Revised Common Lectionary (Complementary)
41 Deued i mi dy drugaredd, Arglwydd, a’th iachawdwriaeth yn ôl dy air. 42 Yna yr atebaf i’m cablydd: oherwydd yn dy air y gobeithiais. 43 Na ddwg dithau air y gwirionedd o’m genau yn llwyr: oherwydd yn dy farnedigaethau di y gobeithiais. 44 A’th gyfraith a gadwaf yn wastadol, byth ac yn dragywydd. 45 Rhodiaf hefyd mewn ehangder: oherwydd dy orchmynion di a geisiaf. 46 Ac am dy dystiolaethau di y llefaraf o flaen brenhinoedd, ac ni bydd cywilydd gennyf. 47 Ac ymddigrifaf yn dy orchmynion, y rhai a hoffais. 48 A’m dwylo a ddyrchafaf at dy orchmynion, y rhai a gerais; a mi a fyfyriaf yn dy ddeddfau.SAIN
10 A mi a arhoais yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos, fel y dyddiau cyntaf: a gwrandawodd yr Arglwydd arnaf y waith hon hefyd; ni ewyllysiodd yr Arglwydd dy ddifetha di. 11 A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cyfod, dos i’th daith o flaen y bobl; fel yr elont i mewn ac y meddiannont y tir, yr hwn a dyngais wrth eu tadau ar ei roddi iddynt.
12 Ac yr awr hon, Israel, beth y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei ofyn gennyt, ond ofni yr Arglwydd dy Dduw, a rhodio yn ei holl ffyrdd, a’i garu ef, a gwasanaethu yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, 13 Cadw gorchmynion yr Arglwydd, a’i ddeddfau, y rhai yr wyf yn eu gorchymyn i ti y dydd hwn, er daioni i ti? 14 Wele, y nefoedd, a nefoedd y nefoedd, ydynt eiddo yr Arglwydd dy Dduw, y ddaear hefyd a’r hyn oll sydd ynddi. 15 Yn unig ar dy dadau di y rhoddes yr Arglwydd ei serch, gan eu hoffi hwynt; ac efe a wnaeth ddewis o’u had ar eu hôl hwynt, sef ohonoch chwi, o flaen yr holl bobloedd, megis heddiw y gwelir. 16 Enwaedwch chwithau ddienwaediad eich calon, ac na chaledwch eich gwar mwyach. 17 Canys yr Arglwydd eich Duw chwi yw Duw y duwiau, ac Arglwydd yr arglwyddi, Duw mawr, cadarn, ac ofnadwy yr hwn ni dderbyn wyneb, ac ni chymer wobr. 18 Yr hwn a farna’r amddifad a’r weddw; ac y sydd yn hoffi’r dieithr, gan roddi iddo fwyd a dillad. 19 Hoffwch chwithau y dieithr: canys dieithriaid fuoch yn nhir yr Aifft. 20 Yr Arglwydd dy Dduw a ofni, ac ef a wasanaethi: wrtho ef hefyd y glyni, ac i’w enw ef y tyngi. 21 Efe yw dy fawl, ac efe yw dy Dduw yr hwn a wnaeth i ti y mawrion a’r ofnadwy bethau hyn, y rhai a welodd dy lygaid. 22 Dy dadau a aethant i waered i’r Aifft yn ddeg enaid a thrigain; ac yr awr hon yr Arglwydd dy Dduw a’th wnaeth di fel sêr y nefoedd o luosowgrwydd.
14 Pa fudd yw, fy mrodyr, o dywed neb fod ganddo ffydd, ac heb fod ganddo weithredoedd? a ddichon ffydd ei gadw ef? 15 Eithr os bydd brawd neu chwaer yn noeth, ac mewn eisiau beunyddiol ymborth, 16 A dywedyd o un ohonoch wrthynt, Ewch mewn heddwch, ymdwymnwch, ac ymddigonwch; eto heb roddi iddynt angenrheidiau’r corff; pa les fydd? 17 Felly ffydd hefyd, oni bydd ganddi weithredoedd, marw ydyw, a hi yn unig. 18 Eithr rhyw un a ddywed, Tydi ffydd sydd gennyt, minnau gweithredoedd sydd gennyf: dangos i mi dy ffydd di heb dy weithredoedd, a minnau wrth fy ngweithredoedd i a ddangosaf i ti fy ffydd innau. 19 Credu yr wyt ti mai un Duw sydd; da yr wyt ti yn gwneuthur: y mae’r cythreuliaid hefyd yn credu, ac yn crynu. 20 Eithr a fynni di wybod, O ddyn ofer, am ffydd heb weithredoedd, mai marw yw? 21 Abraham ein tad ni, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd ef, pan offrymodd efe Isaac ei fab ar yr allor? 22 Ti a weli fod ffydd yn cydweithio â’i weithredoedd ef, a thrwy weithredoedd fod ffydd wedi ei pherffeithio. 23 A chyflawnwyd yr ysgrythur yr hon sydd yn dywedyd, Credodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder: a Chyfaill Duw y galwyd ef. 24 Chwi a welwch gan hynny mai o weithredoedd y cyfiawnheir dyn, ac nid o ffydd yn unig. 25 Yr un ffunud hefyd, Rahab y butain, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd hi, pan dderbyniodd hi’r cenhadau, a’u danfon ymaith ffordd arall? 26 Canys megis y mae’r corff heb yr ysbryd yn farw, felly hefyd ffydd heb weithredoedd, marw yw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.