Revised Common Lectionary (Complementary)
Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.
133 Wele mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodyr ynghyd! 2 Y mae fel yr ennaint gwerthfawr ar y pen, yn disgyn ar hyd y farf, sef barf Aaron; yr hwn oedd yn disgyn ar hyd ymyl ei wisgoedd ef: 3 Fel gwlith Hermon, ac fel y gwlith yn disgyn ar fynyddoedd Seion: canys yno y gorchmynnodd yr Arglwydd y fendith, sef bywyd yn dragywydd.
22 A Joseff a drigodd yn yr Aifft, efe, a theulu ei dad: a bu Joseff fyw gan mlynedd a deg. 23 Gwelodd Joseff hefyd, o Effraim, orwyrion: maethwyd hefyd blant Machir, fab Manasse, ar liniau Joseff. 24 A dywedodd Joseff wrth ei frodyr, Myfi sydd yn marw: a Duw gan ymweled a ymwêl â chwi, ac a’ch dwg chwi i fyny o’r wlad hon, i’r wlad a dyngodd efe i Abraham, i Isaac, ac i Jacob. 25 A thyngodd Joseff feibion Israel, gan ddywedyd, Duw gan eich gofwyo a’ch gofwya chwi; dygwch chwithau fy esgyrn i fyny oddi yma. 26 A Joseff a fu farw yn fab deng mlwydd a chant: a hwy a’i peraroglasant ef; ac efe a osodwyd mewn arch yn yr Aifft.
20 A’r bore, wrth fyned heibio, hwy a welsant y ffigysbren wedi crino o’r gwraidd. 21 A Phedr wedi atgofio, a ddywedodd wrtho, Athro, wele y ffigysbren a felltithiaist, wedi crino. 22 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Bydded gennych ffydd yn Nuw: 23 Canys yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, Pwy bynnag a ddywedo wrth y mynydd hwn, Tynner di ymaith, a bwrier di i’r môr; ac nid amheuo yn ei galon, ond credu y daw i ben y pethau a ddywedo efe; beth bynnag a ddywedo, a fydd iddo. 24 Am hynny meddaf i chwi, Beth bynnag oll a geisioch wrth weddïo credwch y derbyniwch, ac fe fydd i chwi. 25 A phan safoch i weddïo, maddeuwch, o bydd gennych ddim yn erbyn neb; fel y maddeuo eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd i chwithau eich camweddau:
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.