Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 119:65-72

65 Gwnaethost yn dda â’th was, O Arglwydd, yn ôl dy air. 66 Dysg i mi iawn ddeall a gwybodaeth: oherwydd dy orchmynion di a gredais. 67 Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni: ond yn awr cedwais dy air di. 68 Da ydwyt, a daionus: dysg i mi dy ddeddfau. 69 Y beilchion a glytiasant gelwydd i’m herbyn; minnau a gadwaf dy orchmynion â’m holl galon. 70 Cyn frased â’r bloneg yw eu calon: minnau a ymddigrifais yn dy gyfraith di. 71 Da yw i mi fy nghystuddio; fel y dysgwn dy ddeddfau. 72 Gwell i mi gyfraith dy enau, na miloedd o aur ac arian.

IOD

Lefiticus 16:1-5

16 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, wedi marwolaeth dau fab Aaron, pan offrymasant gerbron yr Arglwydd, ac y buant feirw; A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Llefara wrth Aaron dy frawd, na ddelo bob amser i’r cysegr o fewn y wahanlen, gerbron y drugareddfa sydd ar yr arch; fel na byddo efe farw: oherwydd mi a ymddangosaf ar y drugareddfa yn y cwmwl. A hyn y daw Aaron i’r cysegr: â bustach ieuanc yn bech‐aberth, ac â hwrdd yn boethoffrwm. Gwisged bais liain sanctaidd, a bydded llodrau lliain am ei gnawd, a gwregyser ef â gwregys lliain, a gwisged feitr lliain: gwisgoedd sanctaidd yw y rhai hyn; golched yntau ei gnawd mewn dwfr, pan wisgo hwynt. A chymered gan gynulleidfa meibion Israel ddau lwdn gafr yn bech‐aberth, ac un hwrdd yn boethoffrwm.

Lefiticus 16:20-28

20 A phan ddarffo iddo lanhau y cysegr, a phabell y cyfarfod, a’r allor, dyged y bwch byw: 21 A gosoded Aaron ei ddwylo ar ben y bwch byw, a chyffesed arno holl anwiredd meibion Israel, a’u holl gamweddau hwynt yn eu holl bechodau; a rhodded hwynt ar ben y bwch, ac anfoned ef ymaith yn llaw gŵr cymwys i’r anialwch. 22 A’r bwch a ddwg eu holl anwiredd hwynt arno, i dir neilltuaeth: am hynny hebrynged efe y bwch i’r anialwch. 23 Yna deued Aaron i babell y cyfarfod, a diosged y gwisgoedd lliain a wisgodd efe wrth ddyfod i’r cysegr, a gadawed hwynt yno. 24 A golched ei gnawd mewn dwfr yn y lle sanctaidd, a gwisged ei ddillad, ac aed allan, ac offrymed ei boethoffrwm ei hun, a phoethoffrwm y bobl, a gwnaed gymod drosto ei hun, a thros y bobl. 25 A llosged wêr y pech‐aberth ar yr allor. 26 A golched yr hwn a anfonodd y bwch i fod yn fwch dihangol, ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr; ac yna deued i’r gwersyll. 27 A bustach y pech‐aberth, a bwch y pech‐aberth, y rhai y dygwyd eu gwaed i wneuthur cymod yn y cysegr, a ddwg un i’r tu allan i’r gwersyll; a hwy a losgant eu crwyn hwynt, a’u cnawd, a’u biswail, yn tân. 28 A golched yr hwn a’u llosgo hwynt ei ddillad, golched hefyd ei gnawd mewn dwfr; wedi hynny deued i’r gwersyll.

Mathew 21:18-22

18 A’r bore, fel yr oedd efe yn dychwelyd i’r ddinas, yr oedd arno chwant bwyd. 19 A phan welodd efe ffigysbren ar y ffordd, efe a ddaeth ato, ac ni chafodd ddim arno, ond dail yn unig: ac efe a ddywedodd wrtho, Na thyfed ffrwyth arnat byth mwyach. Ac yn ebrwydd y crinodd y ffigysbren. 20 A phan welodd y disgyblion, hwy a ryfeddasant, gan ddywedyd, Mor ddisymwth y crinodd y ffigysbren! 21 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Os bydd gennych ffydd, ac heb amau, ni wnewch yn unig hyn a wneuthum i i’r ffigysbren, eithr hefyd os dywedwch wrth y mynydd hwn, Coder di i fyny, a bwrier di i’r môr; hynny a fydd. 22 A pha beth bynnag a ofynnoch mewn gweddi, gan gredu, chwi a’i derbyniwch.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.