Revised Common Lectionary (Complementary)
43 Barn fi, O Dduw, a dadlau fy nadl yn erbyn y genhedlaeth anhrugarog: gwared fi rhag y dyn twyllodrus ac anghyfiawn. 2 Canys ti yw Duw fy nerth: paham y’m bwri ymaith? paham yr af yn alarus trwy orthrymder y gelyn? 3 Anfon dy oleuni a’th wirionedd: tywysant hwy fi; ac arweiniant fi i fynydd dy sancteiddrwydd, ac i’th bebyll. 4 Yna yr af at allor Duw, at Dduw hyfrydwch fy ngorfoledd; a mi a’th foliannaf ar y delyn, O Dduw, fy Nuw. 5 Paham y’th ddarostyngir, fy enaid? a phaham y terfysgi ynof? gobeithia yn Nuw; canys eto y moliannaf ef, sef iachawdwriaeth fy wyneb, a’m Duw.
27 A daeth gŵr i Dduw at Eli, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Onid gan ymddangos yr ymddangosais i dŷ dy dad, pan oeddynt yn yr Aifft yn nhŷ Pharo? 28 Gan ei ddewis ef hefyd o holl lwythau Israel yn offeiriad i mi, i offrymu ar fy allor, i losgi arogl-darth, i wisgo effod ger fy mron? oni roddais hefyd i dŷ dy dad di holl ebyrth tanllyd meibion Israel? 29 Paham y sethrwch chwi fy aberth a’m bwyd-offrwm, y rhai a orchmynnais yn fy nhrigfa, ac yr anrhydeddi dy feibion yn fwy na myfi, gan eich pesgi eich hunain â’r gorau o holl offrymau fy mhobl Israel? 30 Am hynny medd Arglwydd Dduw Israel, Gan ddywedyd y dywedais, Dy dŷ di a thŷ dy dad a rodiant o’m blaen i byth: eithr yn awr medd yr Arglwydd, Pell fydd hynny oddi wrthyf fi; canys fy anrhydeddwyr a anrhydeddaf fi, a’m dirmygwyr a ddirmygir. 31 Wele y dyddiau yn dyfod, pan dorrwyf dy fraich di, a braich tŷ dy dad, fel na byddo hen ŵr yn dy dŷ di. 32 A thi a gei weled gelyn yn fy nhrigfa, yn yr hyn oll a wna Duw o ddaioni i Israel: ac ni bydd hen ŵr yn dy dŷ di byth. 33 A’r gŵr o’r eiddot, yr hwn ni thorraf ymaith oddi wrth fy allor, fydd i beri i’th lygaid ballu, ac i beri i’th galon ofidio: a holl gynnyrch dy dŷ di a fyddant feirw yn wŷr. 34 A hyn fydd i ti yn arwydd, yr hwn a ddaw ar dy ddau fab, ar Hoffni a Phinees: Yn yr un dydd y byddant feirw ill dau. 35 A chyfodaf i mi offeiriad ffyddlon a wna yn ôl fy nghalon a’m meddwl; a mi a adeiladaf iddo ef dŷ sicr, ac efe a rodia gerbron fy eneiniog yn dragywydd. 36 A bydd i bob un a adewir yn dy dŷ di ddyfod ac ymgrymu iddo ef am ddernyn o arian a thamaid o fara, a dywedyd, Gosod fi yn awr mewn rhyw offeiriadaeth, i gael bwyta tamaid o fara.
17 Wele, Iddew y’th elwir di, ac yr wyt yn gorffwys yn y ddeddf, ac yn gorfoleddu yn Nuw; 18 Ac yn gwybod ei ewyllys ef, ac yn darbod pethau rhagorol, gan fod wedi dy addysgu o’r ddeddf; 19 Ac yr wyt yn coelio dy fod yn dywysog i’r deillion, yn llewyrch i’r rhai sydd mewn tywyllwch, 20 Yn athro i’r angall, yn ddysgawdwr i’r rhai bach, a chennyt ffurf y gwybodaeth a’r gwirionedd yn y ddeddf. 21 Tydi, gan hynny, yr hwn wyt yn addysgu arall, oni’th ddysgi dy hun? yr hwn wyt yn pregethu, Na ladrater, a ladreti di? 22 Yr hwn wyt yn dywedyd, Na odineber, a odinebi di? yr hwn wyt yn ffieiddio delwau, a gysegrysbeili di? 23 Yr hwn wyt yn gorfoleddu yn y ddeddf, trwy dorri’r ddeddf a ddianrhydeddi di Dduw? 24 Canys enw Duw o’ch plegid chwi a geblir ymhlith y Cenhedloedd, megis y mae yn ysgrifenedig. 25 Canys enwaediad yn wir a wna les, os cedwi y ddeddf: eithr os troseddwr y ddeddf ydwyt, aeth dy enwaediad yn ddienwaediad. 26 Os y dienwaediad gan hynny a geidw gyfiawnderau y ddeddf, oni chyfrifir ei ddienwaediad ef yn enwaediad? 27 Ac oni bydd i’r dienwaediad yr hwn sydd o naturiaeth, os ceidw y ddeddf, dy farnu di, yr hwn wrth y llythyren a’r enwaediad wyt yn troseddu’r ddeddf? 28 Canys nid yr hwn sydd yn yr amlwg sydd Iddew; ac nid enwaediad yw yr hwn sydd yn yr amlwg yn y cnawd: 29 Eithr yr hwn sydd yn y dirgel sydd Iddew; ac enwaediad y galon sydd yn yr ysbryd, nid yn y llythyren; yr hwn y mae ei glod nid o ddynion, ond o Dduw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.