Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 96:1-9

96 Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd; cenwch i’r Arglwydd, yr holl ddaear. Cenwch i’r Arglwydd, bendigwch ei enw; cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef. Datgenwch ymysg y cenhedloedd ei ogoniant ef, ymhlith yr holl bobloedd ei ryfeddodau. Canys mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn: ofnadwy yw efe goruwch yr holl dduwiau. Canys holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod: ond yr Arglwydd a wnaeth y nefoedd. Gogoniant a harddwch sydd o’i flaen ef; nerth a hyfrydwch sydd yn ei gysegr. Tylwythau y bobl, rhoddwch i’r Arglwydd, rhoddwch i’r Arglwydd ogoniant a nerth. Rhoddwch i’r Arglwydd ogoniant ei enw: dygwch offrwm, a deuwch i’w gynteddoedd. Addolwch yr Arglwydd mewn prydferthwch sancteiddrwydd: yr holl ddaear, ofnwch ger ei fron ef.

Salmau 96:10-13

10 Dywedwch ymysg y cenhedloedd, Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; a’r byd a sicrhaodd efe, fel nad ysgogo: efe a farna y bobl yn uniawn. 11 Llawenhaed y nefoedd, a gorfoledded y ddaear; rhued y môr a’i gyflawnder. 12 Gorfoledded y maes, a’r hyn oll y sydd ynddo: yna holl brennau y coed a ganant. 13 O flaen yr Arglwydd; canys y mae yn dyfod, canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd trwy gyfiawnder, a’r bobloedd â’i wirionedd.

Barnwyr 17:1-6

17 Ac yr oedd gŵr o fynydd Effraim, a’i enw Mica. Ac efe a ddywedodd wrth ei fam, Y mil a’r can sicl arian a dducpwyd oddi arnat, ac y rhegaist amdanynt, ac y dywedaist hefyd lle y clywais; wele yr arian gyda mi, myfi a’i cymerais. A dywedodd ei fam, Bendigedig fyddych, fy mab, gan yr Arglwydd. A phan roddodd efe y mil a’r can sicl arian adref i’w fam, ei fam a ddywedodd, Gan gysegru y cysegraswn yr arian i’r Arglwydd o’m llaw, i’m mab, i wneuthur delw gerfiedig a thoddedig: am hynny yn awr mi a’i rhoddaf eilwaith i ti. Eto efe a dalodd yr arian i’w fam. A’i fam a gymerth ddau can sicl o arian, ac a’u rhoddodd i’r toddydd; ac efe a’u gwnaeth yn ddelw gerfiedig, a thoddedig: a hwy a fuant yn nhŷ Mica. A chan y gŵr hwn Mica yr oedd tŷ duwiau; ac efe a wnaeth effod, a theraffim, ac a gysegrodd un o’i feibion i fod yn offeiriad iddo. Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel; ond pob un a wnâi yr hyn oedd uniawn yn ei olwg ei hun.

3 Ioan 9-12

Mi a ysgrifennais at yr eglwys: eithr Diotreffes, yr hwn sydd yn chwennych y blaen yn eu plith hwy, ni dderbyn ddim ohonom. 10 Oherwydd hyn, os deuaf, mi a ddygaf ar gof ei weithredoedd y mae efe yn eu gwneuthur, gan wag siarad i’n herbyn â geiriau drygionus: ac heb fod yn fodlon ar hynny, nid yw efe ei hun yn derbyn y brodyr; a’r rhai sydd yn ewyllysio, y mae yn eu gwahardd, ac yn eu bwrw allan o’r eglwys. 11 Anwylyd, na ddilyn yr hyn sydd ddrwg, ond yr hyn sydd dda. Yr hwn sydd yn gwneuthur daioni, o Dduw y mae: ond yr hwn sydd yn gwneuthur drygioni, ni welodd Dduw. 12 Y mae i Demetrius air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun: a ninnau hefyd ein hunain ydym yn tystiolaethu; a chwi a wyddoch fod ein tystiolaeth ni yn wir.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.