Revised Common Lectionary (Complementary)
7 O Dduw y lluoedd, dychwel ni, a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir. 8 Mudaist winwydden o’r Aifft: bwriaist y cenhedloedd allan, a phlennaist hi. 9 Arloesaist o’i blaen, a pheraist i’w gwraidd wreiddio, a hi a lanwodd y tir. 10 Cuddiwyd y mynyddoedd gan ei chysgod; a’i changhennau oedd fel cedrwydd rhagorol. 11 Hi a estynnodd ei changau hyd y môr, a’i blagur hyd yr afon. 12 Paham y rhwygaist ei chaeau, fel y tynno pawb a elo heibio ar hyd y ffordd ei grawn hi? 13 Y baedd o’r coed a’i turia, a bwystfil y maes a’i pawr. 14 O Dduw y lluoedd, dychwel, atolwg: edrych o’r nefoedd, a chenfydd, ac ymwêl â’r winwydden hon; 15 A’r winllan a blannodd dy ddeheulaw, ac â’r planhigyn a gadarnheaist i ti dy hun.
6 Ymgynullwch i ffoi, meibion Benjamin, o ganol Jerwsalem, ac yn Tecoa utgenwch utgorn; a chodwch ffagl yn Beth‐haccerem: canys drwg a welir o’r gogledd, a dinistr mawr. 2 Cyffelybais ferch Seion i wraig deg foethus. 3 Ati hi y daw y bugeiliaid â’u diadellau: yn ei herbyn hi o amgylch y gosodant eu pebyll; porant bob un yn ei le. 4 Paratowch ryfel yn ei herbyn hi; codwch, ac awn i fyny ar hanner dydd. Gwae ni! oherwydd ciliodd y dydd, canys cysgodau yr hwyr a ymestynasant. 5 Codwch, ac awn i fyny o hyd nos, a distrywiwn ei phalasau hi.
6 Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Torrwch goed, a chodwch glawdd yn erbyn Jerwsalem. Dyma y ddinas sydd i ymweled â hi; gorthrymder yw hi oll o’i mewn. 7 Megis y gwna ffynnon i’w dwfr darddu allan, felly y mae hi yn bwrw allan ei drygioni: trais ac ysbail a glywir ynddi; gofid a dyrnodiau sydd yn wastad ger fy mron. 8 Cymer addysg, O Jerwsalem, rhag i’m henaid i ymado oddi wrthyt; rhag i mi dy osod di yn anrhaith, yn dir anghyfanheddol.
9 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Gan loffa y lloffant weddill Israel fel gwinwydden; tro dy law yn ei hôl, megis casglydd grawnwin i’r basgedau. 10 Wrth bwy y dywedaf fi, a phwy a rybuddiaf, fel y clywant? Wele, eu clust hwy sydd ddienwaededig, ac ni allant wrando: wele, dirmygus ganddynt air yr Arglwydd; nid oes ganddynt ewyllys iddo.
40 Am hynny llawer o’r bobl, wedi clywed yr ymadrodd hwn, a ddywedasant, Yn wir hwn yw’r Proffwyd. 41 Eraill a ddywedasant, Hwn yw Crist. Eraill a ddywedasant, Ai o Galilea y daw Crist? 42 Oni ddywedodd yr ysgrythur, Mai o had Dafydd, ac o Fethlehem, y dref lle y bu Dafydd, y mae Crist yn dyfod? 43 Felly yr aeth ymrafael ymysg y bobl o’i blegid ef. 44 A rhai ohonynt a fynasent ei ddal ef; ond ni osododd neb ddwylo arno.
45 Yna y daeth y swyddogion at yr archoffeiriaid a’r Phariseaid; a hwy a ddywedasant wrthynt hwy, Paham na ddygasoch chwi ef? 46 A’r swyddogion a atebasant, Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn. 47 Yna y Phariseaid a atebasant iddynt, A hudwyd chwithau hefyd? 48 A gredodd neb o’r penaethiaid ynddo ef, neu o’r Phariseaid? 49 Eithr y bobl hyn, y rhai ni wyddant y gyfraith, melltigedig ydynt. 50 Nicodemus (yr hwn a ddaethai at yr Iesu o hyd nos, ac oedd un ohonynt) a ddywedodd wrthynt, 51 A ydyw ein cyfraith ni yn barnu dyn, oddieithr clywed ganddo ef yn gyntaf, a gwybod beth a wnaeth efe? 52 Hwythau a atebasant ac a ddywedasant wrtho, A ydwyt tithau o Galilea? Chwilia a gwêl, na chododd proffwyd o Galilea.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.