Revised Common Lectionary (Complementary)
Gweddi Dafydd.
17 Clyw, Arglwydd, gyfiawnder, ystyria fy lefain, gwrando fy ngweddi o wefusau didwyll. 2 Deued fy marn oddi ger dy fron: edryched dy lygaid ar uniondeb. 3 Profaist fy nghalon; gofwyaist fi y nos; chwiliaist fi, ac ni chei ddim: bwriedais na throseddai fy ngenau. 4 Tuag at am weithredoedd dynion, wrth eiriau dy wefusau yr ymgedwais rhag llwybrau yr ysbeilydd. 5 Cynnal fy ngherddediad yn dy lwybrau, fel na lithro fy nhraed. 6 Mi a elwais arnat; canys gwrandewi arnaf fi, O Dduw: gostwng dy glust ataf, ac erglyw fy ymadrodd. 7 Dangos dy ryfedd drugareddau,O Achubydd y rhai a ymddiriedant ynot, rhag y sawl a ymgyfodant yn erbyn dy ddeheulaw. 8 Cadw fi fel cannwyll llygad: cudd fi dan gysgod dy adenydd, 9 Rhag yr annuwiolion, y rhai a’m gorthrymant, rhag fy ngelynion marwol, y rhai a’m hamgylchant. 10 Caesant gan eu braster: â’u genau y llefarant mewn balchder. 11 Ein cyniweirfa ni a glychynasant hwy yr awron: gosodasant eu llygaid i dynnu i lawr i’r ddaear. 12 Eu dull sydd fel llew a chwenychai ysglyfaethu, ac megis llew ieuanc yn aros mewn leoedd dirgel. 13 cyfod, Arglwydd, achub ei flaen ef, cwympa ef: gwared fy enaid rhag yr annuwio, yr hwn yw dy gleddyf di; 14 Rhag dynion, y rhai yw dy law, O Arglwydd, rhag dynion y byd, y rhai y mae eu rhan yn y bywyd yma, a’r rhai y llenwaist eu boliau â’th guddiedig drysor: llawn ydynt o feibion, a gadawant eu gweddill i’w rhai bychain. 15 Myfi a edrychaf ar dy wyneb mewn cyfiawnder: digonir fi, pan ddihunwyf, â’th ddelw di.
2 A bu ar brynhawngwaith gyfodi o Dafydd oddi ar ei wely, a rhodio ar nen tŷ y brenin: ac oddi ar y nen efe a ganfu wraig yn ymolchi; a’r wraig oedd deg iawn yr olwg. 3 A Dafydd a anfonodd ac a ymofynnodd am y wraig: ac un a ddywedodd, Onid hon yw Bathseba merch Elïam, gwraig Ureias yr Hethiad? 4 A Dafydd a anfonodd genhadau, ac a’i cymerth hi; a hi a ddaeth i mewn ato ef, ac efe a orweddodd gyda hi: ac yr oedd hi wedi ei glanhau oddi wrth ei haflendid: a hi a ddychwelodd i’w thŷ ei hun. 5 A’r wraig a feichiogodd, ac a anfonodd ac a fynegodd i Dafydd, ac a ddywedodd, Yr ydwyf fi yn feichiog.
6 A Dafydd a anfonodd at Joab, gan ddywedyd, Danfon ataf fi Ureias yr Hethiad. A Joab a anfonodd Ureias at Dafydd. 7 A phan ddaeth Ureias ato ef, Dafydd a ymofynnodd am lwyddiant Joab, ac am lwyddiant y bobl, ac am ffyniant y rhyfel. 8 Dywedodd Dafydd hefyd wrth Ureias, Dos i waered i’th dŷ, a golch dy draed. Ac Ureias a aeth allan o dŷ y brenin, a saig y brenin a aeth ar ei ôl ef. 9 Ond Ureias a gysgodd wrth ddrws tŷ y brenin gyda holl weision ei arglwydd, ac nid aeth i waered i’w dŷ ei hun. 10 Yna y mynegasant i Dafydd, gan ddywedyd, Nid aeth Ureias i waered i’w dŷ ei hun. A Dafydd a ddywedodd wrth Ureias, Onid o’th daith yr ydwyt ti yn dyfod? paham nad eit ti i waered i’th dŷ dy hun? 11 A dywedodd Ureias wrth Dafydd, Yr arch, ac Israel hefyd, a Jwda, sydd yn aros mewn pebyll; a Joab fy arglwydd, a gweision fy arglwydd, sydd yn gwersyllu ar hyd wyneb y maes: a af fi gan hynny i’m tŷ fy hun, i fwyta, ac i yfed, ac i orwedd gyda’m gwraig? fel mai byw di, ac fel mai byw dy enaid di, ni wnaf y peth hyn. 12 A Dafydd a ddywedodd wrth Ureias, Aros yma eto heddiw, ac yfory y’th ollyngaf di. Ac Ureias a arhosodd yn Jerwsalem y dwthwn hwnnw a thrannoeth. 13 A Dafydd a’i galwodd ef, i fwyta ac i yfed ger ei fron ef, ac a’i meddwodd ef: ac yn yr hwyr efe a aeth i orwedd ar ei wely gyda gweision ei arglwydd, ac nid aeth i waered i’w dŷ ei hun.
14 A’r bore yr ysgrifennodd Dafydd lythyr at Joab, ac a’i hanfonodd yn llaw Ureias. 15 Ac efe a ysgrifennodd yn ei lythyr, gan ddywedyd, Gosodwch Ureias ar gyfer wyneb y rhyfelwyr glewaf; a dychwelwch oddi ar ei ôl ef, fel y trawer ef, ac y byddo marw. 16 A phan oedd Joab yn gwarchae ar y ddinas, efe a osododd Ureias yn y lle y gwyddai efe fod gwŷr nerthol ynddo. 17 A gwŷr y ddinas a aethant allan, ac a ymladdasant â Joab: a syrthiodd rhai o’r bobl o weision Dafydd; ac Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd.
18 Yna Joab a anfonodd, ac a fynegodd i Dafydd holl hanes y rhyfel: 19 Ac a orchmynnodd i’r gennad, gan ddywedyd, Pan orffennych lefaru holl hanes y rhyfel wrth y brenin: 20 Os cyfyd llidiowgrwydd y brenin, ac os dywed wrthyt, Paham y nesasoch at y ddinas i ymladd? oni wyddech y taflent hwy oddi ar y gaer? 21 Pwy a drawodd Abimelech fab Jerwbbeseth? onid gwraig a daflodd arno ef ddarn o faen melin oddi ar y mur, fel y bu efe farw yn Thebes? paham y nesasoch at y mur? yna y dywedi, Dy was Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd.
22 Felly y gennad a aeth, ac a ddaeth ac a fynegodd i Dafydd yr hyn oll yr anfonasai Joab ef o’i blegid. 23 A’r gennad a ddywedodd wrth Dafydd, Yn ddiau y gwŷr oeddynt drech na ni, ac a ddaethant atom ni i’r maes, a ninnau a aethom arnynt hwy hyd ddrws y porth. 24 A’r saethyddion a saethasant at dy weision oddi ar y mur; a rhai o weision y brenin a fuant feirw; a’th was Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd. 25 Yna Dafydd a ddywedodd wrth y gennad, Fel hyn y dywedi di wrth Joab; Na fydded hyn ddrwg yn dy olwg di: canys y naill fel y llall a ddifetha y cleddyf: cadarnha dy ryfel yn erbyn y ddinas, a distrywiwch hi; a chysura dithau ef.
26 A phan glybu gwraig Ureias farw Ureias ei gŵr, hi a alarodd am ei phriod.
3 Ac at angel yr eglwys sydd yn Sardis, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae’r hwn sydd â saith Ysbryd Duw a’r saith seren ganddo, yn eu dywedyd; Mi a adwaen dy weithredoedd di, oblegid y mae gennyt enw dy fod yn fyw, a marw ydwyt. 2 Bydd wyliadwrus, a sicrha’r pethau sydd yn ôl, y rhai sydd barod i farw: canys ni chefais dy weithredoedd yn gyflawn gerbron Duw. 3 Cofia gan hynny pa fodd y derbyniaist ac y clywaist, a chadw, ac edifarha. Os tydi gan hynny ni wyli, mi a ddeuaf arnat ti fel lleidr, ac ni chei di wybod pa awr y deuaf atat. 4 Eithr y mae gennyt ychydig enwau, ie, yn Sardis, y rhai ni halogasant eu dillad; a hwy a rodiant gyda mi mewn dillad gwynion: oblegid teilwng ydynt. 5 Yr hwn sydd yn gorchfygu, hwnnw a wisgir mewn dillad gwynion; ac ni ddileaf ei enw ef allan o lyfr y bywyd, ond mi a gyffesaf ei enw ef gerbron fy Nhad, a cherbron ei angylion ef. 6 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.