Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 18:1-19

I’r Pencerdd, Salm Dafydd, gwas yr Arglwydd, yr hwn a lefarodd wrth yr Arglwydd eiriau y gân hon, yn y dydd y gwaredodd yr Arglwydd ef o law ei holl elynion, ac o law Saul: ac efe a ddywedodd,

18 Caraf di, Arglwydd fy nghadernid. Yr Arglwydd yw fy nghraig, a’m hamddiffynfa, a’m gwaredydd; fy Nuw, fy nghadernid, yn yr hwn yr ymddiriedaf; fy nharian, a chorn fy iachawdwriaeth, a’m huchel dŵr. Galwaf ar yr Arglwydd canmoladwy: felly y’m cedwir rhag fy ngelynion. Gofidion angau a’m cylchynasant, ac afonydd y fall a’m dychrynasant i. Gofidiau uffern a’m cylchynasant: maglau angau a achubasant fy mlaen. Yn fy nghyfyngder y gelwais ar yr Arglwydd, ac y gwaeddais ar fy Nuw: efe a glybu fy llef o’i deml, a’m gwaedd ger ei fron a ddaeth i’w glustiau ef. Yna y siglodd ac y crynodd y ddaear; a seiliau y mynyddoedd a gynhyrfodd ac a ymsiglodd, am iddo ef ddigio. Dyrchafodd mwg o’i ffroenau, a thân a ysodd o’i enau: glo a enynasant ganddo. Efe hefyd a ostyngodd y nefoedd, ac a ddisgynnodd: a thywyllwch oedd dan ei draed ef. 10 Marchogodd hefyd ar y ceriwb, ac a ehedodd: ie, efe a ehedodd ar adenydd y gwynt. 11 Efe a wnaeth dywyllwch yn ddirgelfa iddo; a’i babell o’i amgylch oedd dywyllwch dyfroedd, a thew gymylau yr awyr. 12 Gan y disgleirdeb oedd ger ei fron, ei gymylau a aethant heibio; cenllysg a marwor tanllyd. 13 Yr Arglwydd hefyd a daranodd yn y nefoedd, a’r Goruchaf a roddes ei lef; cenllysg a marwor tanllyd. 14 Ie, efe a anfonodd ei saethau, ac a’u gwasgarodd hwynt; ac a saethodd ei fellt, ac a’u gorchfygodd hwynt. 15 Gwaelodion y dyfroedd a welwyd, a seiliau y byd a ddinoethwyd gan dy gerydd di, O Arglwydd, a chan chwythad anadl dy ffroenau. 16 Anfonodd oddi uchod, cymerodd fi, tynnodd fi allan o ddyfroedd lawer. 17 Efe a’m gwaredodd oddi wrth fy ngelyn cadarn, a rhag fy nghaseion: canys yr oeddynt yn drech na mi. 18 Achubasant fy mlaen yn nydd fy ngofid: ond yr Arglwydd oedd gynhaliad i mi. 19 Dug fi hefyd i ehangder: gwaredodd fi; canys ymhoffodd ynof.

Genesis 19:1-29

19 A dau angel a ddaeth i Sodom yn yr hwyr, a Lot yn eistedd ym mhorth Sodom: a phan welodd Lot, efe a gyfododd i’w cyfarfod hwynt, ac a ymgrymodd â’i wyneb tua’r ddaear; Ac efe a ddywedodd, Wele yn awr, fy Arglwyddi, trowch, atolwg, i dŷ eich gwas; lletywch heno hefyd, a golchwch eich traed: yna codwch yn fore, ac ewch i’ch taith. A hwy a ddywedasant, Nage; oherwydd nyni a arhoswn heno yn yr heol. Ac efe a fu daer iawn arnynt hwy: yna y troesant ato, ac y daethant i’w dŷ ef; ac efe a wnaeth iddynt wledd, ac a bobodd fara croyw, a hwy a fwytasant.

Eithr cyn gorwedd ohonynt, gwŷr y ddinas, sef gwŷr Sodom, a amgylchasant o amgylch y tŷ, hen ac ieuanc, sef yr holl bobl o bob cwr; Ac a alwasant ar Lot, ac a ddywedasant wrtho, Mae y gwŷr a ddaethant atat ti heno? dwg hwynt allan atom ni, fel yr adnabyddom hwynt. Yna y daeth Lot atynt hwy allan i’r drws, ac a gaeodd y ddôr ar ei ôl; Ac a ddywedodd, Atolwg, fy mrodyr, na wnewch ddrwg. Wele yn awr, y mae dwy ferch gennyf fi, y rhai nid adnabuant ŵr; dygaf hwynt allan atoch chwi yn awr, a gwnewch iddynt fel y gweloch yn dda: yn unig na wnewch ddim i’r gwŷr hyn; oherwydd er mwyn hynny y daethant dan gysgod fy nghronglwyd i. A hwy a ddywedasant, Saf hwnt: dywedasant hefyd, Efe a ddaeth i ymdaith yn unig, ac yn awr ai gan farnu y barna efe? yn awr nyni a wnawn fwy o niwed i ti nag iddynt hwy. A hwy a bwysasant yn drwm ar y gŵr, sef ar Lot, a hwy a nesasant i dorri’r ddôr. 10 A’r gwŷr a estynasant eu llaw, ac a ddygasant Lot atynt i’r tŷ, ac a gaeasant y ddôr. 11 Trawsant hefyd y dynion oedd wrth ddrws y tŷ â dallineb, o fychan i fawr, fel y blinasant yn ceisio’r drws.

12 A’r gwŷr a ddywedasant wrth Lot, A oes gennyt ti yma neb eto? mab yng nghyfraith, a’th feibion, a’th ferched, a’r hyn oll sydd i ti yn y ddinas, a ddygi di allan o’r fangre hon. 13 Oblegid ni a ddinistriwn y lle hwn; am fod eu gwaedd hwynt yn fawr gerbron yr Arglwydd: a’r Arglwydd a’n hanfonodd ni i’w ddinistrio ef. 14 Yna yr aeth Lot allan, ac a lefarodd wrth ei ddawon, y rhai oedd yn priodi ei ferched ef, ac a ddywedodd, Cyfodwch, deuwch allan o’r fan yma; oherwydd y mae’r Arglwydd yn difetha’r ddinas hon: ac yng ngolwg ei ddawon yr oedd efe fel un yn cellwair.

15 Ac ar godiad y wawr, yr angylion a fuant daer ar Lot, gan ddywedyd, Cyfod, cymer dy wraig, a’th ddwy ferch, y rhai sydd i’w cael; rhag dy ddifetha di yn anwiredd y ddinas. 16 Yntau a oedd hwyrfrydig, a’r gwŷr a ymaflasant yn ei law ef, ac yn llaw ei wraig, ac yn llaw ei ddwy ferch; am dosturio o’r Arglwydd wrtho ef; ac a’i dygasant ef allan, ac a’i gosodasant o’r tu allan i’r ddinas. 17 Ac wedi iddynt eu dwyn hwynt allan, efe a ddywedodd, Dianc am dy einioes; nac edrych ar dy ôl, ac na saf yn yr holl wastadedd: dianc i’r mynydd, rhag dy ddifetha. 18 A dywedodd Lot wrthynt, O nid felly, fy Arglwydd. 19 Wele yn awr, cafodd dy was ffafr yn dy olwg, a mawrheaist dy drugaredd a wnaethost â mi, gan gadw fy einioes; ac ni allaf fi ddianc i’r mynydd, rhag i ddrwg fy ngoddiweddyd, a marw ohonof. 20 Wele yn awr, y ddinas hon yn agos i ffoi iddi, a bechan yw: O gad i mi ddianc yno, (onid bechan yw hi?) a byw fydd fy enaid. 21 Yntau a ddywedodd wrtho, Wele, mi a ganiateais dy ddymuniad hefyd am y peth hyn, fel na ddinistriwyf y ddinas am yr hon y dywedaist. 22 Brysia, dianc yno; oherwydd ni allaf wneuthur dim nes dy ddyfod yno: am hynny y galwodd efe enw y ddinas Soar.

23 Cyfodasai yr haul ar y ddaear, pan ddaeth Lot i Soar. 24 Yna yr Arglwydd a lawiodd ar Sodom a Gomorra frwmstan a thân oddi wrth yr Arglwydd, allan o’r nefoedd. 25 Felly y dinistriodd efe y dinasoedd hynny, a’r holl wastadedd, a holl drigolion y dinasoedd, a chnwd y ddaear.

26 Eithr ei wraig ef a edrychodd drach ei chefn o’i du ôl ef, a hi a aeth yn golofn halen.

27 Ac Abraham a aeth yn fore i’r lle y safasai efe ynddo gerbron yr Arglwydd. 28 Ac efe a edrychodd tua Sodom a Gomorra, a thua holl dir y gwastadedd; ac a edrychodd, ac wele, cyfododd mwg y tir fel mwg ffwrn.

29 A phan ddifethodd Duw ddinasoedd y gwastadedd, yna y cofiodd Duw am Abraham, ac a yrrodd Lot o ganol y dinistr, pan ddinistriodd efe y dinasoedd yr oedd Lot yn trigo ynddynt.

Rhufeiniaid 9:14-29

14 Beth gan hynny a ddywedwn ni? A oes anghyfiawnder gyda Duw? Na ato Duw. 15 Canys y mae yn dywedyd wrth Moses, Mi a drugarhaf wrth yr hwn y trugarhawyf, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf. 16 Felly gan hynny nid o’r hwn sydd yn ewyllysio y mae, nac o’r hwn sydd yn rhedeg chwaith; ond o Dduw, yr hwn sydd yn trugarhau. 17 Canys y mae’r ysgrythur yn dywedyd wrth Pharo, I hyn yma y’th gyfodais di, fel y dangoswn fy ngallu ynot ti, ac fel y datgenid fy enw trwy’r holl ddaear. 18 Felly gan hynny y neb y mynno y mae efe yn trugarhau wrtho, a’r neb y mynno y mae efe yn ei galedu. 19 Ti a ddywedi gan hynny wrthyf, Paham y mae efe eto yn beio? canys pwy a wrthwynebodd ei ewyllys ef? 20 Yn hytrach, O ddyn, pwy wyt ti yr hwn a ddadleui yn erbyn Duw? a ddywed y peth ffurfiedig wrth yr hwn a’i ffurfiodd, Paham y’m gwnaethost fel hyn? 21 Onid oes awdurdod i’r crochenydd ar y priddgist, i wneuthur o’r un telpyn pridd un llestr i barch, ac arall i amarch? 22 Beth os Duw, yn ewyllysio dangos ei ddigofaint, a pheri adnabod ei allu, a oddefodd trwy hirymaros lestri digofaint, wedi eu cymhwyso i golledigaeth: 23 Ac i beri gwybod golud ei ogoniant ar lestri trugaredd, y rhai a ragbaratôdd efe i ogoniant, 24 Sef nyni, y rhai a alwodd efe, nid o’r Iddewon yn unig, eithr hefyd o’r Cenhedloedd? 25 Megis hefyd y mae efe yn dywedyd yn Hosea, Mi a alwaf yr hwn nid yw bobl i mi, yn bobl i mi; a’r hon nid yw annwyl, yn annwyl. 26 A bydd yn y fangre lle y dywedwyd wrthynt, Nid fy mhobl i ydych chwi; yno y gelwir hwy yn feibion i’r Duw byw. 27 Hefyd y mae Eseias yn llefain am yr Israel, Cyd byddai nifer meibion Israel fel tywod y môr, gweddill a achubir. 28 Canys efe a orffen ac a gwtoga’r gwaith mewn cyfiawnder: oblegid byr waith a wna’r Arglwydd ar y ddaear. 29 Ac megis y dywedodd Eseias yn y blaen, Oni buasai i Arglwydd y Sabaoth adael i ni had, megis Sodoma y buasem, a gwnaethid ni yn gyffelyb i Gomorra.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.