Revised Common Lectionary (Complementary)
106 Molwch yr Arglwydd. Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd. 2 Pwy a draetha nerthoedd yr Arglwydd? ac a fynega ei holl fawl ef? 3 Gwyn eu byd a gadwant farn, a’r hwn a wnêl gyfiawnder bob amser. 4 Cofia fi, Arglwydd, yn ôl dy raslonrwydd i’th bobl; ymwêl â mi â’th iachawdwriaeth. 5 Fel y gwelwyf ddaioni dy etholedigion, fel y llawenychwyf yn llawenydd dy genedl di, fel y gorfoleddwyf gyda’th etifeddiaeth. 6 Pechasom gyda’n tadau; gwnaethom gamwedd, anwireddus fuom. 7 Ein tadau ni ddeallasant dy ryfeddodau yn yr Aifft, ni chofiasant luosowgrwydd dy drugareddau; eithr gwrthryfelgar fuont wrth y môr, sef y môr coch. 8 Eto efe a’u hachubodd hwynt er mwyn ei enw, i beri adnabod ei gadernid. 9 Ac a geryddodd y môr coch, fel y sychodd efe: a thywysodd hwynt trwy’r dyfnder, megis trwy’r anialwch. 10 Achubodd hwynt hefyd o law eu digasog; ac a’u gwaredodd o law y gelyn. 11 A’r dyfroedd a doesant eu gwrthwynebwyr; ni adawyd un ohonynt. 12 Yna y credasant ei eiriau ef; canasant ei fawl ef.
41 Distewch, ynysoedd, ger fy mron; adnewydded y cenhedloedd eu nerth: deuant yn nes, yna llefarant; cyd-nesawn i farn. 2 Pwy a gyfododd y cyfiawn o’r dwyrain, a’i galwodd at ei droed, a roddodd y cenhedloedd o’i flaen ef, ac a wnaeth iddo lywodraethu ar frenhinoedd? efe a’u rhoddodd hwynt fel llwch i’w gleddyf, ac fel sofl gwasgaredig i’w fwa ef. 3 Y mae efe yn eu herlid hwynt, ac yn myned yn ddiogel; ar hyd llwybr ni cherddasai efe â’i draed. 4 Pwy a weithredodd ac a wnaeth hyn, gan alw y cenedlaethau o’r dechreuad? Myfi yr Arglwydd y cyntaf, myfi hefyd fydd gyda’r diwethaf. 5 Yr ynysoedd a welsant, ac a ofnasant; eithafoedd y ddaear a ddychrynasant, a nesasant, ac a ddaethant. 6 Pob un a gynorthwyodd ei gymydog, ac a ddywedodd wrth ei frawd, Ymgryfha. 7 Felly y saer a gysurodd yr eurych, a’r morthwyliwr yr hwn oedd yn taro ar yr eingion, gan ddywedyd, Y mae yn barod i’w asio; ac efe a’i sicrhaodd â hoelion, fel nad ysgogir. 8 Eithr ti, Israel, fy ngwas ydwyt ti, Jacob yr hwn a etholais, had Abraham fy anwylyd. 9 Ti, yr hwn a gymerais o eithafoedd y ddaear, ac y’th elwais oddi wrth ei phendefigion, ac y dywedais wrthyt, Fy ngwas wyt ti; dewisais di, ac ni’th wrthodais.
10 Nac ofna; canys yr ydwyf fi gyda thi: na lwfrha; canys myfi yw dy Dduw: cadarnhaf di, cynorthwyaf di hefyd, a chynhaliaf di â deheulaw fy nghyfiawnder. 11 Wele, cywilyddir a gwaradwyddir y rhai oll a lidiasent wrthyt: dy wrthwynebwyr a fyddant megis diddim, ac a ddifethir. 12 Ti a’u ceisi, ac nis cei hwynt, sef y dynion a ymgynenasant â thi: y gwŷr a ryfelant â thi fyddant megis diddim, a megis peth heb ddim. 13 Canys myfi yr Arglwydd dy Dduw a ymaflaf yn dy ddeheulaw, a ddywed wrthyt, Nac ofna, myfi a’th gynorthwyaf.
18 Ar yr awr honno y daeth y disgyblion at yr Iesu, gan ddywedyd, Pwy sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd? 2 A’r Iesu a alwodd ato fachgennyn, ac a’i gosododd yn eu canol hwynt; 3 Ac a ddywedodd, Yn wir y dywedaf i chwi, Oddieithr eich troi chwi, a’ch gwneuthur fel plant bychain, nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas nefoedd. 4 Pwy bynnag gan hynny a’i gostyngo ei hunan fel y bachgennyn hwn, hwnnw yw’r mwyaf yn nheyrnas nefoedd. 5 A phwy bynnag a dderbynio gyfryw fachgennyn yn fy enw i, a’m derbyn i.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.