Revised Common Lectionary (Complementary)
96 Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd; cenwch i’r Arglwydd, yr holl ddaear. 2 Cenwch i’r Arglwydd, bendigwch ei enw; cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef. 3 Datgenwch ymysg y cenhedloedd ei ogoniant ef, ymhlith yr holl bobloedd ei ryfeddodau. 4 Canys mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn: ofnadwy yw efe goruwch yr holl dduwiau. 5 Canys holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod: ond yr Arglwydd a wnaeth y nefoedd. 6 Gogoniant a harddwch sydd o’i flaen ef; nerth a hyfrydwch sydd yn ei gysegr. 7 Tylwythau y bobl, rhoddwch i’r Arglwydd, rhoddwch i’r Arglwydd ogoniant a nerth. 8 Rhoddwch i’r Arglwydd ogoniant ei enw: dygwch offrwm, a deuwch i’w gynteddoedd. 9 Addolwch yr Arglwydd mewn prydferthwch sancteiddrwydd: yr holl ddaear, ofnwch ger ei fron ef.
10 Dywedwch ymysg y cenhedloedd, Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; a’r byd a sicrhaodd efe, fel nad ysgogo: efe a farna y bobl yn uniawn. 11 Llawenhaed y nefoedd, a gorfoledded y ddaear; rhued y môr a’i gyflawnder. 12 Gorfoledded y maes, a’r hyn oll y sydd ynddo: yna holl brennau y coed a ganant. 13 O flaen yr Arglwydd; canys y mae yn dyfod, canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd trwy gyfiawnder, a’r bobloedd â’i wirionedd.
3 A bydd, yn y dydd y rhoddo yr Arglwydd lonyddwch i ti oddi wrth dy ofid, ac oddi wrth dy ofn, ac oddi wrth y caethiwed caled y gwasanaethaist ynddo, 4 I ti gymryd y ddihareb hon yn erbyn brenin Babilon, a dywedyd, Pa wedd y peidiodd y gorthrymwr? ac y peidiodd y dref aur? 5 Yr Arglwydd a ddrylliodd ffon yr anwiriaid, a theyrnwialen y llywiawdwyr. 6 Yr hwn sydd yn taro y bobloedd mewn dicllonedd â phla gwastadol, yr hwn sydd yn llywodraethu y cenhedloedd mewn llidiowgrwydd, a erlidir heb neb yn lluddias. 7 Gorffwysodd a llonyddodd yr holl ddaear; canasant o lawenydd. 8 Y ffynidwydd hefyd a chedrwydd Libanus a lawenhasant yn dy erbyn, gan ddywedyd, Er pan orweddaist, nid esgynnodd cymynydd i’n herbyn. 9 Uffern oddi tanodd a gynhyrfodd o’th achos, i gyfarfod â thi wrth dy ddyfodiad: hi a gyfododd y meirw i ti, sef holl dywysogion y ddaear; cyfododd holl frenhinoedd y cenhedloedd o’u gorseddfaoedd. 10 Y rhai hynny oll a lefarant, ac a ddywedant wrthyt, A wanhawyd tithau fel ninnau? a aethost ti yn gyffelyb i ni? 11 Disgynnwyd dy falchder i’r bedd, a thrwst dy nablau: tanat y taenir pryf, pryfed hefyd a’th doant.
14 Y pryd hwnnw y clybu Herod y tetrarch sôn am yr Iesu; 2 Ac efe a ddywedodd wrth ei weision, Hwn yw Ioan Fedyddiwr: efe a gyfododd o feirw; ac am hynny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef.
3 Canys Herod a ddaliasai Ioan, ac a’i rhwymasai, ac a’i dodasai yng ngharchar, oblegid Herodias, gwraig Phylip ei frawd ef. 4 Canys Ioan a ddywedodd wrtho, Nid cyfreithlon i ti ei chael hi. 5 Ac efe yn ewyllysio ei roddi ef i farwolaeth, a ofnodd y dyrfa; canys hwy a’i cymerent ef megis proffwyd. 6 Eithr pan gadwyd dydd genedigaeth Herod, y dawnsiodd merch Herodias ger eu bron hwy, ac a ryngodd fodd Herod. 7 O ba herwydd efe a addawodd, trwy lw, roddi iddi beth bynnag a ofynnai. 8 A hithau, wedi ei rhagddysgu gan ei mam, a ddywedodd, Dyro i mi yma ben Ioan Fedyddiwr mewn dysgl. 9 A’r brenin a fu drist ganddo: eithr oherwydd y llw, a’r rhai a eisteddent gydag ef wrth y ford, efe a orchmynnodd ei roi ef iddi. 10 Ac efe a anfonodd, ac a dorrodd ben Ioan yn y carchar. 11 A ducpwyd ei ben ef mewn dysgl, ac a’i rhoddwyd i’r llances: a hi a’i dug ef i’w mam. 12 A’i ddisgyblion ef a ddaethant, ac a gymerasant ei gorff ef, ac a’i claddasant; ac a aethant, ac a fynegasant i’r Iesu.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.