Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
28 Arnat ti, Arglwydd, y gwaeddaf; fy nghraig, na ddistawa wrthyf: rhag, o thewi wrthyf, i mi fod yn gyffelyb i rai yn disgyn i’r pwll. 2 Erglyw lef fy ymbil pan waeddwyf arnat, pan ddyrchafwyf fy nwylo tuag at dy gafell sanctaidd. 3 Na thyn fi gyda’r annuwiolion, a chyda gweithredwyr anwiredd; y rhai a lefarant heddwch wrth eu cymdogion, a drwg yn eu calon. 4 Dyro iddynt yn ôl eu gweithred, ac yn ôl drygioni eu dychmygion: dyro iddynt yn ôl gweithredoedd eu dwylo; tâl iddynt eu haeddedigaethau. 5 Am nad ystyriant weithredoedd yr Arglwydd, na gwaith ei ddwylo ef, y dinistria efe hwynt, ac nis adeilada hwynt. 6 Bendigedig fyddo yr Arglwydd: canys clybu lef fy ngweddïau. 7 Yr Arglwydd yw fy nerth, a’m tarian; ynddo ef yr ymddiriedodd fy nghalon, a myfi a gynorthwywyd: oherwydd hyn y llawenychodd fy nghalon, ac ar fy nghân y clodforaf ef. 8 Yr Arglwydd sydd nerth i’r cyfryw rai, a chadernid iachawdwriaeth ei Eneiniog yw efe. 9 Cadw dy bobl, a bendithia dy etifeddiaeth: portha hwynt hefyd, a dyrcha hwynt yn dragywydd.
14 A Samson a aeth i waered i Timnath; ac a ganfu wraig yn Timnath, o ferched y Philistiaid. 2 Ac efe a ddaeth i fyny, ac a fynegodd i’w dad ac i’w fam, ac a ddywedodd, Mi a welais wraig yn Timnath o ferched y Philistiaid: cymerwch yn awr honno yn wraig i mi. 3 Yna y dywedodd ei dad a’i fam wrtho, Onid oes ymysg merched dy frodyr, nac ymysg fy holl bobl, wraig, pan ydwyt ti yn myned i geisio gwraig o’r Philistiaid dienwaededig? A dywedodd Samson wrth ei dad, Cymer hi i mi; canys y mae hi wrth fy modd i. 4 Ond ni wyddai ei dad ef na’i fam mai oddi wrth yr Arglwydd yr oedd hyn, mai ceisio achos yr oedd efe yn erbyn y Philistiaid: canys y Philistiaid oedd y pryd hwnnw yn arglwyddiaethu ar Israel. 5 Yna Samson a aeth i waered a’i dad a’i fam, i Timnath; ac a ddaethant hyd winllannoedd Timnath: ac wele genau llew yn rhuo yn ei gyfarfod ef. 6 Ac ysbryd yr Arglwydd a ddaeth yn rymus arno ef; ac efe a holltodd y llew fel yr holltid myn, ac nid oedd dim yn ei law ef: ond ni fynegodd efe i’w dad nac i’w fam yr hyn a wnaethai. 7 Ac efe a aeth i waered, ac a ymddiddanodd â’r wraig; ac yr oedd hi wrth fodd Samson.
8 Ac ar ôl ychydig ddyddiau efe a ddychwelodd i’w chymryd hi; ac a drodd i edrych ysgerbwd y llew: ac wele haid o wenyn a mêl yng nghorff y llew. 9 Ac efe a’i cymerth yn ei law, ac a gerddodd dan fwyta; ac a ddaeth at ei dad a’i fam, ac a roddodd iddynt; a hwy a fwytasant: ond ni fynegodd iddynt hwy mai o gorff y llew y cymerasai efe y mêl.
10 Felly ei dad ef a aeth i waered at y wraig; a Samson a wnaeth yno wledd: canys felly y gwnâi y gwŷr ieuainc. 11 A phan welsant hwy ef, yna y cymerasant ddeg ar hugain o gyfeillion i fod gydag ef.
12 A Samson a ddywedodd wrthynt, Rhoddaf i chwi ddychymyg yn awr: os gan fynegi y mynegwch ef i mi o fewn saith niwrnod y wledd, ac a’i cewch; yna y rhoddaf i chwi ddeg ar hugain o lenllieiniau, a deg pâr ar hugain o ddillad: 13 Ond os chwi ni fedrwch ei fynegi i mi; yna chwi a roddwch i mi ddeg ar hugain o lenllieiniau, a deg pâr ar hugain o wisgoedd. Hwythau a ddywedasant wrtho, Traetha dy ddychymyg, fel y clywom ef. 14 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Allan o’r bwytawr y daeth bwyd, ac o’r cryf y daeth allan felystra. Ac ni fedrent ddirnad y dychymyg mewn tri diwrnod. 15 Ac yn y seithfed dydd y dywedasant wrth wraig Samson, Huda dy ŵr, fel y mynego efe i ni y dychymyg; rhag i ni dy losgi di a thŷ dy dad â thân: ai i’n tlodi ni y’n gwahoddasoch? onid felly y mae? 16 A gwraig Samson a wylodd wrtho ef, ac a ddywedodd, Yn ddiau y mae yn gas gennyt fi, ac nid wyt yn fy ngharu: dychymyg a roddaist i feibion fy mhobl, ac nis mynegaist i mi. A dywedodd yntau wrthi, Wele, nis mynegais i’m tad nac i’m mam: ac a’i mynegwn i ti? 17 A hi a wylodd wrtho ef y saith niwrnod hynny, tra yr oeddid yn cynnal y wledd: ac ar y seithfed dydd y mynegodd efe iddi hi, canys yr oedd hi yn ei flino ef: a hi a fynegodd y dychymyg i feibion ei phobl. 18 A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrtho ef y seithfed dydd, cyn machludo’r haul, Beth sydd felysach na mêl? a pheth gryfach na llew? Dywedodd yntau wrthynt, Oni buasai i chwi aredig â’m hanner i, ni chawsech allan fy nychymyg.
19 Ac ysbryd yr Arglwydd a ddaeth arno ef; ac efe a aeth i waered i Ascalon, ac a drawodd ohonynt ddeg ar hugain, ac a gymerth eu hysbail, ac a roddodd y parau dillad i’r rhai a fynegasant y dychymyg: a’i ddicllonedd ef a lidiodd, ac efe a aeth i fyny i dŷ ei dad. 20 A rhoddwyd gwraig Samson i’w gyfaill ef ei hun, yr hwn a gymerasai efe yn gyfaill.
3 I’m Duw yr ydwyf yn diolch ym mhob coffa amdanoch, 4 Bob amser ym mhob deisyfiad o’r eiddof drosoch chwi oll, gan wneuthur fy neisyfiad gyda llawenydd, 5 Oblegid eich cymdeithas chwi yn yr efengyl, o’r dydd cyntaf hyd yr awr hon; 6 Gan fod yn hyderus yn hyn, y bydd i’r hwn a ddechreuodd ynoch waith da, ei orffen hyd ddydd Iesu Grist: 7 Megis y mae’n iawn i mi synied hyn amdanoch oll, am eich bod gennyf yn fy nghalon, yn gymaint â’ch bod chwi oll, yn gystal yn fy rhwymau, ag yn fy amddiffyn a chadarnhad yr efengyl, yn gyfranogion â mi o ras. 8 Canys Duw sydd dyst i mi, mor hiraethus wyf amdanoch oll yn ymysgaroedd Iesu Grist. 9 A hyn yr wyf yn ei weddïo, ar amlhau o’ch cariad chwi eto fwyfwy mewn gwybodaeth a phob synnwyr; 10 Fel y profoch y pethau sydd â gwahaniaeth rhyngddynt; fel y byddoch bur a didramgwydd hyd ddydd Crist; 11 Wedi eich cyflawni â ffrwythau cyfiawnder, y rhai sydd trwy Iesu Grist, er gogoniant a moliant i Dduw. 12 Ac mi a ewyllysiwn i chwi wybod, frodyr, am y pethau a ddigwyddodd i mi, ddyfod ohonynt yn hytrach er llwyddiant i’r efengyl; 13 Yn gymaint â bod fy rhwymau i yng Nghrist yn eglur yn yr holl lys, ac ym mhob lle arall; 14 Ac i lawer o’r brodyr yn yr Arglwydd fyned yn hyderus wrth fy rhwymau i, a bod yn hyach o lawer i draethu’r gair yn ddi‐ofn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.