Revised Common Lectionary (Complementary)
51 Gwrandewch arnaf fi, ddilynwyr cyfiawnder, y rhai a geisiwch yr Arglwydd: edrychwch ar y graig y’ch naddwyd, ac ar geudod y ffos y’ch cloddiwyd ohonynt. 2 Edrychwch ar Abraham eich tad, ac ar Sara a’ch esgorodd: canys ei hunan y gelwais ef, ac y bendithiais, ac yr amlheais ef. 3 Oherwydd yr Arglwydd a gysura Seion: efe a gysura ei holl anghyfaneddleoedd hi; gwna hefyd ei hanialwch hi fel Eden, a’i diffeithwch fel gardd yr Arglwydd: ceir ynddi lawenydd a hyfrydwch, diolch, a llais cân.
4 Gwrandewch arnaf, fy mhobl; clustymwrandewch â mi, fy nghenedl: canys cyfraith a â allan oddi wrthyf, a gosodaf fy marn yn oleuni pobloedd. 5 Agos yw fy nghyfiawnder; fy iachawdwriaeth a aeth allan, fy mreichiau hefyd a farnant y bobloedd: yr ynysoedd a ddisgwyliant wrthyf, ac a ymddiriedant yn fy mraich. 6 Dyrchefwch eich llygaid tua’r nefoedd, ac edrychwch ar y ddaear isod: canys y nefoedd a ddarfyddant fel mwg, a’r ddaear a heneiddia fel dilledyn, a’i phreswylwyr yr un modd a fyddant feirw; ond fy iachawdwriaeth i a fydd byth, a’m cyfiawnder ni dderfydd.
Salm Dafydd.
138 Clodforaf di â’m holl galon: yng ngŵydd y duwiau y canaf i ti. 2 Ymgrymaf tua’th deml sanctaidd, a chlodforaf dy enw, am dy drugaredd a’th wirionedd: oblegid ti a fawrheaist dy air uwchlaw dy enw oll. 3 Y dydd y llefais, y’m gwrandewaist; ac a’m cadarnheaist â nerth yn fy enaid. 4 Holl frenhinoedd y ddaear a’th glodforant, O Arglwydd, pan glywant eiriau dy enau. 5 Canant hefyd am ffyrdd yr Arglwydd: canys mawr yw gogoniant yr Arglwydd. 6 Er bod yr Arglwydd yn uchel, eto efe a edrych ar yr isel: ond y balch a edwyn efe o hirbell. 7 Pe rhodiwn yng nghanol cyfyngder, ti a’m bywheit: estynnit dy law yn erbyn digofaint fy ngelynion, a’th ddeheulaw a’m hachubai. 8 Yr Arglwydd a gyflawna â mi: dy drugaredd, Arglwydd, sydd yn dragywydd: nac esgeulusa waith dy ddwylo.
12 Am hynny yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, er trugareddau Duw, roddi ohonoch eich cyrff yn aberth byw, sanctaidd, cymeradwy gan Dduw; yr hyn yw eich rhesymol wasanaeth chwi. 2 Ac na chydymffurfiwch â’r byd hwn: eithr ymnewidiwch trwy adnewyddiad eich meddwl; fel y profoch beth yw daionus, a chymeradwy, a pherffaith ewyllys Duw. 3 Canys yr wyf yn dywedyd, trwy y gras a roddwyd i mi, wrth bob un a’r sydd yn eich plith, na byddo i neb uchel synied yn amgen nag y dylid synied; eithr synied i sobrwydd, fel y rhannodd Duw i bob un fesur ffydd. 4 Canys megis y mae gennym aelodau lawer mewn un corff, ac nad oes gan yr holl aelodau yr un swydd: 5 Felly ninnau, a ni yn llawer, ydym un corff yng Nghrist, a phob un yn aelodau i’w gilydd. 6 A chan fod i ni amryw ddoniau yn ôl y gras a roddwyd i ni, pa un bynnag ai proffwydoliaeth, proffwydwn yn ôl cysondeb y ffydd; 7 Ai gweinidogaeth, byddwn ddyfal yn y weinidogaeth; neu yr hwn sydd yn athrawiaethu, yn yr athrawiaeth; 8 Neu yr hwn sydd yn cynghori, yn y cyngor: yr hwn sydd yn cyfrannu, gwnaed mewn symlrwydd; yr hwn sydd yn llywodraethu, mewn diwydrwydd; yr hwn sydd yn trugarhau, mewn llawenydd.
13 Ac wedi dyfod yr Iesu i dueddau Cesarea Philipi, efe a ofynnodd i’w ddisgyblion, gan ddywedyd, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i, Mab y dyn? 14 A hwy a ddywedasant, Rhai, mai Ioan Fedyddiwr, a rhai, mai Eleias, ac eraill, mai Jeremeias, neu un o’r proffwydi. 15 Efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy meddwch chwi ydwyf fi? 16 A Simon Pedr a atebodd ac a ddywedodd, Ti yw’r Crist, Mab y Duw byw. 17 A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrtho, Gwyn dy fyd di, Simon mab Jona: canys nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn i ti, ond fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. 18 Ac yr ydwyf finnau yn dywedyd i ti, mai ti yw Pedr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys; a phyrth uffern nis gorchfygant hi. 19 A rhoddaf i ti agoriadau teyrnas nefoedd: a pha beth bynnag a rwymech ar y ddaear, a fydd rhwymedig yn y nefoedd; a pha beth bynnag a ryddhaech ar y ddaear, a fydd wedi ei ryddhau yn y nefoedd. 20 Yna y gorchmynnodd efe i’w ddisgyblion, na ddywedent i neb mai efe oedd Iesu Grist.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.