Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 43

43 Barn fi, O Dduw, a dadlau fy nadl yn erbyn y genhedlaeth anhrugarog: gwared fi rhag y dyn twyllodrus ac anghyfiawn. Canys ti yw Duw fy nerth: paham y’m bwri ymaith? paham yr af yn alarus trwy orthrymder y gelyn? Anfon dy oleuni a’th wirionedd: tywysant hwy fi; ac arweiniant fi i fynydd dy sancteiddrwydd, ac i’th bebyll. Yna yr af at allor Duw, at Dduw hyfrydwch fy ngorfoledd; a mi a’th foliannaf ar y delyn, O Dduw, fy Nuw. Paham y’th ddarostyngir, fy enaid? a phaham y terfysgi ynof? gobeithia yn Nuw; canys eto y moliannaf ef, sef iachawdwriaeth fy wyneb, a’m Duw.

Malachi 1:6-2:9

Mab a anrhydedda ei dad, a gweinidog ei feistr: ac os ydwyf fi dad, pa le y mae fy anrhydedd? ac os ydwyf fi feistr, pa le y mae fy ofn? medd Arglwydd y lluoedd wrthych chwi yr offeiriaid, y rhai ydych yn dirmygu fy enw: a chwi a ddywedwch, Ym mha beth y dirmygasom dy enw di? Offrymu yr ydych ar fy allor fara halogedig; a chwi a ddywedwch, Ym mha beth yr halogasom di? Am i chwi ddywedyd, Dirmygus yw bwrdd yr Arglwydd. Ac os offrymu yr ydych y dall yn aberth, onid drwg hynny? ac os offrymwch y cloff a’r clwyfus, onid drwg hynny? cynnig ef yr awron i’th dywysog, a fydd efe bodlon i ti? neu a dderbyn efe dy wyneb? medd Arglwydd y lluoedd. Ac yn awr gweddïwch, atolwg, gerbron Duw, fel y trugarhao wrthym: o’ch llaw chwi y bu hyn: a dderbyn efe wyneb un ohonoch? medd Arglwydd y lluoedd. 10 A phwy hefyd ohonoch a gaeai y dorau, neu a oleuai fy allor yn rhad? Nid oes gennyf fodlonrwydd ynoch chwi, medd Arglwydd y lluoedd, ac ni dderbyniaf offrwm o’ch llaw. 11 Canys o gyfodiad haul hyd ei fachludiad hefyd, mawr fydd fy enw ymysg y Cenhedloedd: ac ym mhob lle arogl-darth a offrymir i’m henw, ac offrwm pur: canys mawr fydd fy enw ymhlith y Cenhedloedd, medd Arglwydd y lluoedd.

12 Ond chwi a’i halogasoch ef, pan ddywedasoch, Bwrdd yr Arglwydd sydd halogedig; a’i ffrwyth, sef ei fwyd, sydd ddirmygus. 13 Chwi hefyd a ddywedasoch, Wele, pa flinder yw! a ffroenasoch arno, medd Arglwydd y lluoedd; a dygasoch yr hyn a ysglyfaethwyd, a’r cloff, a’r clwyfus; fel hyn y dygasoch offrwm: a fyddaf fi fodlon i hynny o’ch llaw chwi? medd yr Arglwydd. 14 Ond melltigedig yw y twyllodrus, yr hwn y mae yn ei ddiadell wryw, ac a adduna ac a abertha un llygredig i’r Arglwydd; canys Brenin mawr ydwyf fi, medd Arglwydd y lluoedd, a’m henw sydd ofnadwy ymhlith y cenhedloedd.

Ac yr awr hon, chwi offeiriaid, i chwi y mae y gorchymyn hwn. Oni wrandewch, ac oni ystyriwch, i roddi anrhydedd i’m henw i, medd Arglwydd y lluoedd; yna mi a anfonaf felltith arnoch chwi, ac a felltithiaf eich bendithion chwi: ie, myfi a’u melltithiais eisoes, am nad ydych yn ystyried. Wele fi yn llygru eich had chwi, a thaenaf dom ar eich wynebau, sef tom eich uchel wyliau; ac un a’ch cymer chwi ato ef. Hefyd cewch wybod mai myfi a anfonais atoch y gorchymyn hwn, fel y byddai fy nghyfamod â Lefi, medd Arglwydd y lluoedd. Fy nghyfamod ag ef oedd am fywyd a heddwch; a mi a’u rhoddais hwynt iddo am yr ofn â’r hwn y’m hofnodd, ac yr arswydodd o flaen fy enw. Cyfraith gwirionedd oedd yn ei enau ef, ac anwiredd ni chafwyd yn ei wefusau: mewn hedd ac uniondeb y rhodiodd gyda mi, a llaweroedd a drodd efe oddi wrth anwiredd. Canys gwefusau yr offeiriad a gadwant wybodaeth, a’r gyfraith a geisiant o’i enau ef: oherwydd cennad Arglwydd y lluoedd yw efe. Ond chwi a giliasoch allan o’r ffordd, ac a barasoch i laweroedd dramgwyddo wrth y gyfraith: llygrasoch gyfamod Lefi, medd Arglwydd y lluoedd. Am hynny minnau hefyd a’ch gwneuthum chwi yn ddirmygus ac yn ddiystyr gan yr holl bobl; megis na chadwasoch fy ffyrdd i, ond bod yn derbyn wynebau yn y gyfraith.

Mathew 23:13-28

13 Eithr gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn cau teyrnas nefoedd o flaen dynion: canys chwi nid ydych yn myned i mewn, a’r rhai sydd yn myned i mewn nis gadewch i fyned i mewn. 14 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, a hynny yn rhith hir weddïo: am hynny y derbyniwch farn fwy. 15 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys amgylchu yr ydych y môr a’r tir, i wneuthur un proselyt; ac wedi y gwneler, yr ydych yn ei wneuthur ef yn fab uffern, yn ddau mwy na chwi eich hunain. 16 Gwae chwi, dywysogion deillion! y rhai ydych yn dywedyd, Pwy bynnag a dwng i’r deml, nid yw ddim; ond pwy bynnag a dwng i aur y deml, y mae efe mewn dyled. 17 Ffyliaid, a deillion: canys pa un sydd fwyaf, yr aur, ai y deml sydd yn sancteiddio’r aur? 18 A phwy bynnag a dwng i’r allor, nid yw ddim; ond pwy bynnag a dyngo i’r rhodd sydd arni, y mae efe mewn dyled. 19 Ffyliaid, a deillion: canys pa un fwyaf, y rhodd, ai’r allor sydd yn sancteiddio y rhodd? 20 Pwy bynnag gan hynny a dwng i’r allor, sydd yn tyngu iddi, ac i’r hyn oll sydd arni. 21 A phwy bynnag a dwng i’r deml, sydd yn tyngu iddi, ac i’r hwn sydd yn preswylio ynddi. 22 A’r hwn a dwng i’r nef, sydd yn tyngu i orseddfainc Duw, ac i’r hwn sydd yn eistedd arni. 23 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn degymu’r mintys, a’r anis, a’r cwmin, ac a adawsoch heibio y pethau trymach o’r gyfraith, barn, a thrugaredd, a ffydd: rhaid oedd gwneuthur y pethau hyn, ac na adewid y lleill heibio. 24 Tywysogion deillion, y rhai ydych yn hidlo gwybedyn, ac yn llyncu camel. 25 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn glanhau’r tu allan i’r cwpan a’r ddysgl, ac o’r tu mewn y maent yn llawn o drawsedd ac anghymedroldeb. 26 Ti Pharisead dall, glanha yn gyntaf yr hyn sydd oddi fewn i’r cwpan a’r ddysgl, fel y byddo yn lân hefyd yr hyn sydd oddi allan iddynt. 27 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys tebyg ydych chwi i feddau wedi eu gwynnu, y rhai sydd yn ymddangos yn deg oddi allan, ond oddi mewn sydd yn llawn o esgyrn y meirw, a phob aflendid. 28 Ac felly chwithau oddi allan ydych yn ymddangos i ddynion yn gyfiawn, ond o fewn yr ydych yn llawn rhagrith ac anwiredd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.