Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 145:1-8

Salm Dafydd o foliant.

145 Dyrchafaf di, fy Nuw, O Frenin; a bendithiaf dy enw byth ac yn dragywydd. Beunydd y’th fendithiaf; a’th enw a folaf byth ac yn dragywydd. Mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn; a’i fawredd sydd anchwiliadwy. Cenhedlaeth wrth genhedlaeth a fawl dy weithredoedd, ac a fynega dy gadernid. Ardderchowgrwydd gogoniant dy fawredd, a’th bethau rhyfedd, a draethaf. Traethant hwy gadernid dy weithredoedd ofnadwy: mynegaf finnau dy fawredd. Coffadwriaeth amlder dy ddaioni a draethant; a’th gyfiawnder a ddatganant. Graslon a thrugarog yw yr Arglwydd; hwyrfrydig i ddig, a mawr ei drugaredd.

Nahum 2:3-13

Tarian ei wŷr grymus a liwiwyd yn goch, ei wŷr o ryfel a wisgwyd ag ysgarlad; y cerbydau fyddant gyda lampau tanllyd y dydd y byddo ei arlwy, a’r ffynidwydd a ysgydwir yn aruthrol. Y cerbydau a gynddeiriogant yn yr heolydd, trawant wrth ei gilydd yn y priffyrdd: eu gwelediad fydd fel fflamau, ac fel mellt y saethant. Efe a gyfrif ei weision gwychion; tramgwyddant wrth gerdded; prysurant at ei chaer hi, a’r amddiffyn a baratoir. Pyrth y dwfr a agorir, a’r palas a ymddetyd. A Hussab a gaethgludir, dygir hi i fyny, a’i morynion yn ei harwain megis â llais colomennod, yn curo ar eu dwyfronnau. A Ninefe sydd er ys dyddiau fel llyn o ddwfr: ond hwy a ffoant. Sefwch, sefwch, meddant; ac ni bydd a edrycho yn ôl. Ysglyfaethwch arian, ysglyfaethwch aur; canys nid oes diben ar yr ystôr, a’r gogoniant o bob dodrefn dymunol. 10 Gwag, a gorwag, ac anrheithiedig yw hi, a’r galon yn toddi, a’r gliniau yn taro ynghyd, ac anhwyl ar bob lwynau, a’u hwynebau oll a gasglant barddu. 11 Pa le y mae trigfa y llewod, a phorfa cenawon y llewod? lle y rhodiai y llew, sef yr hen lew, a’r cenau llew, ac nid oedd a’u tarfai? 12 Y llew a ysglyfaethodd ddigon i’w genawon, ac a dagodd i’w lewesau, ac a lanwodd ag ysglyfaeth ei ffau, a’i loches ag ysbail. 13 Wele fi yn dy erbyn, medd Arglwydd y lluoedd; a mi a losgaf ei cherbydau yn y mwg, a’r cleddyf a ddifa dy lewod ieuainc; a thorraf ymaith o’r ddaear dy ysglyfaeth, ac ni chlywir mwy lais dy genhadau.

2 Corinthiaid 13:5-10

Profwch chwychwi eich hunain, a ydych yn y ffydd; holwch eich hunain. Onid ydych yn eich adnabod eich hunain, sef bod Iesu Grist ynoch, oddieithr i chwi fod yn anghymeradwy? Ond yr wyf yn gobeithio y gwybyddwch nad ydym ni yn anghymeradwy. Ac yr wyf yn gweddïo ar Dduw na wneloch chwi ddim drwg; nid fel yr ymddangosom ni yn gymeradwy, ond fel y gwneloch chwi yr hyn sydd dda, er bod ohonom ni megis rhai anghymeradwy. Canys ni allwn ni ddim yn erbyn y gwirionedd, ond dros y gwirionedd. Canys llawen ydym pan fyddom ni yn weiniaid, a chwithau yn gryfion: a hyn hefyd yr ydym yn ei ddymuno, sef eich perffeithrwydd chwi. 10 Am hynny myfi yn absennol ydwyf yn ysgrifennu’r pethau hyn, fel pan fyddwyf bresennol nad arferwyf doster, yn ôl yr awdurdod a roddes yr Arglwydd i mi er adeilad, ac nid er dinistr.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.