Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm neu Gân.
67 Duw a drugarhao wrthym, ac a’n bendithio; a thywynned ei wyneb arnom: Sela: 2 Fel yr adwaener dy ffordd ar y ddaear, a’th iachawdwriaeth ymhlith yr holl genhedloedd. 3 Molianned y bobl di, O Dduw; molianned yr holl bobl dydi. 4 Llawenhaed y cenhedloedd, a byddant hyfryd: canys ti a ferni y bobl yn uniawn, ac a lywodraethi y cenhedloedd ar y ddaear. Sela. 5 Molianned y bobl di, O Dduw; molianned yr holl bobl dydi. 6 Yna y ddaear a rydd ei ffrwyth; a Duw, sef ein Duw ni, a’n bendithia. 7 Duw a’n bendithia; a holl derfynau y ddaear a’i hofnant ef.
20 Ymgesglwch, a deuwch; cydnesewch, rai dihangol y cenhedloedd; nid oes gwybodaeth gan y rhai a ddyrchafant goed eu cerfddelw, ac a weddïant dduw ni all achub. 21 Mynegwch, a nesewch hwynt; cydymgynghorant hefyd; pwy a draethodd hyn er cynt? pwy a’i mynegodd er y pryd hwnnw? onid myfi yr Arglwydd? ac nid oes Duw arall ond myfi; yn Dduw cyfiawn, ac yn achubydd; nid oes ond myfi. 22 Trowch eich wynebau ataf fi, holl gyrrau y ddaear, fel y’ch achuber: canys myfi wyf Dduw, ac nid neb arall. 23 I mi fy hun y tyngais, aeth y gair o’m genau mewn cyfiawnder, ac ni ddychwel, Mai i mi y plyga pob glin, y twng pob tafod. 24 Yn ddiau yn yr Arglwydd, medd un, y mae i mi gyfiawnder a nerth; ato ef y deuir; a chywilyddir pawb a ddigiant wrtho. 25 Yn yr Arglwydd y cyfiawnheir, ac yr ymogonedda holl had Israel.
15 Ac mi a welais arwydd arall yn y nef, mawr, a rhyfeddol; saith angel a chanddynt y saith bla diwethaf: oblegid ynddynt hwy y cyflawnwyd llid Duw. 2 Ac mi a welais megis môr o wydr wedi ei gymysgu â thân; a’r rhai oedd yn cael y maes ar y bwystfil, ac ar ei ddelw ef, ac ar ei nod ef, ac ar rifedi ei enw ef, yn sefyll ar y môr gwydr, a thelynau Duw ganddynt. 3 A chanu y maent gân Moses gwasanaethwr Duw, a chân yr Oen; gan ddywedyd, Mawr a rhyfedd yw dy weithredoedd, O Arglwydd Dduw Hollalluog; cyfiawn a chywir yw dy ffyrdd di, Brenin y saint. 4 Pwy ni’th ofna di, O Arglwydd, ac ni ogonedda dy enw? oblegid tydi yn unig wyt sanctaidd: oblegid yr holl genhedloedd a ddeuant ac a addolant ger dy fron di; oblegid dy farnau di a eglurwyd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.