Revised Common Lectionary (Complementary)
41 Deued i mi dy drugaredd, Arglwydd, a’th iachawdwriaeth yn ôl dy air. 42 Yna yr atebaf i’m cablydd: oherwydd yn dy air y gobeithiais. 43 Na ddwg dithau air y gwirionedd o’m genau yn llwyr: oherwydd yn dy farnedigaethau di y gobeithiais. 44 A’th gyfraith a gadwaf yn wastadol, byth ac yn dragywydd. 45 Rhodiaf hefyd mewn ehangder: oherwydd dy orchmynion di a geisiaf. 46 Ac am dy dystiolaethau di y llefaraf o flaen brenhinoedd, ac ni bydd cywilydd gennyf. 47 Ac ymddigrifaf yn dy orchmynion, y rhai a hoffais. 48 A’m dwylo a ddyrchafaf at dy orchmynion, y rhai a gerais; a mi a fyfyriaf yn dy ddeddfau.SAIN
6 Adyma ’r gorchmynion, y deddfau, a’r barnedigaethau a orchmynnodd yr Arglwydd eich Duw eu dysgu i chwi; fel y gwneloch hwynt yn y wlad yr ydych yn myned iddi i’w meddiannu: 2 Fel yr ofnech yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw ei holl ddeddfau, a’i orchmynion ef, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti; ti, a’th fab, a mab dy fab, holl ddyddiau dy einioes: ac fel yr estynner dy ddyddiau.
3 Clyw gan hynny, O Israel, ac edrych am eu gwneuthur hwynt; fel y byddo yn ddaionus i ti, ac fel y cynyddoch yn ddirfawr, fel yr addawodd Arglwydd Dduw dy dadau i ti, mewn gwlad yn llifeirio o laeth a mêl. 4 Clyw, O Israel; yr Arglwydd ein Duw ni sydd un Arglwydd. 5 Câr di gan hynny yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl nerth. 6 A bydded y geiriau hyn, yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw, yn dy galon. 7 A hysbysa hwynt i’th blant; a chrybwyll amdanynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan gerddych ar y ffordd, a phan orweddych i lawr, a phan gyfodych i fyny. 8 A rhwym hwynt yn arwydd ar dy law; byddant yn rhactalau rhwng dy lygaid. 9 Ysgrifenna hwynt hefyd ar byst dy dŷ, ac ar dy byrth.
20 Pan ofynno dy fab i ti wedi hyn, gan ddywedyd, Beth yw y tystiolaethau, a’r deddfau, a’r barnedigaethau, a orchmynnodd yr Arglwydd ein Duw i chwi? 21 Yna dywed wrth dy fab, Ni a fuom gaethweision i Pharo yn yr Aifft; a’r Arglwydd a’n dug ni allan o’r Aifft â llaw gadarn. 22 Rhoddes yr Arglwydd hefyd arwyddion a rhyfeddodau mawrion a niweidiol, ar yr Aifft, ar Pharo a’i holl dŷ, yn ein golwg ni; 23 Ac a’n dug ni allan oddi yno, fel y dygai efe nyni i mewn, i roddi i ni y wlad yr hon trwy lw a addawsai efe i’n tadau ni. 24 A’r Arglwydd a orchmynnodd i ni wneuthur yr holl ddeddfau hyn, i ofni yr Arglwydd ein Duw, er daioni i ni yr holl ddyddiau; fel y cadwai efe nyni yn fyw, megis y mae y dydd hwn. 25 A chyfiawnder a fydd i ni, os ymgadwn i wneuthur y gorchmynion hyn oll, o flaen yr Arglwydd ein Duw, fel y gorchmynnodd efe i ni.
8 Os cyflawni yr ydych y gyfraith frenhinol yn ôl yr ysgrythur, Câr dy gymydog fel ti dy hun; da yr ydych yn gwneuthur: 9 Eithr os derbyn wyneb yr ydych, yr ydych yn gwneuthur pechod, ac yn cael eich argyhoeddi gan y gyfraith megis troseddwyr. 10 Canys pwy bynnag a gadwo’r gyfraith i gyd oll, ac a ballo mewn un pwnc, y mae efe yn euog o’r cwbl. 11 Canys y neb a ddywedodd, Na odineba, a ddywedodd hefyd, Na ladd. Ac os ti ni odinebi, eto a leddi, yr wyt ti yn troseddu’r gyfraith. 12 Felly dywedwch, ac felly gwnewch, megis rhai a fernir wrth gyfraith rhyddid. 13 Canys barn ddidrugaredd fydd i’r hwn ni wnaeth drugaredd; ac y mae trugaredd yn gorfoleddu yn erbyn barn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.