Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 87

Salm neu Gân meibion Cora.

87 Ei sail sydd ar y mynyddoedd sanctaidd. Yr Arglwydd a gâr byrth Seion yn fwy na holl breswylfeydd Jacob. Gogoneddus bethau a ddywedir amdanat ti, O ddinas Duw. Sela. Cofiaf Rahab a Babilon wrth fy nghydnabod: wele Philistia, a Thyrus, ynghyd ag Ethiopia. Yno y ganwyd hwn. Ac am Seion y dywedir, Y gŵr a’r gŵr a anwyd ynddi: a’r Goruchaf ei hun a’i sicrha hi. Yr Arglwydd a gyfrif pan ysgrifenno y bobl, eni hwn yno. Sela. Y cantorion a’r cerddorion a fyddant yno: fy holl ffynhonnau sydd ynot ti.

2 Brenhinoedd 5:1-14

A Naaman, tywysog llu brenin Syria, oedd ŵr mawr yng ngolwg ei arglwydd, ac yn anrhydeddus; canys trwyddo ef y rhoddasai yr Arglwydd ymwared i Syria: ac yr oedd efe yn ŵr cadarn nerthol, ond yr oedd yn wahanglwyfus. A’r Syriaid a aethent allan yn finteioedd, ac a gaethgludasent o wlad Israel lances fechan; a honno oedd yn gwasanaethu gwraig Naaman. A hi a ddywedodd wrth ei meistres, O na byddai fy arglwydd o flaen y proffwyd sydd yn Samaria! canys efe a’i hiachâi ef o’i wahanglwyf. Ac un a aeth ac a fynegodd i’w arglwydd, gan ddywedyd, Fel hyn ac fel hyn y dywedodd y llances o wlad Israel. A brenin Syria a ddywedodd, Dos, cerdda, a mi a anfonaf lythyr at frenin Israel. Ac efe a aeth ymaith, ac a ddug gydag ef ddeg talent o arian, a chwe mil o aur, a deg pâr o ddillad. Ac efe a ddug y llythyr at frenin Israel, gan ddywedyd, Yn awr pan ddêl y llythyr hwn atat ti, wele, anfonais atat ti Naaman fy ngwas, fel yr iacheit ef o’i wahanglwyf. A phan ddarllenodd brenin Israel y llythyr, efe a rwygodd ei ddillad, ac a ddywedodd, Ai Duw ydwyf fi, i farwhau, ac i fywhau, pan anfonai efe ataf fi i iacháu gŵr o’i wahanglwyf? gwybyddwch gan hynny, atolwg, a gwelwch mai ceisio achos y mae efe i’m herbyn i.

A phan glybu Eliseus gŵr Duw rwygo o frenin Israel ei ddillad, efe a anfonodd at y brenin, gan ddywedyd, Paham y rhwygaist dy ddillad? deued yn awr ataf fi, ac efe a gaiff wybod fod proffwyd yn Israel. Yna Naaman a ddaeth â’i feirch ac â’i gerbydau, ac a safodd wrth ddrws tŷ Eliseus. 10 Ac Eliseus a anfonodd ato ef gennad, gan ddywedyd, Dos ac ymolch saith waith yn yr Iorddonen; a’th gnawd a ddychwel i ti, a thithau a lanheir. 11 Ond Naaman a ddigiodd, ac a aeth ymaith; ac a ddywedodd, Wele, mi a feddyliais ynof fy hun, gan ddyfod y deuai efe allan, ac y safai efe, ac y galwai ar enw yr Arglwydd ei Dduw, ac y gosodai ei law ar y fan, ac yr iachâi y gwahanglwyfus. 12 Onid gwell Abana a Pharpar, afonydd Damascus, na holl ddyfroedd Israel? oni allaf ymolchi ynddynt hwy, ac ymlanhau? Felly efe a drodd, ac a aeth ymaith mewn dicter. 13 A’i weision a nesasant, ac a lefarasant wrtho, ac a ddywedasant, Fy nhad, pe dywedasai y proffwyd beth mawr wrthyt ti, onis gwnelsit? pa faint mwy, gan iddo ddywedyd wrthyt, Ymolch, a bydd lân? 14 Ac yna efe a aeth i waered, ac a ymdrochodd saith waith yn yr Iorddonen, yn ôl gair gŵr Duw: a’i gnawd a ddychwelodd fel cnawd dyn bach, ac efe a lanhawyd.

Actau 15:1-21

15 Arhai wedi dyfod i waered o Jwdea, a ddysgasant y brodyr, gan ddywedyd, Onid enwaedir chwi yn ôl defod Moses, ni ellwch fod yn gadwedig. A phan ydoedd ymryson a dadlau nid bychan gan Paul a Barnabas yn eu herbyn, hwy a ordeiniasant fyned o Paul a Barnabas, a rhai eraill ohonynt, i fyny i Jerwsalem, at yr apostolion a’r henuriaid, ynghylch y cwestiwn yma. Ac wedi eu hebrwng gan yr eglwys, hwy a dramwyasant trwy Phenice a Samaria, gan fynegi troad y Cenhedloedd: a hwy a barasant lawenydd mawr i’r brodyr oll. Ac wedi eu dyfod hwy i Jerwsalem hwy a dderbyniwyd gan yr eglwys, a chan yr apostolion, a chan yr henuriaid; a hwy a fynegasant yr holl bethau a wnaethai Duw gyda hwynt. Eithr cyfododd rhai o sect y Phariseaid y rhai oedd yn credu, gan ddywedyd, Mai rhaid iddynt eu henwaedu, a gorchymyn cadw deddf Moses.

A’r apostolion a’r henuriaid a ddaethant ynghyd i edrych am y mater yma. Ac wedi bod ymddadlau mawr, cyfododd Pedr, ac a ddywedodd wrthynt, Ha wŷr frodyr, chwi a wyddoch ddarfod i Dduw er ys talm o amser yn ein plith ni fy ethol i, i gael o’r Cenhedloedd trwy fy ngenau i glywed gair yr efengyl, a chredu. A Duw, adnabyddwr calonnau, a ddug dystiolaeth iddynt, gan roddi iddynt yr Ysbryd Glân, megis ag i ninnau: Ac ni wnaeth efe ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwynt, gan buro eu calonnau hwy trwy ffydd. 10 Yn awr gan hynny paham yr ydych chwi yn temtio Duw, i ddodi iau ar warrau’r disgyblion, yr hon ni allai ein tadau ni na ninnau ei dwyn? 11 Eithr trwy ras yr Arglwydd Iesu Grist, yr ydym ni yn credu ein bod yn gadwedig, yr un modd â hwythau.

12 A’r holl liaws a ddistawodd, ac a wrandawodd ar Barnabas a Phaul, yn mynegi pa arwyddion a rhyfeddodau eu maint a wnaethai Duw ymhlith y Cenhedloedd trwyddynt hwy.

13 Ac wedi iddynt ddistewi, atebodd Iago, gan ddywedyd, Ha wŷr frodyr, gwrandewch arnaf fi. 14 Simeon a fynegodd pa wedd yr ymwelodd Duw ar y cyntaf, i gymryd o’r Cenhedloedd bobl i’w enw. 15 Ac â hyn y cytuna geiriau’r proffwydi; megis y mae yn ysgrifenedig, 16 Ar ôl hyn y dychwelaf, ac yr adeiladaf drachefn dabernacl Dafydd, yr hwn sydd wedi syrthio; a’i fylchau ef a adeiladaf drachefn, ac a’i cyfodaf eilchwyl: 17 Fel y byddo i hyn a weddiller o ddynion geisio’r Arglwydd, ac i’r holl Genhedloedd, y rhai y gelwir fy enw i arnynt, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd yn gwneuthur yr holl bethau hyn. 18 Hysbys i Dduw yw ei weithredoedd oll erioed. 19 Oherwydd paham fy marn i yw, na flinom y rhai o’r Cenhedloedd a droesant at Dduw: 20 Eithr ysgrifennu ohonom ni atynt, ar ymgadw ohonynt oddi wrth halogrwydd delwau, a godineb, ac oddi wrth y peth a dagwyd, ac oddi wrth waed. 21 Canys y mae i Moses ym mhob dinas, er yr hen amseroedd, rai a’i pregethant ef, gan fod yn ei ddarllen yn y synagogau bob Saboth.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.