Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 144

Salm Dafydd.

144 Bendigedig fyddo yr Arglwydd fy nerth, yr hwn sydd yn dysgu fy nwylo i ymladd, a’m bysedd i ryfela. Fy nhrugaredd, a’m hamddiffynfa; fy nhŵr, a’m gwaredydd: fy nharian yw efe, ac ynddo y gobeithiais; yr hwn sydd yn darostwng fy mhobl danaf. Arglwydd, beth yw dyn, pan gydnabyddit ef? neu fab dyn, pan wneit gyfrif ohono? Dyn sydd debyg i wagedd; ei ddyddiau sydd fel cysgod yn myned heibio. Arglwydd, gostwng dy nefoedd, a disgyn: cyffwrdd â’r mynyddoedd, a mygant. Saetha fellt, a gwasgar hwynt; ergydia dy saethau, a difa hwynt. Anfon dy law oddi uchod; achub a gwared fi o ddyfroedd mawrion, o law plant estron; Y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalster. Canaf i ti, O Dduw, ganiad newydd: ar y nabl a’r dectant y canaf i ti. 10 Efe sydd yn rhoddi iachawdwriaeth i frenhinoedd; yr hwn sydd yn gwaredu Dafydd ei was oddi wrth y cleddyf niweidiol. 11 Achub fi, a gwared fi o law meibion estron, y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalster: 12 Fel y byddo ein meibion fel planwydd yn tyfu yn eu hieuenctid; a’n merched fel conglfaen nadd, wrth gyffelybrwydd palas: 13 Fel y byddo ein celloedd yn llawn, yn trefnu pob rhyw luniaeth; a’n defaid yn dwyn miloedd a myrddiwn yn ein heolydd: 14 A’n hychen yn gryfion i lafurio; heb na rhuthro i mewn, na myned allan; na gwaedd yn ein heolydd. 15 Gwyn eu byd y bobl y mae felly iddynt: gwyn eu byd y bobl y mae yr Arglwydd yn Dduw iddynt.

Caniad Solomon 8:5-14

Pwy yw hon sydd yn dyfod i fyny o’r anialwch, ac yn pwyso ar ei hanwylyd? Dan yr afallen y’th gyfodais: yno y’th esgorodd dy fam; yno y’th esgorodd yr hon a’th ymddûg.

Gosod fi megis sêl ar dy galon, fel sêl ar dy fraich: canys cariad sydd gryf fel angau; eiddigedd sydd greulon fel y bedd: ei farwor sydd farwor tanllyd, a fflam angerddol iddynt. Dyfroedd lawer ni allant ddiffoddi cariad, ac afonydd nis boddant: pe rhoddai ŵr holl gyfoeth ei dŷ am gariad, gan ddirmygu y dirmygid hynny.

Y mae i ni chwaer fechan, ac nid oes fronnau iddi: beth a wnawn i’n chwaer y dydd y dyweder amdani? Os caer yw hi, ni a adeiladwn arni balas arian; ac os drws yw hi, ni a’i caewn hi ag ystyllod cedrwydd. 10 Caer ydwyf fi, a’m bronnau fel tyrau: yna yr oeddwn yn ei olwg ef megis wedi cael tangnefedd. 11 Yr oedd gwinllan i Solomon yn Baal‐hamon: efe a osododd y winllan i warcheidwaid; pob un a ddygai am ei ffrwyth fil o ddarnau arian. 12 Fy ngwinllan sydd ger fy mron: mil a roddir i ti, Solomon, a dau cant i’r rhai a gadwant ei ffrwyth hi. 13 O yr hon a drigi yn y gerddi, y cyfeillion a wrandawant ar dy lais: pâr i mi ei glywed.

14 Brysia, fy anwylyd, a bydd debyg i iwrch neu lwdn hydd ar fynyddoedd y perlysiau.

Ioan 11:45-57

45 Yna llawer o’r Iddewon, y rhai a ddaethent at Mair, ac a welsent y pethau a wnaethai yr Iesu, a gredasant ynddo ef. 46 Eithr rhai ohonynt a aethant ymaith at y Phariseaid, ac a ddywedasant iddynt y pethau a wnaethai yr Iesu.

47 Yna yr archoffeiriaid a’r Phariseaid a gasglasant gyngor, ac a ddywedasant, Pa beth yr ydym ni yn ei wneuthur? canys y mae’r dyn yma yn gwneuthur llawer o arwyddion. 48 Os gadawn ni ef fel hyn, pawb a gredant ynddo; ac fe a ddaw’r Rhufeiniaid, ac a ddifethant ein lle ni a’n cenedl hefyd. 49 A rhyw un ohonynt, Caiaffas, yr hwn oedd archoffeiriad y flwyddyn honno, a ddywedodd wrthynt, Nid ydych chwi’n gwybod dim oll, 50 Nac yn ystyried, mai buddiol yw i ni, farw o un dyn dros y bobl, ac na ddifether yr holl genedl. 51 Hyn ni ddywedodd efe ohono ei hun: eithr, ac efe yn archoffeiriad y flwyddyn honno, efe a broffwydodd y byddai’r Iesu farw dros y genedl; 52 Ac nid dros y genedl yn unig, eithr fel y casglai efe ynghyd yn un blant Duw hefyd y rhai a wasgarasid. 53 Yna o’r dydd hwnnw allan y cyd-ymgyngorasant fel y lladdent ef. 54 Am hynny ni rodiodd yr Iesu mwy yn amlwg ymysg yr Iddewon; ond efe a aeth oddi yno i’r wlad yn agos i’r anialwch, i ddinas a elwir Effraim, ac a arhosodd yno gyda’i ddisgyblion.

55 A phasg yr Iddewon oedd yn agos: a llawer a aethant o’r wlad i fyny i Jerwsalem o flaen y pasg, i’w glanhau eu hunain. 56 Yna y ceisiasant yr Iesu; a dywedasant wrth ei gilydd, fel yr oeddynt yn sefyll yn y deml, Beth a dybygwch chwi, gan na ddaeth efe i’r ŵyl? 57 A’r archoffeiriaid a’r Phariseaid a roesant orchymyn, os gwyddai neb pa le yr oedd efe, ar fynegi ohono, fel y gallent ei ddal ef.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.