Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 25:1-9

Salm Dafydd.

25 Atat ti, O Arglwydd, y dyrchafaf fy enaid. O fy Nuw, ynot ti yr ymddiriedais; na’m gwaradwydder; na orfoledded fy ngelynion arnaf. Ie, na waradwydder neb sydd yn disgwyl wrthyt ti: gwaradwydder y rhai a droseddant heb achos. Pâr i mi wybod dy ffyrdd, O Arglwydd: dysg i mi dy lwybrau. Tywys fi yn dy wirionedd, a dysg fi: canys ti yw Duw fy iachawdwriaeth; wrthyt ti y disgwyliaf ar hyd y dydd. Cofia, Arglwydd, dy dosturiaethau, a’th drugareddau: canys erioed y maent hwy. Na chofia bechodau fy ieuenctid, na’m camweddau: yn ôl dy drugaredd meddwl di amdanaf, er mwyn dy ddaioni, Arglwydd. Da ac uniawn yw yr Arglwydd: oherwydd hynny y dysg efe bechaduriaid yn y ffordd. Y rhai llariaidd a hyffordda efe mewn barn: a’i ffordd a ddysg efe i’r rhai gostyngedig.

Eseciel 12:17-28

17 Gair yr Arglwydd hefyd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 18 Ha fab dyn, bwytei dy fara dan grynu, a’th ddwfr a yfi mewn dychryn a gofal: 19 A dywed wrth bobl y tir, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw am drigolion Jerwsalem, ac am wlad Israel; Eu bara a fwytânt mewn gofal, a’u dwfr a yfant mewn syndod, fel yr anrheithir ei thir o’i chyflawnder, am drais y rhai oll a drigant ynddi. 20 A’r dinasoedd cyfanheddol a anghyfanheddir, a’r tir a fydd anrheithiol; felly y gwybyddwch mai myfi yw yr Arglwydd.

21 A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 22 Ha fab dyn, beth yw y ddihareb hon gennych am dir Israel, gan ddywedyd, Y dyddiau a estynnwyd, a darfu am bob gweledigaeth? 23 Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gwnaf i’r ddihareb hon beidio, fel nad arferont hi yn ddihareb mwy yn Israel: ond dywed wrthynt, Y dyddiau sydd agos, a sylwedd pob gweledigaeth. 24 Canys ni bydd mwy un weledigaeth ofer, na dewiniaeth wenieithus, o fewn tŷ Israel. 25 Canys myfi yw yr Arglwydd: mi a lefaraf, a’r gair a lefarwyf a wneir; nid oedir ef mwy: oherwydd yn eich dyddiau chwi, O dŷ gwrthryfelgar, y dywedaf y gair, ac a’i gwnaf, medd yr Arglwydd Dduw.

26 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 27 Ha fab dyn, wele dŷ Israel yn dywedyd, Y weledigaeth a wêl efe fydd wedi dyddiau lawer, a phroffwydo y mae efe am amseroedd pell. 28 Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Nid oedir dim o’m geiriau mwy, ond y gair a ddywedais a wneir, medd yr Arglwydd Dduw.

Iago 4:11-16

11 Na ddywedwch yn erbyn eich gilydd, frodyr. Y neb sydd yn dywedyd yn erbyn ei frawd, ac yn barnu ei frawd, y mae efe yn dywedyd yn erbyn y gyfraith, ac yn barnu’r gyfraith: ac od wyt ti yn barnu’r gyfraith, nid wyt ti wneuthurwr y gyfraith, eithr barnwr. 12 Un gosodwr cyfraith sydd, yr hwn a ddichon gadw a cholli. Pwy wyt ti yr hwn wyt yn barnu arall? 13 Iddo yn awr, y rhai ydych yn dywedyd, Heddiw neu yfory ni a awn i gyfryw ddinas, ac a arhoswn yno flwyddyn, ac a farchnatawn, ac a enillwn: 14 Y rhai ni wyddoch beth a fydd yfory. Canys beth ydyw eich einioes chwi? Canys tarth ydyw, yr hwn sydd dros ychydig yn ymddangos, ac wedi hynny yn diflannu. 15 Lle y dylech ddywedyd, Os yr Arglwydd a’i myn, ac os byddwn byw, ni a wnawn hyn, neu hynny. 16 Eithr yn awr gorfoleddu yr ydych yn eich ymffrost: pob cyfryw orfoledd, drwg ydyw.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.