Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd ar Nehiloth, Salm Dafydd.
5 Gwrando fy ngeiriau, Arglwydd; deall fy myfyrdod. 2 Erglyw ar lef fy ngwaedd, fy Mrenin, a’m Duw: canys arnat y gweddïaf. 3 Yn fore, Arglwydd, y clywi fy llef; yn fore y cyfeiriaf fy ngweddi atat, ac yr edrychaf i fyny. 4 Oherwydd nid wyt ti Dduw yn ewyllysio anwiredd: a drwg ni thrig gyda thi. 5 Ynfydion ni safant yn dy olwg: caseaist holl weithredwyr anwiredd. 6 Difethi y rhai a ddywedant gelwydd: yr Arglwydd a ffieiddia y gŵr gwaedlyd a’r twyllodrus. 7 A minnau a ddeuaf i’th dŷ di yn amlder dy drugaredd; ac a addolaf tua’th deml sanctaidd yn dy ofn di. 8 Arglwydd, arwain fi yn dy gyfiawnder, o achos fy ngelynion; ac uniona dy ffordd o’m blaen. 9 Canys nid oes uniondeb yn eu genau; eu ceudod sydd anwireddau: bedd agored yw eu ceg; gwenieithiant â’u tafod. 10 Distrywia hwynt, O Dduw; syrthiant oddi wrth eu cynghorion: gyr hwynt ymaith yn amlder eu camweddau: canys gwrthryfelasant i’th erbyn. 11 Ond llawenhaed y rhai oll a ymddiriedant ynot ti: llafarganant yn dragywydd, am i ti orchuddio drostynt: a’r rhai a garant dy enw, gorfoleddant ynot. 12 Canys ti, Arglwydd, a fendithi y cyfiawn: â charedigrwydd megis â tharian y coroni di ef.
18 Ac er hyn, yn y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd, ni wnaf fi gwbl ben â chwi.
19 A bydd pan ddywedoch, Paham y gwna yr Arglwydd ein Duw hyn oll i ni? ddywedyd ohonot tithau wrthynt, Megis y gwrthodasoch fi, ac y gwasanaethasoch dduwiau dieithr yn eich tir eich hun; felly gwasanaethwch ddieithriaid mewn tir ni byddo eiddo chwi. 20 Mynegwch hyn yn nhŷ Jacob, a chyhoeddwch hyn yn Jwda, gan ddywedyd, 21 Gwrando hyn yn awr, ti bobl ynfyd ac heb ddeall; y rhai y mae llygaid iddynt, ac ni welant; a chlustiau iddynt, ac ni chlywant: 22 Onid ofnwch chwi fi? medd yr Arglwydd: oni chrynwch rhag fy mron, yr hwn a osodais y tywod yn derfyn i’r môr trwy ddeddf dragwyddol, fel nad elo dros hwnnw; er i’r tonnau ymgyrchu, eto ni thycia iddynt; er iddynt derfysgu, eto ni ddeuant dros hwnnw? 23 Eithr i’r bobl hyn y mae calon wrthnysig ac anufuddgar: hwynt‐hwy a giliasant, ac a aethant ymaith. 24 Ac ni ddywedant yn eu calon, Ofnwn weithian yr Arglwydd ein Duw, yr hwn sydd yn rhoi’r glaw cynnar a’r diweddar yn ei amser: efe a geidw i ni ddefodol wythnosau y cynhaeaf.
25 Eich anwireddau chwi a droes heibio y rhai hyn, a’ch pechodau chwi a ataliasant ddaioni oddi wrthych. 26 Canys ymysg fy mhobl y ceir anwiriaid, y rhai a wyliant megis un yn gosod maglau: gosodant offer dinistr, dynion a ddaliant. 27 Fel cawell yn llawn o adar, felly y mae eu tai hwynt yn llawn o dwyll: am hynny y cynyddasant, ac yr ymgyfoethogasant. 28 Tewychasant, disgleiriasant, aethant hefyd tu hwnt i weithredoedd y drygionus; ni farnant farn yr amddifad, eto ffynasant; ac ni farnant farn yr anghenus. 29 Onid ymwelaf am y pethau hyn? medd yr Arglwydd; oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl â hon?
30 Peth aruthr ac erchyll a wnaed yn y tir: 31 Y proffwydi a broffwydant gelwydd, yr offeiriaid hefyd a lywodraethant trwy eu gwaith hwynt; a’m pobl a hoffant hynny: eto beth a wnewch yn niwedd hyn?
13 Oblegid hyn yr ydym ninnau hefyd yn diolch i Dduw yn ddi-baid, oherwydd i chwi, pan dderbyniasoch air Duw, yr hwn a glywsoch gennym ni, ei dderbyn ef nid fel gair dyn, eithr fel y mae yn wir, yn air Duw, yr hwn hefyd sydd yn nerthol weithio ynoch chwi y rhai sydd yn credu. 14 Canys chwychwi, frodyr, a wnaethpwyd yn ddilynwyr i eglwysi Duw, y rhai yn Jwdea sydd yng Nghrist Iesu; oblegid chwithau a ddioddefasoch y pethau hyn gan eich cyd-genedl, megis hwythau gan yr Iddewon: 15 Y rhai a laddasant yr Arglwydd Iesu, a’u proffwydi eu hunain, ac a’n herlidiasant ninnau ymaith; ac ydynt heb ryngu bodd Duw, ac yn erbyn pob dyn; 16 Gan warafun i ni lefaru wrth y Cenhedloedd, fel yr iacheid hwy, i gyflawni eu pechodau hwynt yn wastadol: canys digofaint Duw a ddaeth arnynt hyd yr eithaf. 17 A ninnau, frodyr, wedi ein gwneuthur yn amddifaid amdanoch dros ennyd awr, yng ngolwg, nid yng nghalon, a fuom fwy astud i weled eich wyneb chwi mewn awydd mawr. 18 Am hynny yr ewyllysiasom ddyfod atoch (myfi Paul, yn ddiau,) unwaith a dwywaith hefyd; eithr Satan a’n lluddiodd ni. 19 Canys beth yw ein gobaith ni, neu ein llawenydd, neu goron ein gorfoledd? onid chwychwi, gerbron ein Harglwydd Iesu Grist yn ei ddyfodiad ef? 20 Canys chwychwi yw ein gogoniant a’n llawenydd ni.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.