Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
26 Barn fi, Arglwydd; canys rhodiais yn fy mherffeithrwydd: ymddiriedais hefyd yn yr Arglwydd: am hynny ni lithraf. 2 Hola fi, Arglwydd, a phrawf fi: chwilia fy arennau a’m calon. 3 Canys dy drugaredd sydd o flaen fy llygaid: ac mi a rodiais yn dy wirionedd. 4 Nid eisteddais gyda dynion coegion; a chyda’r rhai trofaus nid af. 5 Caseais gynulleidfa y drygionus; a chyda’r annuwiolion nid eisteddaf. 6 Golchaf fy nwylo mewn diniweidrwydd: a’th allor, O Arglwydd, a amgylchynaf: 7 I gyhoeddi â llef clodforedd, ac i fynegi dy holl ryfeddodau. 8 Arglwydd, hoffais drigfan dy dŷ, a lle preswylfa dy ogoniant.
15 A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Pe safai Moses a Samuel ger fy mron, eto ni byddai fy serch ar y bobl yma; bwrw hwy allan o’m golwg, ac elont ymaith. 2 Ac os dywedant wrthyt, I ba le yr awn? tithau a ddywedi wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Y sawl sydd i angau, i angau; a’r sawl i’r cleddyf, i’r cleddyf; a’r sawl i’r newyn, i’r newyn; a’r sawl i gaethiwed, i gaethiwed. 3 A mi a osodaf arnynt bedwar rhywogaeth, medd yr Arglwydd: y cleddyf, i ladd; a’r cŵn, i larpio; ac adar y nefoedd, ac anifeiliaid y ddaear, i ysu ac i ddifa. 4 Ac a’u rhoddaf hwynt i’w symudo i holl deyrnasoedd y ddaear; herwydd Manasse mab Heseceia brenin Jwda, am yr hyn a wnaeth efe yn Jerwsalem. 5 Canys pwy a drugarha wrthyt ti, O Jerwsalem? a phwy a gwyna i ti? a phwy a dry i ymofyn pa fodd yr wyt ti? 6 Ti a’m gadewaist, medd yr Arglwydd, ac a aethost yn ôl: am hynny yr estynnaf fy llaw yn dy erbyn di, ac a’th ddifethaf; myfi a flinais yn edifarhau. 7 A mi a’u chwalaf hwynt â gwyntyll ym mhyrth y wlad: diblantaf, difethaf fy mhobl, gan na ddychwelant oddi wrth eu ffyrdd. 8 Eu gweddwon a amlhasant i mi tu hwnt i dywod y môr: dygais arnynt yn erbyn mam y gwŷr ieuainc, anrheithiwr ganol dydd; perais iddo syrthio yn ddisymwth arni hi, a dychryn ar y ddinas. 9 Yr hon a blantodd saith, a lesgaodd: ei henaid hi a lesmeiriodd, ei haul a fachludodd tra yr oedd hi yn ddydd; hi a gywilyddiodd, ac a waradwyddwyd; a rhoddaf y gweddillion ohonynt i’r cleddyf yng ngŵydd eu gelynion, medd yr Arglwydd.
7 Canys y mae dirgelwch yr anwiredd yn gweithio eisoes: yn unig yr hwn sydd yr awron yn atal, a etyl nes ei dynnu ymaith. 8 Ac yna y datguddir yr Anwir hwnnw, yr hwn a ddifetha’r Arglwydd ag ysbryd ei enau, ac a ddilea â disgleirdeb ei ddyfodiad: 9 Sef yr hwn y mae ei ddyfodiad yn ôl gweithrediad Satan, gyda phob nerth, ac arwyddion, a rhyfeddodau gau, 10 A phob dichell anghyfiawnder yn y rhai colledig; am na dderbyniasant gariad y gwirionedd, fel y byddent gadwedig. 11 Ac am hynny y denfyn Duw iddynt hwy amryfusedd cadarn, fel y credont gelwydd: 12 Fel y barner yr holl rai nid oeddynt yn credu i’r gwirionedd, ond yn ymfodloni mewn anghyfiawnder.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.