Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm neu Gân.
67 Duw a drugarhao wrthym, ac a’n bendithio; a thywynned ei wyneb arnom: Sela: 2 Fel yr adwaener dy ffordd ar y ddaear, a’th iachawdwriaeth ymhlith yr holl genhedloedd. 3 Molianned y bobl di, O Dduw; molianned yr holl bobl dydi. 4 Llawenhaed y cenhedloedd, a byddant hyfryd: canys ti a ferni y bobl yn uniawn, ac a lywodraethi y cenhedloedd ar y ddaear. Sela. 5 Molianned y bobl di, O Dduw; molianned yr holl bobl dydi. 6 Yna y ddaear a rydd ei ffrwyth; a Duw, sef ein Duw ni, a’n bendithia. 7 Duw a’n bendithia; a holl derfynau y ddaear a’i hofnant ef.
56 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Cedwch farn, a gwnewch gyfiawnder: canys fy iachawdwriaeth sydd ar ddyfod, a’m cyfiawnder ar ymddangos. 2 Gwyn ei fyd y dyn a wnelo hyn, a mab y dyn a ymaflo ynddo; gan gadw y Saboth heb ei halogi, a chadw ei law rhag gwneuthur dim drwg.
3 Ac na lefared y dieithrfab, yr hwn a lynodd wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd, Yr Arglwydd gan ddidoli a’m didolodd oddi wrth ei bobl; ac na ddyweded y disbaddedig, Wele fi yn bren crin. 4 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth y rhai disbaddedig, y rhai a gadwant fy Sabothau, ac a ddewisant yr hyn a ewyllysiwyf, ac a ymaflant yn fy nghyfamod i; 5 Ie, rhoddaf iddynt yn fy nhŷ, ac o fewn fy magwyrydd, le ac enw gwell na meibion ac na merched: rhoddaf iddynt enw tragwyddol, yr hwn ni thorrir ymaith.
34 Ac wedi iddynt fyned trosodd, hwy a ddaethant i dir Gennesaret. 35 A phan adnabu gwŷr y fan honno ef, hwy a anfonasant i’r holl wlad honno o amgylch, ac a ddygasant ato y rhai oll oedd mewn anhwyl; 36 Ac a atolygasant iddo gael cyffwrdd yn unig ag ymyl ei wisg ef: a chynifer ag a gyffyrddodd, a iachawyd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.