Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 80:7-15

O Dduw y lluoedd, dychwel ni, a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir. Mudaist winwydden o’r Aifft: bwriaist y cenhedloedd allan, a phlennaist hi. Arloesaist o’i blaen, a pheraist i’w gwraidd wreiddio, a hi a lanwodd y tir. 10 Cuddiwyd y mynyddoedd gan ei chysgod; a’i changhennau oedd fel cedrwydd rhagorol. 11 Hi a estynnodd ei changau hyd y môr, a’i blagur hyd yr afon. 12 Paham y rhwygaist ei chaeau, fel y tynno pawb a elo heibio ar hyd y ffordd ei grawn hi? 13 Y baedd o’r coed a’i turia, a bwystfil y maes a’i pawr. 14 O Dduw y lluoedd, dychwel, atolwg: edrych o’r nefoedd, a chenfydd, ac ymwêl â’r winwydden hon; 15 A’r winllan a blannodd dy ddeheulaw, ac â’r planhigyn a gadarnheaist i ti dy hun.

Jeremeia 2:14-22

14 Ai gwas ydyw Israel? ai gwas a anwyd yn tŷ yw efe? paham yr ysbeiliwyd ef? 15 Y llewod ieuainc a ruasant arno, ac a leisiasant; a’i dir ef a osodasant yn anrhaith, a’i ddinasoedd a losgwyd heb drigiannydd. 16 Meibion Noff hefyd a Thahapanes a dorasant dy gorun di. 17 Onid tydi a beraist hyn i ti dy hun, am wrthod ohonot yr Arglwydd dy Dduw, pan ydoedd efe yn dy arwain ar hyd y ffordd? 18 A’r awr hon, beth sydd i ti a wnelych yn ffordd yr Aifft, i yfed dwfr Nilus? a pheth sydd i ti yn ffordd Asyria, i yfed dwfr yr afon? 19 Dy ddrygioni dy hun a’th gosba di, a’th wrthdro a’th gerydda: gwybydd dithau a gwêl, mai drwg a chwerw ydyw gwrthod ohonot yr Arglwydd dy Dduw, ac nad ydyw fy ofn i ynot ti, medd Arglwydd Dduw y lluoedd.

20 Oblegid er ys talm mi a dorrais dy iau di, ac a ddrylliais dy rwymau; a thi a ddywedaist, Ni throseddaf; er hynny ti a wibiaist, gan buteinio ar bob bryn uchel, a than bob pren deiliog. 21 Eto myfi a’th blanaswn yn bêr winwydden, o’r iawn had oll: pa fodd gan hynny y’th drowyd i mi yn blanhigyn afrywiog gwinwydden ddieithr? 22 Canys pe byddai i ti ymolchi â nitr, a chymryd i ti lawer o sebon; eto nodwyd dy anwiredd ger fy mron i, medd yr Arglwydd Dduw.

Colosiaid 2:16-23

16 Am hynny na farned neb arnoch chwi am fwyd, neu am ddiod, neu o ran dydd gŵyl, neu newyddloer, neu Sabothau: 17 Y rhai ydynt gysgod pethau i ddyfod; ond y corff sydd o Grist. 18 Na thwylled neb chwi am eich gwobr, wrth ei ewyllys, mewn gostyngeiddrwydd, ac addoliad angylion, gan ruthro i bethau nis gwelodd, wedi ymchwyddo yn ofer gan ei feddwl cnawdol ei hun; 19 Ac heb gyfatal y Pen, o’r hwn y mae’r holl gorff, trwy’r cymalau a’r cysylltiadau, yn derbyn lluniaeth, ac wedi ei gydgysylltu, yn cynyddu gan gynnydd Duw. 20 Am hynny, os ydych wedi marw gyda Christ oddi wrth egwyddorion y byd, paham yr ydych, megis petech yn byw yn y byd, yn ymroi i ordeiniadau, 21 (Na chyffwrdd; ac nac archwaetha; ac na theimla; 22 Y rhai ydynt oll yn llygredigaeth wrth eu harfer;) yn ôl gorchmynion ac athrawiaethau dynion? 23 Yr hyn bethau sydd ganddynt rith doethineb mewn ewyllys‐grefydd, a gostyngeiddrwydd, a bod heb arbed y corff, nid mewn bri i ddigoni’r cnawd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.