Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 106:1-12

106 Molwch yr Arglwydd. Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd. Pwy a draetha nerthoedd yr Arglwydd? ac a fynega ei holl fawl ef? Gwyn eu byd a gadwant farn, a’r hwn a wnêl gyfiawnder bob amser. Cofia fi, Arglwydd, yn ôl dy raslonrwydd i’th bobl; ymwêl â mi â’th iachawdwriaeth. Fel y gwelwyf ddaioni dy etholedigion, fel y llawenychwyf yn llawenydd dy genedl di, fel y gorfoleddwyf gyda’th etifeddiaeth. Pechasom gyda’n tadau; gwnaethom gamwedd, anwireddus fuom. Ein tadau ni ddeallasant dy ryfeddodau yn yr Aifft, ni chofiasant luosowgrwydd dy drugareddau; eithr gwrthryfelgar fuont wrth y môr, sef y môr coch. Eto efe a’u hachubodd hwynt er mwyn ei enw, i beri adnabod ei gadernid. Ac a geryddodd y môr coch, fel y sychodd efe: a thywysodd hwynt trwy’r dyfnder, megis trwy’r anialwch. 10 Achubodd hwynt hefyd o law eu digasog; ac a’u gwaredodd o law y gelyn. 11 A’r dyfroedd a doesant eu gwrthwynebwyr; ni adawyd un ohonynt. 12 Yna y credasant ei eiriau ef; canasant ei fawl ef.

Genesis 27:1-29

27 A bu, wedi heneiddio o Isaac, a thywyllu ei lygaid fel na welai, alw ohono ef Esau ei fab hynaf, a dywedyd wrtho, Fy mab. Yntau a ddywedodd wrtho ef, Wele fi. Ac efe a ddywedodd, Wele, mi a heneiddiais yn awr, ac nis gwn ddydd fy marwolaeth. Ac yn awr cymer, atolwg, dy offer, dy gawell saethau, a’th fwa, a dos allan i’r maes, a hela i mi helfa. A gwna i mi flasusfwyd o’r fath a garaf, a dwg i mi, fel y bwytawyf; fel y’th fendithio fy enaid cyn fy marw. A Rebeca a glybu pan ddywedodd Isaac wrth Esau ei fab: ac Esau a aeth i’r maes, i hela helfa i’w dwyn.

A Rebeca a lefarodd wrth Jacob ei mab, gan ddywedyd, Wele, clywais dy dad yn llefaru wrth Esau dy frawd, gan ddywedyd, Dwg i mi helfa, a gwna i mi flasusfwyd, fel y bwytawyf, ac y’th fendithiwyf gerbron yr Arglwydd cyn fy marw. Ond yn awr, fy mab, gwrando ar fy llais i, am yr hyn a orchmynnaf i ti. Dos yn awr i’r praidd, a chymer i mi oddi yno ddau fyn gafr da; a mi a’u gwnaf hwynt yn fwyd blasus i’th dad, o’r fath a gâr efe. 10 A thi a’u dygi i’th dad, fel y bwytao, ac y’th fendithio cyn ei farw. 11 A dywedodd Jacob wrth Rebeca ei fam, Wele Esau fy mrawd yn ŵr blewog, a minnau yn ŵr llyfn: 12 Fy nhad, ond odid, a’m teimla; yna y byddaf yn ei olwg ef fel twyllwr; ac a ddygaf arnaf felltith, ac nid bendith. 13 A’i fam a ddywedodd wrtho, Arnaf fi y byddo dy felltith, fy mab, yn unig gwrando ar fy llais; dos a dwg i mi. 14 Ac efe a aeth, ac a gymerth y mynnod, ac a’u dygodd at ei fam: a’i fam a wnaeth fwyd blasus o’r fath a garai ei dad ef. 15 Rebeca hefyd a gymerodd hoff wisgoedd Esau ei mab hynaf, y rhai oedd gyda hi yn tŷ, ac a wisgodd Jacob ei mab ieuangaf. 16 A gwisgodd hefyd grwyn y mynnod geifr am ei ddwylo ef, ac am lyfndra ei wddf ef: 17 Ac a roddes y bwyd blasus, a’r bara a arlwyasai hi, yn llaw Jacob ei mab.

18 Ac efe a ddaeth at ei dad, ac a ddywedodd, Fy nhad. Yntau a ddywedodd, Wele fi: pwy wyt ti, fy mab? 19 A dywedodd Jacob wrth ei dad, Myfi yw Esau dy gyntaf‐anedig: gwneuthum fel y dywedaist wrthyf: cyfod, atolwg, eistedd, a bwyta o’m helfa, fel y’m bendithio dy enaid. 20 Ac Isaac a ddywedodd wrth ei fab, Pa fodd, fy mab, y cefaist mor fuan â hyn? Yntau a ddywedodd, Am i’r Arglwydd dy Dduw beri iddo ddigwyddo o’m blaen. 21 A dywedodd Isaac wrth Jacob, Tyred yn nes yn awr, fel y’th deimlwyf, fy mab; ai tydi yw fy mab Esau, ai nad e. 22 A nesaodd Jacob at Isaac ei dad: yntau a’i teimlodd; ac a ddywedodd, Y llais yw llais Jacob; a’r dwylo, dwylo Esau ydynt. 23 Ac nid adnabu efe ef, am fod ei ddwylo fel dwylo ei frawd Esau, yn flewog: felly efe a’i bendithiodd ef. 24 Dywedodd hefyd, Ai ti yw fy mab Esau? Yntau a ddywedodd, Myfi yw. 25 Ac efe a ddywedodd, Dwg yn nes ataf fi, a mi a fwytâf o helfa fy mab, fel y’th fendithio fy enaid. Yna y dug ato ef, ac efe a fwytaodd: dug iddo win hefyd ac efe a yfodd. 26 Yna y dywedodd Isaac ei dad wrtho ef, Tyred yn nes yn awr, a chusana fi, fy mab. 27 Yna y daeth efe yn nes, ac a’i cusanodd ef; ac a aroglodd arogl ei wisgoedd ef, ac a’i bendithiodd ef, ac a ddywedodd, Wele arogl fy mab fel arogl maes, yr hwn a fendithiodd yr Arglwydd. 28 A rhodded Duw i ti o wlith y nefoedd, ac o fraster y ddaear, ac amldra o ŷd a gwin: 29 Gwasanaethed pobloedd dydi, ac ymgrymed cenhedloedd i ti: bydd di arglwydd ar dy frodyr, ac ymgrymed meibion dy fam i ti: melltigedig fyddo a’th felltithio, a bendigedig a’th fendithio.

Rhufeiniaid 16:1-16

16 Yr wyf yn gorchymyn i chwi Phebe ein chwaer, yr hon sydd weinidoges i eglwys Cenchrea: Dderbyn ohonoch hi yn yr Arglwydd, megis y mae yn addas i saint, a’i chynorthwyo hi ym mha beth bynnag y byddo rhaid iddi wrthych: canys hithau hefyd a fu gymorth i lawer, ac i minnau fy hun hefyd. Anerchwch Priscila ac Acwila, fy nghyd‐weithwyr yng Nghrist Iesu; Y rhai dros fy mywyd i a ddodasant eu gyddfau eu hunain i lawr: i’r rhai nid wyf fi yn unig yn diolch, ond hefyd holl eglwysydd y Cenhedloedd. Anerchwch hefyd yr eglwys sydd yn eu tŷ hwy. Anerchwch fy annwyl Epenetus, yr hwn yw blaenffrwyth Achaia yng Nghrist. Anerchwch Mair, yr hon a gymerodd lawer o boen erom ni. Anerchwch Andronicus a Jwnia, fy ngheraint a’m cyd‐garcharorion, y rhai sydd hynod ymhlith yr apostolion, y rhai hefyd oeddynt yng Nghrist o’m blaen i. Anerchwch Amplias, fy anwylyd yn yr Arglwydd. Anerchwch Urbanus, ein cyd‐weithiwr yng Nghrist, a Stachys fy anwylyd. 10 Anerchwch Apeles, y profedig yng Nghrist. Anerchwch y rhai sydd o dylwyth Aristobulus. 11 Anerchwch Herodion, fy nghâr. Anerchwch y rhai sydd o dylwyth Narcisus, y rhai sydd yn yr Arglwydd. 12 Anerchwch Tryffena a Thryffosa, y rhai a gymerasant boen yn yr Arglwydd. Anerchwch yr annwyl Persis, yr hon a gymerodd lawer o boen yn yr Arglwydd. 13 Anerchwch Rwffus etholedig yn yr Arglwydd, a’i fam ef a minnau. 14 Anerchwch Asyncritus, Phlegon, Hermas, Patrobas, Mercurius; a’r brodyr sydd gyda hwynt. 15 Anerchwch Philogus, a Jwlia, Nereus a’i chwaer, ac Olympas, a’r holl saint y rhai sydd gyda hwynt. 16 Anerchwch y naill y llall â chusan sanctaidd. Y mae eglwysi Crist yn eich annerch.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.