Revised Common Lectionary (Complementary)
45 Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth ei eneiniog, wrth Cyrus, yr hwn yr ymeflais i yn ei ddeheulaw, i ddarostwng cenhedloedd o’i flaen ef: a mi a ddatodaf lwynau brenhinoedd; i agoryd y dorau o’i flaen ef; a’r pyrth ni chaeir: 2 Mi a af o’th flaen di, ac a unionaf y gwyrgeimion; y dorau pres a dorraf, a’r barrau heyrn a ddrylliaf: 3 Ac a roddaf i ti drysorau cuddiedig, a chuddfeydd dirgel, fel y gwypech mai myfi yr Arglwydd, yr hwn a’th alwodd erbyn dy enw, yw Duw Israel. 4 Er mwyn Jacob fy ngwas, ac Israel fy etholedig, y’th elwais erbyn dy enw: mi a’th gyfenwais, er na’m hadwaenit.
5 Myfi ydwyf yr Arglwydd, ac nid arall, nid oes Duw ond myfi; gwregysais di, er na’m hadwaenit: 6 Fel y gwypont o godiad haul, ac o’r gorllewin, nad neb ond myfi: myfi yw yr Arglwydd, ac nid arall: 7 Yn llunio goleuni, ac yn creu tywyllwch; yn gwneuthur llwyddiant, ac yn creu drygfyd: myfi yr Arglwydd sydd yn gwneuthur hyn oll.
96 Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd; cenwch i’r Arglwydd, yr holl ddaear. 2 Cenwch i’r Arglwydd, bendigwch ei enw; cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef. 3 Datgenwch ymysg y cenhedloedd ei ogoniant ef, ymhlith yr holl bobloedd ei ryfeddodau. 4 Canys mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn: ofnadwy yw efe goruwch yr holl dduwiau. 5 Canys holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod: ond yr Arglwydd a wnaeth y nefoedd. 6 Gogoniant a harddwch sydd o’i flaen ef; nerth a hyfrydwch sydd yn ei gysegr. 7 Tylwythau y bobl, rhoddwch i’r Arglwydd, rhoddwch i’r Arglwydd ogoniant a nerth. 8 Rhoddwch i’r Arglwydd ogoniant ei enw: dygwch offrwm, a deuwch i’w gynteddoedd. 9 Addolwch yr Arglwydd mewn prydferthwch sancteiddrwydd: yr holl ddaear, ofnwch ger ei fron ef.
10 Dywedwch ymysg y cenhedloedd, Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; a’r byd a sicrhaodd efe, fel nad ysgogo: efe a farna y bobl yn uniawn. 11 Llawenhaed y nefoedd, a gorfoledded y ddaear; rhued y môr a’i gyflawnder. 12 Gorfoledded y maes, a’r hyn oll y sydd ynddo: yna holl brennau y coed a ganant. 13 O flaen yr Arglwydd; canys y mae yn dyfod, canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd trwy gyfiawnder, a’r bobloedd â’i wirionedd.
1 Paul, a Silfanus, a Thimotheus, at eglwys y Thesaloniaid, yn Nuw Dad, a’r Arglwydd Iesu Grist: Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist. 2 Yr ydym yn diolch i Dduw yn wastadol drosoch chwi oll, gan wneuthur coffa amdanoch yn ein gweddïau, 3 Gan gofio yn ddi-baid waith eich ffydd chwi, a llafur eich cariad, ac ymaros eich gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist, gerbron Duw a’n Tad; 4 Gan wybod, frodyr annwyl, eich etholedigaeth chwi gan Dduw. 5 Oblegid ni bu ein hefengyl ni tuag atoch mewn gair yn unig, eithr hefyd mewn nerth, ac yn yr Ysbryd Glân, ac mewn sicrwydd mawr; megis y gwyddoch chwi pa fath rai a fuom ni yn eich plith, er eich mwyn chwi. 6 A chwi a aethoch yn ddilynwyr i ni, ac i’r Arglwydd, wedi derbyn y gair mewn gorthrymder mawr, gyda llawenydd yr Ysbryd Glân: 7 Hyd onid aethoch yn siamplau i’r rhai oll sydd yn credu ym Macedonia ac yn Achaia. 8 Canys oddi wrthych chwi y seiniodd gair yr Arglwydd, nid yn unig ym Macedonia, ac yn Achaia, ond ym mhob man hefyd eich ffydd chwi ar Dduw a aeth ar led; fel nad rhaid i ni ddywedyd dim. 9 Canys y maent hwy yn mynegi amdanom ni, pa ryw ddyfodiad i mewn a gawsom ni atoch chwi, a pha fodd y troesoch at Dduw oddi wrth eilunod, i wasanaethu’r bywiol a’r gwir Dduw; 10 Ac i ddisgwyl am ei Fab ef o’r nefoedd, yr hwn a gyfododd efe o feirw, sef Iesu, yr hwn a’n gwaredodd ni oddi wrth y digofaint sydd ar ddyfod.
15 Yna yr aeth y Phariseaid, ac a gymerasant gyngor pa fodd y rhwydent ef yn ei ymadrodd. 16 A hwy a ddanfonasant ato eu disgyblion ynghyd â’r Herodianiaid, gan ddywedyd, Athro, ni a wyddom dy fod yn eirwir, ac yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd, ac nad oes arnat ofal rhag neb: oblegid nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion. 17 Dywed i ni gan hynny, Beth yr wyt ti yn ei dybied? Ai cyfreithlon rhoddi teyrnged i Gesar, ai nid yw? 18 Ond yr Iesu a wybu eu drygioni hwy, ac a ddywedodd, Paham yr ydych yn fy nhemtio i, chwi ragrithwyr? 19 Dangoswch i mi arian y deyrnged. A hwy a ddygasant ato geiniog: 20 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eiddo pwy yw’r ddelw hon a’r argraff? 21 Dywedasant wrtho, Eiddo Cesar. Yna y dywedodd wrthynt, Telwch chwithau yr eiddo Cesar i Gesar, a’r eiddo Duw i Dduw. 22 A phan glywsant hwy hyn, rhyfeddu a wnaethant, a’i adael ef, a myned ymaith.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.