Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
28 Arnat ti, Arglwydd, y gwaeddaf; fy nghraig, na ddistawa wrthyf: rhag, o thewi wrthyf, i mi fod yn gyffelyb i rai yn disgyn i’r pwll. 2 Erglyw lef fy ymbil pan waeddwyf arnat, pan ddyrchafwyf fy nwylo tuag at dy gafell sanctaidd. 3 Na thyn fi gyda’r annuwiolion, a chyda gweithredwyr anwiredd; y rhai a lefarant heddwch wrth eu cymdogion, a drwg yn eu calon. 4 Dyro iddynt yn ôl eu gweithred, ac yn ôl drygioni eu dychmygion: dyro iddynt yn ôl gweithredoedd eu dwylo; tâl iddynt eu haeddedigaethau. 5 Am nad ystyriant weithredoedd yr Arglwydd, na gwaith ei ddwylo ef, y dinistria efe hwynt, ac nis adeilada hwynt. 6 Bendigedig fyddo yr Arglwydd: canys clybu lef fy ngweddïau. 7 Yr Arglwydd yw fy nerth, a’m tarian; ynddo ef yr ymddiriedodd fy nghalon, a myfi a gynorthwywyd: oherwydd hyn y llawenychodd fy nghalon, ac ar fy nghân y clodforaf ef. 8 Yr Arglwydd sydd nerth i’r cyfryw rai, a chadernid iachawdwriaeth ei Eneiniog yw efe. 9 Cadw dy bobl, a bendithia dy etifeddiaeth: portha hwynt hefyd, a dyrcha hwynt yn dragywydd.
23 Yna arglwyddi’r Philistiaid a ymgasglasant i aberthu aberth mawr i Dagon eu duw, ac i orfoleddu: canys dywedasant, Ein duw ni a roddodd Samson ein gelyn yn ein llaw ni. 24 A phan welodd y bobl ef, hwy a ganmolasant eu duw: canys dywedasant, Ein duw ni a roddodd ein gelyn yn ein dwylo ni, yr hwn oedd yn anrheithio ein gwlad ni, yr hwn a laddodd lawer ohonom ni. 25 A phan oedd eu calon hwynt yn llawen, yna y dywedasant, Gelwch am Samson, i beri i ni chwerthin. A hwy a alwasant am Samson o’r carchardy, fel y chwaraeai o’u blaen hwynt; a hwy a’i gosodasant ef rhwng y colofnau. 26 A Samson a ddywedodd wrth y llanc oedd yn ymaflyd yn ei law ef, Gollwng, a gad i mi gael gafael ar y colofnau y mae y tŷ yn sefyll arnynt, fel y pwyswyf arnynt. 27 A’r tŷ oedd yn llawn o wŷr a gwragedd; a holl arglwyddi’r Philistiaid oedd yno: ac ar y nen yr oedd ynghylch tair mil o wŷr a gwragedd yn edrych tra yr ydoedd Samson yn chwarae. 28 A Samson a alwodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O Arglwydd IOR, cofia fi, atolwg, a nertha fi, atolwg, yn unig y waith hon, O Dduw, fel y dialwyf ag un dialedd ar y Philistiaid am fy nau lygad. 29 A Samson a ymaflodd yn y ddwy golofn ganol, y rhai yr oedd y tŷ yn sefyll arnynt, ac a ymgynhaliodd wrthynt, un yn ei ddeheulaw, a’r llall yn ei law aswy. 30 A dywedodd Samson, Bydded farw fy einioes gyda’r Philistiaid. Ac efe a ymgrymodd â’i holl nerth; a syrthiodd y tŷ ar y pendefigion, ac ar yr holl bobl oedd ynddo: a’r meirw y rhai a laddodd efe wrth farw, oedd fwy nag a laddasai efe yn ei fywyd. 31 A’i frodyr ef, a holl dŷ ei dad ef, a ddaethant i waered, ac a’i cymerasant ef, ac a’i dygasant i fyny, ac a’i claddasant ef rhwng Sora ac Estaol, ym meddrod Manoa ei dad. Ac efe a farnasai Israel ugain mlynedd.
2 Ac wele, hwy a ddygasant ato ŵr claf o’r parlys, yn gorwedd mewn gwely: a’r Iesu yn gweled eu ffydd hwy, a ddywedodd wrth y claf o’r parlys, Ha fab, cymer gysur; maddeuwyd i ti dy bechodau. 3 Ac wele, rhai o’r ysgrifenyddion a ddywedasant ynddynt eu hunain, Y mae hwn yn cablu. 4 A phan welodd yr Iesu eu meddyliau, efe a ddywedodd, Paham y meddyliwch ddrwg yn eich calonnau? 5 Canys pa un hawsaf ai dywedyd, Maddeuwyd i ti dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a rhodia? 6 Eithr fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y dyn ar y ddaear i faddau pechodau, (yna y dywedodd efe wrth y claf o’r parlys,) Cyfod, cymer dy wely i fyny, a dos i’th dŷ. 7 Ac efe a gyfododd, ac a aeth ymaith i’w dŷ ei hun. 8 A’r torfeydd pan welsant, rhyfeddu a wnaethant, a gogoneddu Duw, yr hwn a roesai gyfryw awdurdod i ddynion.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.