Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
26 Barn fi, Arglwydd; canys rhodiais yn fy mherffeithrwydd: ymddiriedais hefyd yn yr Arglwydd: am hynny ni lithraf. 2 Hola fi, Arglwydd, a phrawf fi: chwilia fy arennau a’m calon. 3 Canys dy drugaredd sydd o flaen fy llygaid: ac mi a rodiais yn dy wirionedd. 4 Nid eisteddais gyda dynion coegion; a chyda’r rhai trofaus nid af. 5 Caseais gynulleidfa y drygionus; a chyda’r annuwiolion nid eisteddaf. 6 Golchaf fy nwylo mewn diniweidrwydd: a’th allor, O Arglwydd, a amgylchynaf: 7 I gyhoeddi â llef clodforedd, ac i fynegi dy holl ryfeddodau. 8 Arglwydd, hoffais drigfan dy dŷ, a lle preswylfa dy ogoniant.
13 Yna y dywedais, O Arglwydd Dduw, wele, mae y proffwydi yn dywedyd wrthynt, Ni welwch chwi gleddyf, ac ni ddaw newyn atoch; eithr mi a roddaf heddwch sicr i chwi yn y lle yma. 14 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Y proffwydi sydd yn proffwydo celwyddau yn fy enw i; nid anfonais hwy, ni orchmynnais iddynt chwaith, ac ni leferais wrthynt: gau weledigaeth, a dewiniaeth, a choegedd, a thwyll eu calon eu hun, y maent hwy yn eu proffwydo i chwi. 15 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am y proffwydi sydd yn proffwydo yn fy enw i, a minnau heb eu hanfon hwynt, eto hwy a ddywedant, Cleddyf a newyn ni bydd yn y tir hwn; Trwy gleddyf a newyn y difethir y proffwydi hynny. 16 A’r bobl y rhai y maent yn proffwydo iddynt, a fyddant wedi eu taflu allan yn heolydd Jerwsalem, oherwydd y newyn a’r cleddyf; ac ni bydd neb i’w claddu, hwynt‐hwy, na’u gwragedd, na’u meibion, na’u merched: canys mi a dywalltaf arnynt eu drygioni.
17 Am hynny y dywedi wrthynt y gair yma, Difered fy llygaid i ddagrau nos a dydd, ac na pheidiant: canys â briw mawr y briwyd y wyry merch fy mhobl, ac â phla tost iawn. 18 Os af fi allan i’r maes, wele rai wedi eu lladd â’r cleddyf; ac o deuaf i mewn i’r ddinas, wele rai llesg o newyn: canys y proffwyd a’r offeiriad hefyd sydd yn amgylchu i dir nid adwaenant.
5 Byddwch gan hynny ddilynwyr Duw, fel plant annwyl; 2 A rhodiwch mewn cariad, megis y carodd Crist ninnau, ac a’i rhoddodd ei hun drosom ni, yn offrwm ac yn aberth i Dduw o arogl peraidd. 3 Eithr godineb, a phob aflendid, neu gybydd‐dra, nac enwer chwaith yn eich plith, megis y gweddai i saint; 4 Na serthedd, nac ymadrodd ffôl, na choeg ddigrifwch, pethau nid ydynt weddus: eithr yn hytrach rhoddi diolch. 5 Canys yr ydych chwi yn gwybod hyn, am bob puteiniwr, neu aflan, neu gybydd, yr hwn sydd ddelw‐addolwr, nad oes iddynt etifeddiaeth yn nheyrnas Crist a Duw. 6 Na thwylled neb chwi â geiriau ofer: canys oblegid y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufudd‐dod.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.