Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 119:65-72

65 Gwnaethost yn dda â’th was, O Arglwydd, yn ôl dy air. 66 Dysg i mi iawn ddeall a gwybodaeth: oherwydd dy orchmynion di a gredais. 67 Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni: ond yn awr cedwais dy air di. 68 Da ydwyt, a daionus: dysg i mi dy ddeddfau. 69 Y beilchion a glytiasant gelwydd i’m herbyn; minnau a gadwaf dy orchmynion â’m holl galon. 70 Cyn frased â’r bloneg yw eu calon: minnau a ymddigrifais yn dy gyfraith di. 71 Da yw i mi fy nghystuddio; fel y dysgwn dy ddeddfau. 72 Gwell i mi gyfraith dy enau, na miloedd o aur ac arian.

IOD

Lefiticus 4:27-31

27 Ac os pecha neb o bobl y wlad mewn anwybod, gan wneuthur yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd, ddim o’r pethau ni ddylid eu gwneuthur, a bod yn euog; 28 Neu os ei bechod yr hwn a bechodd a ddaw i’w wybodaeth ef: yna dyged ei offrwm o lwdn gafr fenyw berffaith‐gwbl dros ei bechod a bechodd efe. 29 A gosoded ei law ar ben yr aberth dros bechod, a lladded yr aberth dros bechod yn y lle y lleddir y poethoffrwm. 30 A chymered yr offeiriad o’i gwaed hi â’i fys, a rhodded ar gyrn allor y poethoffrwm, a thywallted ei holl waed hi wrth waelod yr allor. 31 A thynned ei holl wêr hi, fel y tynnir y gwêr oddi ar yr aberth hedd; a llosged yr offeiriad ef ar yr allor, yn arogl peraidd i’r Arglwydd: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto; a maddeuir iddo.

Lefiticus 5:14-16

14 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 15 Os gwna dyn gamwedd, a phechu trwy amryfusedd, yn y pethau a gysegrwyd i’r Arglwydd; yna dyged i’r Arglwydd dros ei gamwedd, hwrdd perffaith‐gwbl o’r praidd, gyda’th bris di o siclau arian, yn ôl sicl y cysegr, yn aberth dros gamwedd. 16 A thaled am y niwed a wnaeth yn y peth cysegredig, a rhodded ei bumed ran yn ychwaneg ato, a rhodded ef at yr offeiriad: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto â hwrdd yr offrwm dros gamwedd; a maddeuir iddo.

1 Pedr 2:11-17

11 Anwylyd, yr wyf yn atolwg i chwi, megis dieithriaid a phererinion, ymgedwch oddi wrth chwantau cnawdol, y rhai sydd yn rhyfela yn erbyn yr enaid; 12 Gan fod â’ch ymarweddiad yn onest ymysg y Cenhedloedd: fel, lle maent yn eich goganu megis drwgweithredwyr, y gallont, oherwydd eich gweithredoedd da a welant, ogoneddu Duw yn nydd yr ymweliad. 13 Ymddarostyngwch oblegid hyn i bob dynol ordinhad, oherwydd yr Arglwydd: pa un bynnag ai i’r brenin, megis goruchaf; 14 Ai i’r llywiawdwyr, megis trwyddo ef wedi eu danfon er dial ar y drwgweithredwyr, a mawl i’r gweithredwyr da. 15 Canys felly y mae ewyllys Duw, fod i chwi trwy wneuthur daioni ostegu anwybodaeth dynion ffolion: 16 Megis yn rhyddion, ac nid â rhyddid gennych megis cochl malais, eithr fel gwasanaethwyr Duw. 17 Perchwch bawb. Cerwch y brawdoliaeth. Ofnwch Dduw. Anrhydeddwch y brenin.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.