Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 43

43 Barn fi, O Dduw, a dadlau fy nadl yn erbyn y genhedlaeth anhrugarog: gwared fi rhag y dyn twyllodrus ac anghyfiawn. Canys ti yw Duw fy nerth: paham y’m bwri ymaith? paham yr af yn alarus trwy orthrymder y gelyn? Anfon dy oleuni a’th wirionedd: tywysant hwy fi; ac arweiniant fi i fynydd dy sancteiddrwydd, ac i’th bebyll. Yna yr af at allor Duw, at Dduw hyfrydwch fy ngorfoledd; a mi a’th foliannaf ar y delyn, O Dduw, fy Nuw. Paham y’th ddarostyngir, fy enaid? a phaham y terfysgi ynof? gobeithia yn Nuw; canys eto y moliannaf ef, sef iachawdwriaeth fy wyneb, a’m Duw.

Eseciel 13:1-16

13 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, Proffwyda, fab dyn, yn erbyn proffwydi Israel, y rhai sydd yn proffwydo, a dywed wrth y rhai a broffwydant o’u calon eu hun, Gwrandewch air yr Arglwydd. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gwae y proffwydi ynfyd, y rhai a rodiant yn ôl eu hysbryd eu hun, ac heb weled dim. Dy broffwydi, Israel, ydynt fel llwynogod yn yr anialwch. Ni safasoch yn yr adwyau, ac ni chaeasoch y cae i dŷ Israel, i sefyll yn y rhyfel ar ddydd yr Arglwydd. Gwagedd a gau ddewiniaeth a welsant, y rhai a ddywedant, Dywedodd yr Arglwydd; a’r Arglwydd heb eu hanfon hwynt: a pharasant i eraill ddisgwyl am gyflawni y gair. Onid ofer weledigaeth a welsoch, a gau ddewiniaeth a draethasoch, pan ddywedasoch, Yr Arglwydd a ddywedodd; a minnau heb ddywedyd? Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Am lefaru ohonoch wagedd, a gweled ohonoch gelwydd; am hynny wele fi i’ch erbyn, medd yr Arglwydd Dduw. A bydd fy llaw yn erbyn y proffwydi sydd yn gweled gwagedd, ac yn dewinio celwydd; yng nghyfrinach fy mhobl ni byddant, ac o fewn ysgrifen tŷ Israel nid ysgrifennir hwynt, i dir Israel hefyd ni ddeuant; a gwybyddwch mai myfi yw yr Arglwydd Dduw.

10 O achos, ie, o achos hudo ohonynt fy mhobl, gan ddywedyd, Heddwch; ac nid oedd heddwch; un a adeiladai bared, ac wele eraill yn ei briddo â chlai heb ei dymheru. 11 Dywed wrth y rhai a’i priddant â phridd rhydd, y syrth efe: canys curlaw a fydd, a chwithau gerrig cenllysg a syrthiwch; a gwynt tymhestlog a’i rhwyga. 12 Wele, pan syrthio y pared, oni ddywedir wrthych, Mae y clai â’r hwn y priddasoch ef? 13 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Minnau a’i rhwygaf â gwynt tymhestlog yn fy llid; a churlaw fydd yn fy nig, a cherrig cenllysg yn fy llidiowgrwydd, i’w ddifetha. 14 Felly y bwriaf i lawr y pared a briddasoch â phridd heb ei dymheru, ac a’i tynnaf hyd lawr, fel y dinoether ei sylfaen, ac efe a syrth, a chwithau a ddifethir yn ei ganol ef; a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd. 15 Fel hyn y gorffennaf fy llid ar y pared, ac ar y rhai a’i priddasant â phridd heb dymheru; a dywedaf wrthych, Y pared nid yw, na’r rhai a’i priddasant: 16 Sef proffwydi Israel, y rhai a broffwydant am Jerwsalem, ac a welant iddi weledigaethau heddwch, ac nid oes heddwch, medd yr Arglwydd Dduw.

2 Pedr 2:1-3

Eithr bu gau broffwydi hefyd ymhlith y bobl, megis ag y bydd gau athrawon yn eich plith chwithau; y rhai yn ddirgel a ddygant i mewn heresïau dinistriol, a chan wadu’r Arglwydd yr hwn a’u prynodd hwynt, ydynt yn tynnu arnynt eu hunain ddinistr buan. A llawer a ganlynant eu distryw hwynt, oherwydd y rhai y ceblir ffordd y gwirionedd. Ac mewn cybydd-dod, trwy chwedlau gwneuthur, y gwnânt farsiandïaeth ohonoch: barnedigaeth y rhai er ys talm nid yw segur, a’u colledigaeth hwy nid yw yn hepian.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.