Revised Common Lectionary (Complementary)
65 Gwnaethost yn dda â’th was, O Arglwydd, yn ôl dy air. 66 Dysg i mi iawn ddeall a gwybodaeth: oherwydd dy orchmynion di a gredais. 67 Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni: ond yn awr cedwais dy air di. 68 Da ydwyt, a daionus: dysg i mi dy ddeddfau. 69 Y beilchion a glytiasant gelwydd i’m herbyn; minnau a gadwaf dy orchmynion â’m holl galon. 70 Cyn frased â’r bloneg yw eu calon: minnau a ymddigrifais yn dy gyfraith di. 71 Da yw i mi fy nghystuddio; fel y dysgwn dy ddeddfau. 72 Gwell i mi gyfraith dy enau, na miloedd o aur ac arian.IOD
2 Pan gaffer yn dy blith di, o fewn un o’th byrth y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti, ŵr neu wraig a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw, gan droseddu ei gyfamod ef, 3 Ac a aeth ac a wasanaethodd dduwiau dieithr, ac a ymgrymodd iddynt, i’r haul, neu i’r lleuad, neu i holl lu y nefoedd, yr hyn ni orchmynnais; 4 Pan ddangoser i ti, a chlywed ohonot, yna cais yn dda: ac wele, os gwirionedd yw, a bod yn sicr wneuthur y ffieidd‐dra hyn yn Israel; 5 Yna dwg allan y gŵr hwnnw, neu y wraig honno, a wnaethant y peth drygionus hyn, i’th byrth, sef y gŵr neu y wraig, a llabyddia hwynt â meini, fel y byddont feirw. 6 Wrth dystiolaeth dau o dystion, neu dri o dystion, y rhoddir i farwolaeth yr hwn a fyddo marw: na rodder ef i farwolaeth wrth dystiolaeth un tyst. 7 Llaw y tystion a fydd arno yn gyntaf i’w farwolaethu ef, a llaw yr holl bobl wedi hynny: a thi a dynni ymaith y drwg o’th blith.
8 Os bydd peth mewn barn yn rhy galed i ti, rhwng gwaed a gwaed, rhwng hawl a hawl, neu rhwng pla a phla, mewn pethau ymrafaelus o fewn dy byrth; yna cyfod, a dos i fyny i’r lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw: 9 A dos at yr offeiriaid y Lefiaid, ac at y barnwr a fyddo yn y dyddiau hynny, ac ymofyn; a hwy a ddangosant i ti reol y farnedigaeth. 10 A gwna yn ôl rheol y gair a ddangosant i ti, o’r lle hwnnw a ddewiso yr Arglwydd; ac edrych am wneuthur yn ôl yr hyn oll a ddysgant i ti. 11 Yn ôl rheol y gyfraith a ddysgont i ti, ac yn ôl y farn a ddywedont i ti, y gwnei: na chilia oddi wrth y peth a ddangosont i ti, i’r tu deau nac i’r tu aswy. 12 A’r gŵr a wnêl mewn rhyfyg, heb wrando ar yr offeiriad sydd yn sefyll yno i wasanaethu yr Arglwydd dy Dduw, neu ar y barnwr; yna rhodder i farwolaeth y gŵr hwnnw: a thyn ymaith y drwg o Israel. 13 A’r holl bobl a glywant, ac a ofnant; ac ni ryfygant mwy.
13 Ymddarostynged pob enaid i’r awdurdodau goruchel: canys nid oes awdurdod ond oddi wrth Dduw; a’r awdurdodau y sydd, gan Dduw y maent wedi eu hordeinio. 2 Am hynny pwy bynnag sydd yn ymosod yn erbyn yr awdurdod, sydd yn gwrthwynebu ordinhad Duw: a’r rhai a wrthwynebant, a dderbyniant farnedigaeth iddynt eu hunain. 3 Canys tywysogion nid ydynt ofn i weithredoedd da, eithr i’r rhai drwg. A fynni di nad ofnech yr awdurdod? gwna’r hyn sydd dda, a thi a gei glod ganddo: 4 Canys gweinidog Duw ydyw efe i ti er daioni. Eithr os gwnei ddrwg, ofna; canys nid yw efe yn dwyn y cleddyf yn ofer: oblegid gweinidog Duw yw efe, dialydd llid i’r hwn sydd yn gwneuthur drwg. 5 Herwydd paham anghenraid yw ymddarostwng, nid yn unig oherwydd llid, eithr oherwydd cydwybod hefyd. 6 Canys am hyn yr ydych yn talu teyrnged hefyd: oblegid gwasanaethwyr Duw ydynt hwy, yn gwylied ar hyn yna. 7 Telwch gan hynny i bawb eu dyledion: teyrnged, i’r hwn y mae teyrnged yn ddyledus; toll, i’r hwn y mae toll; ofn, i’r hwn y mae ofn; parch, i’r hwn y mae parch yn ddyledus.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.