Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 23

Salm Dafydd.

23 Yr Arglwydd yw fy Mugail; ni bydd eisiau arnaf. Efe a wna i mi orwedd mewn porfeydd gwelltog: efe a’m tywys gerllaw y dyfroedd tawel. Efe a ddychwel fy enaid: efe a’m harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw. Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed: canys yr wyt ti gyda mi; dy wialen a’th ffon a’m cysurant. Ti a arlwyi ford ger fy mron yng ngŵydd fy ngwrthwynebwyr: iraist fy mhen ag olew; fy ffiol sydd lawn. Daioni a thrugaredd yn ddiau a’m canlynant holl ddyddiau fy mywyd: a phreswyliaf yn nhŷ yr Arglwydd yn dragywydd.

Eseia 24:17-23

17 Dychryn, a ffos, a magl fydd arnat ti, breswylydd y ddaear. 18 A’r hwn a ffy rhag trwst y dychryn, a syrth yn y ffos; a’r hwn a gyfodo o ganol y ffos, a ddelir yn y fagl: oherwydd ffenestri o’r uchelder a agorwyd, a seiliau y ddaear sydd yn crynu. 19 Gan ddryllio yr ymddrylliodd y ddaear, gan rwygo yr ymrwygodd y ddaear, gan symud yr ymsymudodd y ddaear. 20 Y ddaear gan symud a ymsymud fel meddwyn, ac a ymsigla megis bwth; a’i chamwedd fydd drwm arni; a hi a syrth, ac ni chyfyd mwy. 21 Yr amser hwnnw yr ymwêl yr Arglwydd â llu yr uchel, yr hwn sydd yn yr uchelder, ac â brenhinoedd y ddaear ar y ddaear. 22 A chesglir hwynt fel y cesglir carcharorion mewn daeardy, a hwy a garcherir mewn carchar, ac ymhen llawer o ddyddiau yr ymwelir â hwynt. 23 Yna y lleuad a wrida, a’r haul a gywilyddia, pan deyrnaso Arglwydd y lluoedd ym mynydd Seion ac yn Jerwsalem, ac o flaen ei henuriaid mewn gogoniant.

Marc 2:18-22

18 A disgyblion Ioan a’r Phariseaid oeddynt yn ymprydio. A hwy a ddaethant ac a ddywedasant wrtho, Paham y mae disgyblion Ioan a’r Phariseaid yn ymprydio, ond dy ddisgyblion di nid ydynt yn ymprydio? 19 A dywedodd yr Iesu wrthynt, A all plant yr ystafell briodas ymprydio, tra fyddo’r priodasfab gyda hwynt? tra fyddo ganddynt y priodasfab gyda hwynt, ni allant ymprydio. 20 Eithr y dyddiau a ddaw, pan ddyger y priodasfab oddi arnynt; ac yna yr ymprydiant yn y dyddiau hynny. 21 Hefyd ni wnïa neb ddernyn o frethyn newydd ar ddilledyn hen: os amgen, ei gyflawniad newydd ef a dynn oddi wrth yr hen, a gwaeth fydd y rhwyg. 22 Ac ni rydd neb win newydd mewn hen gostrelau: os amgen, y gwin newydd a ddryllia’r costrelau, a’r gwin a red allan, a’r costrelau a gollir: eithr gwin newydd sydd raid ei roi mewn costrelau newyddion.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.