Revised Common Lectionary (Complementary)
Gweddi Dafydd.
17 Clyw, Arglwydd, gyfiawnder, ystyria fy lefain, gwrando fy ngweddi o wefusau didwyll. 2 Deued fy marn oddi ger dy fron: edryched dy lygaid ar uniondeb. 3 Profaist fy nghalon; gofwyaist fi y nos; chwiliaist fi, ac ni chei ddim: bwriedais na throseddai fy ngenau. 4 Tuag at am weithredoedd dynion, wrth eiriau dy wefusau yr ymgedwais rhag llwybrau yr ysbeilydd. 5 Cynnal fy ngherddediad yn dy lwybrau, fel na lithro fy nhraed. 6 Mi a elwais arnat; canys gwrandewi arnaf fi, O Dduw: gostwng dy glust ataf, ac erglyw fy ymadrodd. 7 Dangos dy ryfedd drugareddau,O Achubydd y rhai a ymddiriedant ynot, rhag y sawl a ymgyfodant yn erbyn dy ddeheulaw. 8 Cadw fi fel cannwyll llygad: cudd fi dan gysgod dy adenydd, 9 Rhag yr annuwiolion, y rhai a’m gorthrymant, rhag fy ngelynion marwol, y rhai a’m hamgylchant. 10 Caesant gan eu braster: â’u genau y llefarant mewn balchder. 11 Ein cyniweirfa ni a glychynasant hwy yr awron: gosodasant eu llygaid i dynnu i lawr i’r ddaear. 12 Eu dull sydd fel llew a chwenychai ysglyfaethu, ac megis llew ieuanc yn aros mewn leoedd dirgel. 13 cyfod, Arglwydd, achub ei flaen ef, cwympa ef: gwared fy enaid rhag yr annuwio, yr hwn yw dy gleddyf di; 14 Rhag dynion, y rhai yw dy law, O Arglwydd, rhag dynion y byd, y rhai y mae eu rhan yn y bywyd yma, a’r rhai y llenwaist eu boliau â’th guddiedig drysor: llawn ydynt o feibion, a gadawant eu gweddill i’w rhai bychain. 15 Myfi a edrychaf ar dy wyneb mewn cyfiawnder: digonir fi, pan ddihunwyf, â’th ddelw di.
5 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Melltigedig fyddo y gŵr a hydero mewn dyn, ac a wnelo gnawd yn fraich iddo, a’r hwn y cilio ei galon oddi wrth yr Arglwydd. 6 Canys efe a fydd fel y grug yn y diffeithwch, ac ni wêl pan ddêl daioni; eithr efe a gyfanhedda boethfannau yn yr anialwch, mewn tir hallt ac anghyfanheddol. 7 Bendigedig yw y gŵr a ymddiriedo yn yr Arglwydd, ac y byddo yr Arglwydd yn hyder iddo. 8 Canys efe a fydd megis pren wedi ei blannu wrth y dyfroedd, ac a estyn ei wraidd wrth yr afon, ac ni ŵyr oddi wrth ddyfod gwres; ei ddeilen fydd ir, ac ar flwyddyn sychder ni ofala, ac ni phaid â ffrwytho.
9 Y galon sydd fwy ei thwyll na dim, a drwg ddiobaith ydyw; pwy a’i hedwyn? 10 Myfi yr Arglwydd sydd yn chwilio’r galon, yn profi ’r arennau, i roddi i bob un yn ôl ei ffyrdd, ac yn ôl ffrwyth ei weithredoedd. 11 Fel petris yn eistedd, ac heb ddeor, yw yr hwn a helio gyfoeth yn annheilwng: yn hanner ei ddyddiau y gedy hwynt, ac yn ei ddiwedd ynfyd fydd.
12 Gorsedd ogoneddus ddyrchafedig o’r dechreuad, yw lle ein cysegr ni. 13 O Arglwydd, gobaith Israel, y rhai oll a’th wrthodant a waradwyddir, ysgrifennir yn y ddaear y rhai a giliant oddi wrthyf, am iddynt adael yr Arglwydd, ffynnon y dyfroedd byw. 14 Iachâ fi, O Arglwydd, a mi a iacheir; achub fi, a mi a achubir: canys tydi yw fy moliant.
15 Wele hwynt yn dywedyd wrthyf, Pa le y mae gair yr Arglwydd? deued bellach. 16 Ond myfi ni phrysurais rhag bod yn fugail ar dy ôl di: ac ni ddymunais y dydd blin, ti a’i gwyddost: yr oedd yr hyn a ddaeth o’m gwefusau yn uniawn ger dy fron di. 17 Na fydd yn ddychryn i mi; ti yw fy ngobaith yn nydd y drygfyd. 18 Gwaradwydder fy erlidwyr, ac na’m gwaradwydder i; brawycher hwynt, ac na’m brawycher i: dwg arnynt ddydd drwg, a dryllia hwynt â drylliad dauddyblyg.
22 Yna y ducpwyd ato un cythreulig, dall, a mud: ac efe a’i hiachaodd ef, fel y llefarodd ac y gwelodd y dall a mud. 23 A’r holl dorfeydd a synasant, ac a ddywedasant, Ai hwn yw mab Dafydd? 24 Eithr pan glybu’r Phariseaid, hwy a ddywedasant, Nid yw hwn yn bwrw allan gythreuliaid, ond trwy Beelsebub pennaeth y cythreuliaid. 25 A’r Iesu yn gwybod eu meddyliau, a ddywedodd wrthynt, Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanheddir; a phob dinas neu dŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni saif. 26 Ac os Satan a fwrw allan Satan, efe a ymrannodd yn ei erbyn ei hun: pa wedd gan hynny y saif ei deyrnas ef? 27 Ac os trwy Beelsebub yr ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farnwyr arnoch chwi. 28 Eithr os ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid trwy Ysbryd Duw, yna y daeth teyrnas Dduw atoch. 29 Neu, pa fodd y dichon neb fyned i mewn i dŷ un cadarn, a llwyr ysbeilio ei ddodrefn ef, oddieithr iddo yn gyntaf rwymo’r cadarn? ac yna yr ysbeilia efe ei dŷ ef. 30 Y neb nid yw gyda mi, sydd yn fy erbyn; a’r neb nid yw yn casglu gyda mi, sydd yn gwasgaru.
31 Am hynny y dywedaf wrthych chwi, Pob pechod a chabledd a faddeuir i ddynion: ond cabledd yn erbyn yr Ysbryd Glân ni faddeuir i ddynion. 32 A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe a faddeuir iddo: ond pwy bynnag a ddywedo yn erbyn yr Ysbryd Glân, nis maddeuir iddo, nac yn y byd hwn, nac yn y byd a ddaw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.