Revised Common Lectionary (Complementary)
1 Gwyn ei fyd y gŵr ni rodia yng nghyngor yr annuwiolion, ac ni saif yn ffordd pechaduriaid, ac nid eistedd yn eisteddfa gwatwarwyr. 2 Ond sydd â’i ewyllys yng nghyfraith yr Arglwydd; ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos. 3 Ac efe a fydd fel pren wedi ei blannu ar lan afonydd dyfroedd, yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei bryd; a’i ddalen ni wywa; a pha beth bynnag a wnêl, efe a lwydda. 4 Nid felly y bydd yr annuwiol; ond fel mân us yr hwn a chwâl y gwynt ymaith. 5 Am hynny yr annuwiolion ni safant yn y farn, na phechaduriaid yng nghynulleidfa y rhai cyfiawn. 6 Canys yr Arglwydd a edwyn ffordd y rhai cyfiawn: ond ffordd yr annuwiolion a ddifethir.
23 Dyma hefyd bethau doethion. Nid da derbyn wyneb mewn barn. 24 Y neb a ddywedo wrth yr annuwiol, Cyfiawn wyt; y bobl a’i melltithiant ef, cenhedloedd a’i ffieiddiant ef: 25 Ond i’r neb a’i ceryddo, y bydd hyfrydwch; a bendith dda a ddigwydd iddynt. 26 Pawb a gusana wefusau y neb a atebo eiriau uniawn. 27 Darpara dy orchwyl oddi allan, a dosbartha ef i ti yn y maes: ac wedi hynny adeilada dy dŷ. 28 Na fydd dyst heb achos yn erbyn dy gymydog: ac na huda â’th wefusau. 29 Na ddywed, Mi a wnaf iddo ef fel y gwnaeth yntau i minnau; mi a dalaf i’r gŵr yn ôl ei weithred. 30 Mi a euthum heibio i faes y dyn diog, a heibio i winllan yr angall; 31 Ac wele, codasai drain ar hyd-ddo oll; danadl a guddiasai ei wyneb ef; a’i fagwyr gerrig a syrthiasai i lawr. 32 Gwelais hyn, a mi a ystyriais yn ddwys; edrychais arno, a chymerais addysg. 33 Ychydig gysgu, ychydig hepian, ychydig wasgu dwylo i gysgu: 34 Felly y daw dy dlodi megis ymdeithydd, a’th angen fel gŵr arfog.
39 Chwiliwch yr ysgrythurau: canys ynddynt hwy yr ydych chwi yn meddwl cael bywyd tragwyddol: a hwynt‐hwy yw’r rhai sydd yn tystiolaethu amdanaf fi. 40 Ond ni fynnwch chwi ddyfod ataf fi, fel y caffoch fywyd. 41 Nid ydwyf fi yn derbyn gogoniant oddi wrth ddynion. 42 Ond myfi a’ch adwaen chwi, nad oes gennych gariad Duw ynoch. 43 Myfi a ddeuthum yn enw fy Nhad, ac nid ydych yn fy nerbyn i: os arall a ddaw yn ei enw ei hun, hwnnw a dderbyniwch. 44 Pa fodd y gellwch chwi gredu, y rhai ydych yn derbyn gogoniant gan eich gilydd, ac heb geisio’r gogoniant sydd oddi wrth Dduw yn unig? 45 Na thybiwch y cyhuddaf fi chwi wrth y Tad: y mae a’ch cyhudda chwi, sef Moses, yn yr hwn yr ydych yn gobeithio. 46 Canys pe credasech chwi i Moses, chwi a gredasech i minnau: oblegid amdanaf fi yr ysgrifennodd efe. 47 Ond os chwi ni chredwch i’w ysgrifeniadau ef, pa fodd y credwch i’m geiriau i?
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.