Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 18:1-19

I’r Pencerdd, Salm Dafydd, gwas yr Arglwydd, yr hwn a lefarodd wrth yr Arglwydd eiriau y gân hon, yn y dydd y gwaredodd yr Arglwydd ef o law ei holl elynion, ac o law Saul: ac efe a ddywedodd,

18 Caraf di, Arglwydd fy nghadernid. Yr Arglwydd yw fy nghraig, a’m hamddiffynfa, a’m gwaredydd; fy Nuw, fy nghadernid, yn yr hwn yr ymddiriedaf; fy nharian, a chorn fy iachawdwriaeth, a’m huchel dŵr. Galwaf ar yr Arglwydd canmoladwy: felly y’m cedwir rhag fy ngelynion. Gofidion angau a’m cylchynasant, ac afonydd y fall a’m dychrynasant i. Gofidiau uffern a’m cylchynasant: maglau angau a achubasant fy mlaen. Yn fy nghyfyngder y gelwais ar yr Arglwydd, ac y gwaeddais ar fy Nuw: efe a glybu fy llef o’i deml, a’m gwaedd ger ei fron a ddaeth i’w glustiau ef. Yna y siglodd ac y crynodd y ddaear; a seiliau y mynyddoedd a gynhyrfodd ac a ymsiglodd, am iddo ef ddigio. Dyrchafodd mwg o’i ffroenau, a thân a ysodd o’i enau: glo a enynasant ganddo. Efe hefyd a ostyngodd y nefoedd, ac a ddisgynnodd: a thywyllwch oedd dan ei draed ef. 10 Marchogodd hefyd ar y ceriwb, ac a ehedodd: ie, efe a ehedodd ar adenydd y gwynt. 11 Efe a wnaeth dywyllwch yn ddirgelfa iddo; a’i babell o’i amgylch oedd dywyllwch dyfroedd, a thew gymylau yr awyr. 12 Gan y disgleirdeb oedd ger ei fron, ei gymylau a aethant heibio; cenllysg a marwor tanllyd. 13 Yr Arglwydd hefyd a daranodd yn y nefoedd, a’r Goruchaf a roddes ei lef; cenllysg a marwor tanllyd. 14 Ie, efe a anfonodd ei saethau, ac a’u gwasgarodd hwynt; ac a saethodd ei fellt, ac a’u gorchfygodd hwynt. 15 Gwaelodion y dyfroedd a welwyd, a seiliau y byd a ddinoethwyd gan dy gerydd di, O Arglwydd, a chan chwythad anadl dy ffroenau. 16 Anfonodd oddi uchod, cymerodd fi, tynnodd fi allan o ddyfroedd lawer. 17 Efe a’m gwaredodd oddi wrth fy ngelyn cadarn, a rhag fy nghaseion: canys yr oeddynt yn drech na mi. 18 Achubasant fy mlaen yn nydd fy ngofid: ond yr Arglwydd oedd gynhaliad i mi. 19 Dug fi hefyd i ehangder: gwaredodd fi; canys ymhoffodd ynof.

Job 36:24-33

24 Cofia fawrhau ei waith ef, ar yr hwn yr edrych dynion. 25 Pob dyn a’i gwêl; a dyn a’i cenfydd o bell. 26 Wele, mawr yw Duw, ac nid adwaenom ef; ac ni fedrir chwilio allan nifer ei flynyddoedd ef. 27 Canys efe a wna y defnynnau dyfroedd yn fân: hwy a dywalltant law fel y byddo ei darth; 28 Yr hwn a ddifera ac a ddefnynna y cymylau ar ddyn yn helaeth. 29 Hefyd, a ddeall dyn daeniadau y cymylau, a thwrf ei babell ef? 30 Wele, efe a daenodd ei oleuni arno, ac a orchuddiodd waelod y môr. 31 Canys â hwynt y barn efe y bobloedd, ac y rhydd efe fwyd yn helaeth. 32 Efe a guddia y goleuni â chymylau; ac a rydd orchymyn iddo na thywynno trwy y cwmwl sydd rhyngddynt. 33 Ei dwrf a fynega amdano, a’r anifeiliaid am y tarth.

Job 37:14-24

14 Gwrando hyn, Job; saf, ac ystyria ryfeddodau Duw. 15 A wyddost ti pa bryd y dosbarthodd Duw hwynt, ac y gwnaeth efe i oleuni ei gwmwl lewyrchu? 16 A wyddost ti oddi wrth bwysau y cymylau, rhyfeddodau yr hwn sydd berffaith‐gwbl o wybodaeth? 17 Pa fodd y mae dy ddillad yn gynnes, pan baro efe y ddaear yn dawel â’r deheuwynt? 18 A daenaist ti gydag ef yr wybren, yr hon a sicrhawyd fel drych toddedig? 19 Gwna i ni wybod pa beth a ddywedwn wrtho: ni fedrwn ni gyfleu ein geiriau gan dywyllwch. 20 A fynegir iddo ef os llefaraf? os dywed neb, diau y llyncir ef. 21 Ac yn awr, ni wêl neb y goleuni disglair sydd yn y cymylau: ond myned y mae y gwynt, a’u puro hwynt. 22 O’r gogleddwynt y daw hindda: y mae yn Nuw ogoniant mwy ofnadwy. 23 Am yr Hollalluog, ni allwn ni mo’i gael ef: ardderchog yw o nerth, a barn, a helaethrwydd cyfiawnder: ni chystuddia efe. 24 Am hynny yr ofna dynion ef: nid edrych efe ar neb doeth eu calon.

Mathew 8:23-27

23 Ac wedi iddo fyned i’r llong, ei ddisgyblion a’i canlynasant ef. 24 Ac wele, bu cynnwrf mawr yn y môr, hyd oni chuddiwyd y llong gan y tonnau: eithr efe oedd yn cysgu. 25 A’i ddisgyblion a ddaethant ato, ac a’i deffroasant, gan ddywedyd, Arglwydd, cadw ni: darfu amdanom. 26 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn ofnus, O chwi o ychydig ffydd? Yna y cododd efe, ac y ceryddodd y gwyntoedd a’r môr; a bu dawelwch mawr. 27 A’r dynion a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa ryw un yw hwn, gan fod y gwyntoedd hefyd a’r môr yn ufuddhau iddo!

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.