Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm neu Gân meibion Cora.
87 Ei sail sydd ar y mynyddoedd sanctaidd. 2 Yr Arglwydd a gâr byrth Seion yn fwy na holl breswylfeydd Jacob. 3 Gogoneddus bethau a ddywedir amdanat ti, O ddinas Duw. Sela. 4 Cofiaf Rahab a Babilon wrth fy nghydnabod: wele Philistia, a Thyrus, ynghyd ag Ethiopia. Yno y ganwyd hwn. 5 Ac am Seion y dywedir, Y gŵr a’r gŵr a anwyd ynddi: a’r Goruchaf ei hun a’i sicrha hi. 6 Yr Arglwydd a gyfrif pan ysgrifenno y bobl, eni hwn yno. Sela. 7 Y cantorion a’r cerddorion a fyddant yno: fy holl ffynhonnau sydd ynot ti.
8 Dwg allan y bobl ddall sydd â llygaid iddynt, a’r byddariaid sydd â chlustiau iddynt. 9 Casgler yr holl genhedloedd ynghyd, a chynuller y bobloedd; pwy yn eu mysg a fynega hyn, ac a draetha i ni y pethau o’r blaen? dygant eu tystion, fel y cyfiawnhaer hwynt; neu wrandawant, a dywedant, Gwir yw. 10 Fy nhystion i ydych chwi, medd yr Arglwydd, a’m gwas yr hwn a ddewisais; fel yr adnabyddoch, ac y credoch fi, ac y dealloch mai myfi yw: o’m blaen nid oedd Duw wedi ei ffurfio, ac ni bydd ar fy ôl. 11 Myfi, myfi yw yr Arglwydd; ac nid oes geidwad ond myfi. 12 Myfi a fynegais, ac a achubais, ac a ddangosais, pryd nad oedd duw dieithr yn eich mysg: am hynny chwi ydych fy nhystion, medd yr Arglwydd, mai myfi sydd Dduw. 13 Ie, cyn bod dydd yr ydwyf fi; ac nid oes a wared o’m llaw: gwnaf, a phwy a’i lluddia?
13 Canys wrthych chwi y Cenhedloedd yr wyf yn dywedyd, yn gymaint â’m bod i yn apostol y Cenhedloedd, yr wyf yn mawrhau fy swydd; 14 Os gallaf ryw fodd yrru eiddigedd ar fy nghig a’m gwaed fy hun, ac achub rhai ohonynt. 15 Canys os yw eu gwrthodiad hwy yn gymod i’r byd, beth fydd eu derbyniad hwy ond bywyd o feirw? 16 Canys os sanctaidd y blaenffrwyth, y mae’r clamp toes hefyd yn sanctaidd: ac os sanctaidd y gwreiddyn, y mae’r canghennau hefyd felly. 17 Ac os rhai o’r canghennau a dorrwyd ymaith, a thydi yn olewydden wyllt a impiwyd i mewn yn eu plith hwy, ac a’th wnaethpwyd yn gyfrannog o’r gwreiddyn, ac o fraster yr olewydden; 18 Na orfoledda yn erbyn y canghennau. Ac os gorfoleddi, nid tydi sydd yn dwyn y gwreiddyn, eithr y gwreiddyn dydi. 19 Ti a ddywedi gan hynny, Torrwyd y canghennau ymaith, fel yr impid fi i mewn. 20 Da; trwy anghrediniaeth y torrwyd hwynt ymaith, a thithau sydd yn sefyll trwy ffydd. Na fydd uchelfryd, eithr ofna. 21 Canys onid arbedodd Duw y canghennau naturiol, gwylia rhag nad arbedo dithau chwaith. 22 Gwêl am hynny ddaioni a thoster Duw: sef i’r rhai a gwympasant, toster; eithr daioni i ti, os arhosi yn ei ddaioni ef: os amgen, torrir dithau hefyd ymaith. 23 A hwythau, onid arhosant yn anghrediniaeth, a impir i mewn: canys fe all Duw eu himpio hwy i mewn drachefn. 24 Canys os tydi a dorrwyd ymaith o’r olewydden yr hon oedd wyllt wrth naturiaeth, a’th impio yn erbyn naturiaeth mewn gwir olewydden; pa faint mwy y caiff y rhai hyn sydd wrth naturiaeth, eu himpio i mewn yn eu holewydden eu hun? 25 Canys nid ewyllysiwn, frodyr, eich bod heb wybod y dirgelwch hwn, (fel na byddoch ddoethion yn eich golwg eich hun,) ddyfod dallineb o ran i Israel, hyd oni ddêl cyflawnder y Cenhedloedd i mewn. 26 Ac felly holl Israel a fydd cadwedig; fel y mae yn ysgrifenedig, Y Gwaredwr a ddaw allan o Seion, ac a dry ymaith annuwioldeb oddi wrth Jacob. 27 A hyn yw’r amod sydd iddynt gennyf fi, pan gymerwyf ymaith eu pechodau hwynt. 28 Felly o ran yr efengyl, gelynion ydynt o’ch plegid chwi: eithr o ran yr etholedigaeth, caredigion ydynt oblegid y tadau. 29 Canys diedifarus yw doniau a galwedigaeth Duw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.