Revised Common Lectionary (Complementary)
1 Gwyn ei fyd y gŵr ni rodia yng nghyngor yr annuwiolion, ac ni saif yn ffordd pechaduriaid, ac nid eistedd yn eisteddfa gwatwarwyr. 2 Ond sydd â’i ewyllys yng nghyfraith yr Arglwydd; ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos. 3 Ac efe a fydd fel pren wedi ei blannu ar lan afonydd dyfroedd, yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei bryd; a’i ddalen ni wywa; a pha beth bynnag a wnêl, efe a lwydda. 4 Nid felly y bydd yr annuwiol; ond fel mân us yr hwn a chwâl y gwynt ymaith. 5 Am hynny yr annuwiolion ni safant yn y farn, na phechaduriaid yng nghynulleidfa y rhai cyfiawn. 6 Canys yr Arglwydd a edwyn ffordd y rhai cyfiawn: ond ffordd yr annuwiolion a ddifethir.
5 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 6 Llefara wrth feibion Israel, Os gŵr neu wraig a wna un o holl bechodau dynol, gan wneuthur camwedd yn erbyn yr Arglwydd, a bod o’r enaid hwnnw yn euog: 7 Yna cyffesant eu pechod a wnaethant; a rhodded yn ei ôl yr hyn a fyddo efe euog ohono erbyn ei ben, a chwaneged ei bumed ran ato, a rhodded i’r hwn y gwnaeth efe gam ag ef. 8 Ac oni bydd i’r gŵr gyfnesaf i dalu am y camwedd iddo, yr iawn am y camwedd yr hwn a delir i’r Arglwydd, fydd eiddo yr offeiriad; heblaw yr hwrdd cymod yr hwn y gwna efe gymod ag ef trosto. 9 A phob offrwm dyrchafael, o holl sanctaidd bethau meibion Israel, y rhai a offrymant at yr offeiriad, fydd eiddo ef. 10 A sancteiddio gŵr, eiddo ef fyddant: hyn a roddo neb i’r offeiriad, eiddo ef fydd.
5 Er mwyn hyn y’th adewais yn Creta, fel yr iawn drefnit y pethau sydd yn ôl, ac y gosodit henuriaid ym mhob dinas, megis yr ordeiniais i ti: 6 Os yw neb yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, a chanddo blant ffyddlon, heb gael y gair o fod yn afradlon, neu yn anufudd: 7 Canys rhaid i esgob fod yn ddiargyhoedd, fel goruchwyliwr Duw; nid yn gyndyn, nid yn ddicllon, nid yn wingar, nid yn drawydd, nid yn budrelwa; 8 Eithr yn lletygar, yn caru daioni, yn sobr, yn gyfiawn, yn sanctaidd, yn dymherus; 9 Yn dal yn lew y gair ffyddlon yn ôl yr addysg, fel y gallo gynghori yn yr athrawiaeth iachus, ac argyhoeddi’r rhai sydd yn gwrthddywedyd. 10 Canys y mae llawer yn anufudd, yn ofer‐siaradus, ac yn dwyllwyr meddyliau, yn enwedig y rhai o’r enwaediad: 11 Y rhai y mae yn rhaid cau eu safnau, y rhai sydd yn dymchwelyd tai cyfain, gan athrawiaethu’r pethau ni ddylid, er mwyn budrelw. 12 Un ohonynt hwy eu hunain, un o’u proffwydi hwy eu hunain, a ddywedodd, Y Cretiaid sydd bob amser yn gelwyddog, drwg fwystfilod, boliau gorddïog. 13 Y dystiolaeth hon sydd wir. Am ba achos argyhoedda hwy yn llym, fel y byddont iach yn y ffydd; 14 Heb ddal ar chwedlau Iddewaidd, a gorchmynion dynion, yn troi oddi wrth y gwirionedd. 15 Pur yn ddiau yw pob peth i’r rhai pur: eithr i’r rhai halogedig a’r di‐ffydd, nid pur dim; eithr halogedig yw hyd yn oed eu meddwl a’u cydwybod hwy. 16 Y maent yn proffesu yr adwaenant Dduw; eithr ar weithredoedd ei wadu y maent, gan fod yn ffiaidd, ac yn anufudd, ac at bob gweithred dda yn anghymeradwy.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.