Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 145:1-8

Salm Dafydd o foliant.

145 Dyrchafaf di, fy Nuw, O Frenin; a bendithiaf dy enw byth ac yn dragywydd. Beunydd y’th fendithiaf; a’th enw a folaf byth ac yn dragywydd. Mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn; a’i fawredd sydd anchwiliadwy. Cenhedlaeth wrth genhedlaeth a fawl dy weithredoedd, ac a fynega dy gadernid. Ardderchowgrwydd gogoniant dy fawredd, a’th bethau rhyfedd, a draethaf. Traethant hwy gadernid dy weithredoedd ofnadwy: mynegaf finnau dy fawredd. Coffadwriaeth amlder dy ddaioni a draethant; a’th gyfiawnder a ddatganant. Graslon a thrugarog yw yr Arglwydd; hwyrfrydig i ddig, a mawr ei drugaredd.

Nahum 1:1

Baich Ninefe. Llyfr gweledigaeth Nahum yr Elcosiad.

Nahum 1:14-2:2

14 Yr Arglwydd hefyd a orchmynnodd o’th blegid, na heuer o’th enw mwyach: torraf o dŷ dy dduwiau y gerfiedig a’r dawdd ddelw: gwnaf dy fedd; canys gwael ydwyt. 15 Wele ar y mynyddoedd draed yr efengylwr, cyhoeddwr heddwch: cadw di, O Jwda, dy wyliau, tâl dy addunedau: canys nid â y drygionus trwot mwy; cwbl dorrwyd ef ymaith.

Daeth y chwalwr i fyny o flaen dy wyneb: cadw yr amddiffynfa, gwylia y ffordd, nertha dy lwynau, cadarnha dy nerth yn fawr. Canys dychwelodd yr Arglwydd ardderchowgrwydd Jacob, fel ardderchowgrwydd Israel: canys y dihysbyddwyr a’u dihysbyddodd hwynt, ac a lygrasant eu cangau gwinwydd.

2 Corinthiaid 13:1-4

13 Y drydedd waith hon yr ydwyf yn dyfod atoch. Yng ngenau dau neu dri o dystion y bydd safadwy pob gair. Rhagddywedais i chwi, ac yr ydwyf yn rhagddywedyd fel pe bawn yn bresennol yr ail waith, ac yn absennol yr awron yr ydwyf yn ysgrifennu at y rhai a bechasant eisoes, ac at y lleill i gyd, os deuaf drachefn, nad arbedaf: Gan eich bod yn ceisio profiad o Grist, yr hwn sydd yn llefaru ynof, yr hwn tuag atoch chwi nid yw wan, eithr sydd nerthol ynoch chwi. Canys er ei groeshoelio ef o ran gwendid, eto byw ydyw trwy nerth Duw: canys ninnau hefyd ydym weiniaid ynddo ef, eithr byw fyddwn gydag ef trwy nerth Duw tuag atoch chwi.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.