Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd, Salm Dafydd, gwas yr Arglwydd, yr hwn a lefarodd wrth yr Arglwydd eiriau y gân hon, yn y dydd y gwaredodd yr Arglwydd ef o law ei holl elynion, ac o law Saul: ac efe a ddywedodd,
18 Caraf di, Arglwydd fy nghadernid. 2 Yr Arglwydd yw fy nghraig, a’m hamddiffynfa, a’m gwaredydd; fy Nuw, fy nghadernid, yn yr hwn yr ymddiriedaf; fy nharian, a chorn fy iachawdwriaeth, a’m huchel dŵr. 3 Galwaf ar yr Arglwydd canmoladwy: felly y’m cedwir rhag fy ngelynion.
20 Yr Arglwydd a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder; yn ôl glendid fy nwylo y talodd efe i mi. 21 Canys cedwais ffyrdd yr Arglwydd, ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth fy Nuw. 22 Oherwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i, a’i ddeddfau ni fwriais oddi wrthyf. 23 Bûm hefyd yn berffaith gydag ef, ac ymgedwais rhag fy anwiredd. 24 A’r Arglwydd a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder, yn ôl purdeb fy nwylo o flaen ei lygaid ef. 25 A’r trugarog y gwnei drugaredd; â’r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd. 26 A’r glân y gwnei lendid; ac â’r cyndyn yr ymgyndynni. 27 Canys ti a waredi y bobl gystuddiedig: ond ti a ostyngi olygon uchel. 28 Oherwydd ti a oleui fy nghannwyll: yr Arglwydd fy Nuw a lewyrcha fy nhywyllwch. 29 Oblegid ynot ti y rhedais trwy fyddin; ac yn fy Nuw y llemais dros fur. 30 Duw sydd berffaith ei ffordd: gair yr Arglwydd sydd wedi ei buro: tarian yw efe i bawb a ymddiriedant ynddo. 31 Canys pwy sydd Dduw heblaw yr Arglwydd? a phwy sydd graig ond ein Duw ni? 32 Duw sydd yn fy ngwregysu â nerth, ac yn gwneuthur fy ffordd yn berffaith.
18 Y Graig a’th genhedlodd a anghofiaist ti, a’r Duw a’th luniodd a ollyngaist ti dros gof. 19 Yna y gwelodd yr Arglwydd, ac a’u ffieiddiodd hwynt; oherwydd ei ddigio gan ei feibion, a’i ferched. 20 Ac efe a ddywedodd, Cuddiaf fy wyneb oddi wrthynt, edrychaf beth fydd eu diwedd hwynt: canys cenhedlaeth drofaus ydynt hwy, meibion heb ffyddlondeb ynddynt.
28 Canys cenedl heb gyngor ydynt hwy, ac heb ddeall ynddynt. 29 O na baent ddoethion, na ddeallent hyn, nad ystyrient eu diwedd! 30 Pa fodd yr ymlidiai un fil, ac y gyrrai dau ddengmil i ffoi, onid am werthu o’u Craig hwynt, a chau o’r Arglwydd arnynt? 31 Canys nid fel ein Craig ni y mae eu craig hwynt; a bydded ein gelynion yn farnwyr. 32 Canys o winwydden Sodom, ac o feysydd Gomorra, y mae eu gwinwydden hwynt: eu grawnwin hwynt sydd rawnwin bustlaidd; grawnsypiau chwerwon sydd iddynt. 33 Gwenwyn dreigiau yw eu gwin hwynt, a chreulon wenwyn asbiaid. 34 Onid yw hyn yng nghudd gyda myfi, wedi ei selio ymysg fy nhrysorau? 35 I mi y perthyn dial, a thalu’r pwyth; mewn pryd y llithr eu troed hwynt: canys agos yw dydd eu trychineb, a phrysuro y mae yr hyn a baratowyd iddynt. 36 Canys yr Arglwydd a farna ei bobl, ac a edifarha am ei weision; pan welo ymado o’u nerth, ac nad oes na gwarchaeëdig, na gweddilledig. 37 Ac efe a ddywed, Pa le y mae eu duwiau hwynt, a’r graig yr ymddiriedasant ynddi, 38 Y rhai a fwytasant fraster eu haberthau, ac a yfasant win eu diod‐offrwm? codant a chynorthwyant chwi, a byddant loches i chwi. 39 Gwelwch bellach mai myfi, myfi yw efe; ac nad oes duw ond myfi: myfi sydd yn lladd, ac yn bywhau; myfi a archollaf, ac mi a feddyginiaethaf: ac ni bydd a achubo o’m llaw.
33 O ddyfnder golud doethineb a gwybodaeth Duw! mor anchwiliadwy yw ei farnau ef! a’i ffyrdd, mor anolrheinadwy ydynt! 34 Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd? neu pwy a fu gynghorwr iddo ef? 35 Neu pwy a roddes iddo ef yn gyntaf, ac fe a delir iddo drachefn? 36 Canys ohono ef, a thrwyddo ef, ac iddo ef, y mae pob peth. Iddo ef y byddo gogoniant yn dragywydd. Amen.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.