân i fur Tyrus, ac efe a ddifa ei phalasau hi.

11 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Edom, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddo erlid ei frawd â’r cleddyf, a llygru ei drugaredd, a bod ei ddig yn rhwygo yn wastadol, a’i fod yn cadw ei lid yn dragwyddol. 12 Eithr anfonaf dân i Teman, yr hwn a ddifa balasau Bosra.

13 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau meibion Ammon, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt hwy rwygo gwragedd beichiogion Gilead, er mwyn helaethu eu terfynau. 14 Eithr cyneuaf dân ym mur Rabba, ac efe a ddifa ei phalasau, gyda gwaedd ar ddydd y rhyfel, gyda thymestl ar ddydd corwynt. 15 A’u brenin a â yn gaeth, efe a’i benaethiaid ynghyd, medd yr Arglwydd.

Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Moab, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddo losgi esgyrn brenin Edom yn galch. Eithr anfonaf dân i Moab, yr hwn a ddifa balasau Cerioth: a Moab fydd marw mewn terfysg, gweiddi, a llais utgorn. A mi a dorraf ymaith y barnwr o’i chanol hi, a’i holl bendefigion a laddaf gydag ef, medd yr Arglwydd.

Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Jwda, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt ddirmygu cyfraith yr Arglwydd, ac na chadwasant ei ddeddfau ef; a’u celwyddau a’u cyfeiliornodd hwynt, y rhai yr aeth eu tadau ar eu hôl. Eithr anfonaf dân i Jwda, ac efe a ddifa balasoedd Jerwsalem.

Datguddiad 8:6-9:12

A’r saith angel, y rhai oedd â’r saith utgorn ganddynt, a ymbaratoesant i utganu. A’r angel cyntaf a utganodd; a bu cenllysg a thân wedi eu cymysgu â gwaed, a hwy a fwriwyd i’r ddaear: a thraean y prennau a losgwyd, a’r holl laswellt a losgwyd. A’r ail angel a utganodd; a megis mynydd mawr yn llosgi gan dân a fwriwyd i’r môr: a thraean y môr a aeth yn waed; A bu farw traean y creaduriaid y rhai oedd yn y môr, ac â byw ynddynt; a thraean y llongau a ddinistriwyd. 10 A’r trydydd angel a utganodd; a syrthiodd o’r nef seren fawr yn llosgi fel lamp, a hi a syrthiodd ar draean yr afonydd, ac ar ffynhonnau’r dyfroedd; 11 Ac enw’r seren a elwir Wermod: ac aeth traean y dyfroedd yn wermod; a llawer o ddynion a fuant feirw gan y dyfroedd, oblegid eu myned yn chwerwon. 12 A’r pedwerydd angel a utganodd; a thrawyd traean yr haul, a thraean y lleuad, a thraean y sêr; fel y tywyllwyd eu traean hwynt, ac ni lewyrchodd y dydd ei draean, a’r nos yr un ffunud. 13 Ac mi a edrychais, ac a glywais angel yn ehedeg yng nghanol y nef, gan ddywedyd â llef uchel, Gwae, gwae, gwae, i’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, rhag lleisiau eraill utgorn y tri angel, y rhai sydd eto i utganu!

A’r pumed angel a utganodd; ac mi a welais seren yn syrthio o’r nef i’r ddaear: a rhoddwyd iddo ef agoriad y pydew heb waelod. Ac efe a agorodd y pydew heb waelod; a chododd mwg o’r pydew, fel mwg ffwrn fawr: a thywyllwyd yr haul a’r awyr gan fwg y pydew. Ac o’r mwg y daeth allan locustiaid ar y ddaear; a rhoddwyd awdurdod iddynt, fel y mae gan ysgorpionau’r ddaear awdurdod. A dywedwyd wrthynt, na wnaent niwed i laswellt y ddaear, nac i ddim gwyrddlas, nac i un pren; ond yn unig i’r dynion oedd heb sêl Duw yn eu talcennau. A rhoddwyd iddynt na laddent hwynt, ond bod iddynt eu blino hwy bum mis: ac y byddai eu gofid hwy fel gofid oddi wrth ysgorpion, pan ddarfyddai iddi frathu dyn. Ac yn y dyddiau hynny y cais dynion farwolaeth, ac nis cânt; ac a chwenychant farw, a marwolaeth a gilia oddi wrthynt. A dull y locustiaid oedd debyg i feirch wedi eu paratoi i ryfel; ac yr oedd ar eu pennau megis coronau yn debyg i aur, a’u hwynebau fel wynebau dynion. A gwallt oedd ganddynt fel gwallt gwragedd, a’u dannedd oedd fel dannedd llewod. Ac yr oedd ganddynt lurigau fel llurigau haearn; a llais eu hadenydd oedd fel llais cerbydau llawer o feirch yn rhedeg i ryfel. 10 Ac yr oedd ganddynt gynffonnau tebyg i ysgorpionau, ac yr oedd colynnau yn eu cynffonnau hwy: a’u gallu oedd i ddrygu dynion bum mis. 11 Ac yr oedd ganddynt frenin arnynt, sef angel y pydew diwaelod: a’i enw ef yn Hebraeg ydyw Abadon, ac yn Roeg y mae iddo enw Apolyon. 12 Un wae a aeth heibio; wele, y mae yn dyfod eto ddwy wae ar ôl hyn.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.